Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Un o'r Stompwyr - Aneirin Karadog, bardd cadeiriol Eisteddfod yr Urdd 2005 Stomp y castell
Stomp awyr agored gyntaf erioed
Bydd yr hyn sy'n cael ei alw y Stomp awyr agored gyntaf erioed yn cael ei chynnal wythnos yr Eisteddfod eleni.
Mae'r Stomp yn cael ei disgrifio hefyd fel y dyddiad pwysicaf yn hanes castell Caernarfon ers i filwyr Madog ap Llywelyn geisio cipio'r Castell yn y drydedd ganrif ar ddeg!

Noson y Stomp, Awst 5, bydd y gynulleidfa yn eistedd mewn steil picnic o fewn y castell i wrando ar 16 o feirdd - Arwel "Pod" Roberts, Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Gwyneth Glyn, Ifan Roberts, Ifan Prys, Nia Medi, T James Jones, Gwion Hallam, Aneirin Karadog, Gwenno Mair Davies, Karen Owen, Bethan Gwanas, Huw Erith, Guto Dafydd, Cynan Jones - yn cystadlu am stôl y Stomp dan reolaeth y Stompfeistr, Ifor ap Glyn.

Er y bydd y clwb nos Cofi Roc yn darparu bar ni chaniateir i'r gynulleidfa ddod â diodydd.

Wrth egluro pam y dewiswyd y castell dywedodd Lleucu Siencyno'r Academi:

"Yr ateb yn syml yw ein bod wedi rhedeg mas o syniadau am leoliad a fyddai'n ddigon o faint i gynnal Stomp yn ystod wythnos Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau.

"Gan taw ardal yr Eisteddfod eleni yw'r ardal fwyaf barddol yng Nghymru - hynny yw, mae 'na mwy o feirdd mewn milltir sgwâr yma na'r un ardal arall yn Ewrop - rhaid oedd inni ddod o hyd i le a fyddai'n ddigon o faint, ac yn ddigon urddasol, i gynnwys yr holl feirdd a'u dilynwyr.

"Yn ffodus iawn, roedd Cadw wrth eu boddau â'r syniad, a ry'n ni wedi derbyn cefnogaeth Cyngor Gwynedd a Chyngor Celfyddydau Cymru i gynnal y noson."

Pris tocyn yw £10, gyda phris gostyngol o £7 i fyfyrwyr, pensiynwyr ac aelodau'r Academi.

Mae tocynnau ar gael o brif swyddfa'r Academi: 029 2047 2266, ac hefyd o Swyddfa'r Academi yn y gogledd: 01766 522817 a chan Gwen Lasarus, Hyrwyddwraig Llenyddiaeth Gwynedd ar 01286 679465 (est. 2465).

Mwy o storiau Dydd Gwener


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý