Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dylan iorwerth Dylan Iorwerth - prif lenor
Camp newyddiadurwr
Ni chafodd cyfrol gymaint o ganmoliaeth ag un Dylan Iorwerth ers amser maith.

"Aeth cyfrol swmpus Sam [ei ffugenw] â'n gwynt ac â'n bryd o'r darlleniad cyntaf un meddai beirniaid cystdleuaeth Medal Ryddiaith Eisteddfod Eryri 2005, Catrin Stevens, Geraint Vaughan Jones a Meinir Pierce Jones.

"Dim ond llenor wrth reddf a allai fod wedi llunio'r ystod lenyddol sydd yn y casgliad hwn," meddent mewn beirniadaeth gyfansawdd.

Dylan Iorwerth

Fe'i disgrifiwyd fel "llenor praff" allai droi'r "cyfarwydd yn anghyfarwydd hyll a brawychus a'r cyffredin yn anghyffredin dychrynllyd - yn argyfyngau bygythiol ac anesboniadwy sy'n adleisio ein hofnau dyfnaf am fywyd heddiw."

Canmolwyd ei ddawn i "ysgrifennu'n ddoniol, weithiau'n abswrd hyd yn oed, yn grafog sardonig, yn dyner ac yn egr mewn deialog a thraethiad."

Dylan Iorwerth"Yn sicr dyma lenor hyderus ei gyfrwng a'i neges, aeddfed ei weledigaeth a chyson ei safon aruchel. Mae'n dweud cymaint wrtthym am ein byd ni heddiw. Hyd yn oed mewn cystadleuaeth luosog a chymeradwy iawn ei safon fel hon, y mae Sam ben ac ysgwydd diogel uwchben ei gyd gystadleuwyr," meddai.

Yn dilyn y seremoni dywedodd Dylan Iorwerth iddo "dorri asgwrn cefn" sgrifennu'r gyfrol yn ystod gwyliau yn yr Eidal.

Dywedodd mai ei ddull oedd codi'n gynnar o flaen y teulu a defnyddio'r cyfnod hwnnw o'r bore i sgrifennu.

Ynglŷn â thestun y gystadleuaeth - cyfrol yn darlunio cyfnod dywedodd:

Dylan Iorwerth"Allwch chi byth ddarlunio cyfnod cyfan yr unig beth allwch chi wneud ydi cymryd rhyw ddarnau bach ohono fo sydd, gobeithio, yn dweud rhywbeth amdano fo - a dyna'n union ydi'r llyfr. Dydio ddim yn ddarlun cyflawn dim ond rhai pethau sydd wedi taro rhywun.
"Mae'n ymwneud a phethau fel y ffordd yr ydan ni'n cyfathrebu - mae yna sawl darn, er enghraifft, yn troi o gwmpas pethau fel ffonau symudol ac mae yna ddarn am dagfa draffig s'tr syniad y gallech chi gyrraedd amgylchiadau y mae trafnidiaeth gyfan yn dod i stop," meddai.

Dylan Iorwerth"Dwi'n cymryd rhyw un syniad bach felna a'i ddatblygu fo," ychwanegodd.

O ran ffurf dywedodd eu bod yn "gymysgedd llwyr" yn ysgrifau, erthyglau a straeon.

""Mae yna un adroddiad gan gorff sy'n ceisio cysoni ieithoedd y byd ac sy'n mynd i drwbwl pan ydy nhw'n dod ardraws enw Euryn Ogwen!" meddai.

YnglÅ·n a'r berthynas rhwng newyddiaduraeth a llenyddiaeth dywedodd;

Dylan Iorwerth"Mewn newyddiaduraeth yr ydych chi'n gorfod dysgu sut i beidio gorddefnyddio geiriau a bod yn gynnil.
"Amseru pethau hefyd a chael pethau i ddilyn mewn rhyw drefn gymharol gall. Yn sicr mae beth mae rhywun yn ei ddysgu mewn newyddiaduraeth yn medru bod o help," meddai.

Gwobrwyo Dylan

Mwy o storiau Dydd Mercher


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý