Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Sian Gwobr Goffa Daniel Owen
Dadramanteiddio'r Wladfa
Nofel sy'n rhoi darlun a all fod yn ddadleuol am yr ymgais sefydlu Gwladfa Gymraeg ym Mhatagonia a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen i Siân Eirian Rees Davies o Bwllheli.

"Aeth yr awdur ati'n fwriadol i anharddu'r syniad Iwtopaidd o'r Wladfa Gymreig," meddai'r beirniaid.

Siân"Dwy thema gyfochrog sydd i'r nofel hon: hynt a helynt y teithwyr ar eu taith ar y Mimosa ac ymdrechion Edwin Cynrig Roberts a Lewis Jones i sefydlu'r Wladychfa."

Er mai stori ddychmygol yw hi mae hefyd yn ymdrin â chymeriadau go iawn hefyd gyda'r awdur yn dweud iddi ddefnyddio ei dychymyg ei hun i 'greu' y cymeriadau hynny.

"O ran dyddiadau a manylion mae'n go agos ati ond o ran pobl a phersonoliaethau, dychymyg pur ydi hynny," meddai'r awdur.

Mae'n amheus a fydd yr ymdriniaeth honno o bobl go iawn yn plesio pawb, yn enwedig yn y Wladfa ei hun lle mae'r arloeswyr cynnar mor uchel eu parch ymhlith y rhai o dras Gymreig sy'n dal i fyw yno.

Dywedodd y beirniaid:

Siân "Mae wedi creu nofel ddiddorol, gynnil ond effeithiol ei darlun o'r cyfnod. Mae'n darlunio'r gweinidogion a'r arweinwyr fel rhai anobeithiol a'r rhai drwg eu moesau fel y gwir arweinyddion . . .

"Darlunir hefyd yn bur effeithlon y trafferthion a gaiff Edwin Cynrig Roberts gyda'i rywioldeb a'r berthynas rhyngddo ef a Lewis Jones a'i wraig Elen.

"Mae llawer o'r cynnwys yn disgrifio teimladau diflas ond nid yw'r ysgrifennu'n ddiflas, a chryn gamp yw llwyddo i wneud hynny," meddan nhw.

SiânAwgrymodd y beirniaid y dylai'r awdur, cyn cyhoeddi'r nofel, newid ei theitl o Stori Hon a fwriadwyd ganddi gan fod y teitl hwnnw yn eu barn hwy yn ddiddychymyg a hynny a wnaed gyda'r awdur yn dweud ei bod yn dechrau arfer a'r teitl newydd.

Mewn cynhadledd i'r wasg wedi'r seremoni i'w anrhydeddu ar lwyfan yr Eisteddfod dywedodd Siân Eirian Rees Davies mai fel rhan o'i chwrs coleg y lluniodd y nofel yn wreiddiol a phan yn ei sgrifennu na fwriadai iddi gael ei darllen yn gyffredinol.

SiânYchwanegodd iddi ei hanfon i'r gystadleuaeth er mwyn cael barn bellach arni ac arweiniad sut y gallai ei datblygu a'i gwella a'i gwneud yn gyflawn ar gyfer ei chyhoeddi.

Nid oedd yn dychmygu ennill, meddai gan ychwanegu mai i "nofel anorffenedig" y rhoddwyd y wobr y tro hwn!


Mwy o storiau Dydd Mawrth


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý