Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwilym Owen Gwilym Owen dydd Llun
Ergydion o Faes y Faenol
Hawddamor o Steddfod Fawr Snowdonia ar fore Llun.
Prifwyl y dylai pob un ohonom wneud yn fawr ohoni. Hon, wedi'r cyfan, allai fod y jyncet olaf yng ngogledd Cymru am gyfnod go faith.

Ond mi glywai'r Sanhedrin yn dweud: Dyna fo yr hen shinach yn mynd o flaen gofid unwaith eto.

Ac maen Nhw yn dweud y bydd y Brifwyl hon yn gwneud elw o dros £70,000 - hynny ydi os llwyddir i godi £530,000 o werthu tocynnau.

Dim ond ychydig dros £200,000 oedd mewn llaw ddiwedd yr wythnos - ond dyna fo, rhaid bod yn bositif. Dyna air mawr yr Ŵyl.

Ffugio
A cham positif mae'n debyg ydi'r cylch gorseddol newydd, plastig, a ddefnyddir am y tro cyntaf y bore 'ma.

meini Cylch efo meini ffug - a does dim byd o'i le yn hynny gan mai seremonïau ffug fu seremonïau'r Orsedd erioed!

Ac yn sicr fe all yr Archdderwydd newydd, Selwyn Iolen, ddringo i'r Maen Llog gyda chydwybod clir - y fo sydd wedi talu amdano.

Ar goll
Ond mae un cwestiwn yn codi hefyd - pam tybed y diflannodd enwau dwy ferch o'r rhestr wreiddiol o'r rhai oedd i'w anrhydeddu eleni/

Ai problem a gododd ynglŷn â lliw y wisg a gynigwyd i'r ddwy foneddiges?

Ond ar nodyn cadarnhaol, er bod Aled Jones yn seren go fawr yn y ffurfafen Brydeinig mae'n amlwg nad yw'n disgleirio digon yng ngholeg yr Orsedd.

Gwisg werdd gaiff o eleni ac fe'i derbyniodd yn frwd. Go dda Aled.

Iechyd da
Ac wrth grwydro'r Maes mae digon o arwyddion positif.
Dyna ichi stondin 1609.

Stondin y papur dyddiol Y Byd ac os oes gennych chi rhyw fil o bunnau bach yn sbâr yn eich poced ac yn barod i fuddsoddi yn y Cwmni Dyddiol Cyf - yna fe gewch chi botelaid o Siampên Portmeirion - ie siampên Pinot a Chardonnay cofiwch.

Ac mae yna botelaid ohono ar y ffordd i Galiffornia i'r actor Ioan Gruffudd. Wel, ffantastig ynte?

Ond tybed nad mwy positif fyth fyddai gweld copi o'r papur dyddiol yma ar faes y Brifwyl o'r diwedd?
Iechyd da ichi.

SOS Kenneth
A nodyn positif arall i orffen a chyhoeddi fod pob tocyn wedi mynd ar gyfer wythnos o berfformio Porc Peis Bach yn Theatr Gwynedd.

A dyma'r dro olaf y gwelwn ni Kenneth Parry a'i griw.

Kenneth ParryMaen nhw'n ymddeol rŵan ac mae gen innau syniad positif ar gyfer y Sanhedrin.

Yn y cyfnod pan ydych chi'n cyfethol arbenigwyr i Fwrdd Rheoli'r Brifwyl - beth am wahodd Kenneth Parry?

Cymro ifanc ardderchog sydd wedi arbenigo ar gael ei hun i dwll a goroesi'r cyfan efo gwên.

Dyna union anghenraid ein Prifwyl y dwthwn hwn.
O Faes y Faenol, bore da ichi.


Mwy o storiau Dydd Llun


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý