主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cor CF1 Sgidie Bach i Ddawnsio
Roedd torf fawr ym Mhafiliwn yr Eisteddfod nos Iau, Awst 4, i wylio sioe 'Sgidie' Bach yn Dawnsio'.
Ysgol Glanaethwy, Dawnswyr Nantgarw, Band Jas Ieuenctid Gwynedd a M么n a Ch么r CF1 oedd y perfformwyr. Ymhlith yr unigolion yr oedd Iddon Alaw, Owen Arwyn, Rhian Blythe, Def Taylor, a Carys Eleri.

Talu teyrnged
Roedd y sioe, a oedd yn llawn o ganeuon, cerddi a chwedlau am y m么r ac ardal yr Eisteddfod yn gyfle "i dalu teyrnged i gyfraniad enfawr a gwerthfawr J. Glyn Davies i ganu'r Cymru", meddai Cefin Roberts yn Rhaglen yr Eisteddfod.

J. Glyn Davies yw awdur y g芒n Fflat Huw Puw (a llinell o'r g芒n hon yw'r teitl Sgidie Bach i Ddawnsio) Pwy sy'n Dwad Dros y Bryn, a llawer iawn mwy.

A dyna a gafwyd yn y Pafiliwn ar nos Iau. C么r Glanaethwy a ch么r CF1 yn perfformio detholiad o'r caneuon lleol eu naws yma, gyda llefaru yn dolennu'r cyfan. Dawnswyr NantgarwCafwyd cyfraniadau gan ddawnswyr Nantagrw, a oedd yn ychwanegiad effeithiol i'r sioe.

Chwedlau a cherddi
Chwedlau a cherddi am hen sir Gaernarfon, oedd yn ddolen gyswllt rhwng yr eitemau cerdd. Roedd Iddon Alaw yn chwarae rhan bachgen o'r enw Huw, a thrwy ei gyflwyniadau yntau a'r actorion eraill y clywyd nifer o gerddi am yr hen sir Gaernarfon, ardal yr Eisteddfod eleni. Cafwyd rhannau o gerddi megis Hon gan T. H. Parry Williams, a detholiad o ddrama Blodeuwedd, Saunders Lewis. Teimlais fod y rhan hwn yn mynd ymlaen ychydig yn rhy hir - ond efallai nad oedd oerfel y pafiliwn erbyn hyn yn help. Rhaid dweud er hynny bod perfformiad Rhian Blythe fel Blodeuwedd yn sefyll allan, gyda'i datganiad naturiol yn effeithiol iawn.

Y Perfformio
Fel a ddisgwylid gan gorau mor broffesiynol 芒 Glanaethwy ac CF1 o Gaerdydd, roedd y perfformio yn gaboledig iawn. Roedd sglein ar y datganiadau a'r bobl ifanc i gyd i'w gweld yn mwynhau. Roedd perfformiadau c么r CF1 i mi yn arbennig o dda. Uchafbwynt personol arall oedd perfformiadau Band Jas Ieuenctid Gwynedd a M么n a'u datganiadau unigol yn enwedig yr elfen gerdd dant gyda'r delyn, dyma gerddorion hynod o dalentog ac yn amlwg wrth eu bodd yn perfformio.

Rhaid cwestiynu un neu ddau beth - er enghraifft a oedd gwir angen Sion Corn yn ymddangos ar y llwyfan wrth i'r c么r ganu 'Pwy Sy'n Dwad Dros y Bryn?' Tarrodd hyn fi yn reit od a dweud y lleia', doedd hyn ddim yn ychwanegiad i'r sioe yn fy marn i.

Roedd cyfraniad dawnswyr Nantgarw yn arbennig, a phob un o'r dawnswyr eto yn amlwg yn mwynhau ac roedd eu gwylio'n clocsio yn arbennig.

Detholiadau hir
Fel a soniais uchod, roedd rhai o'r detholiadau llafar ychydig yn rhy hir yn fy marn i, ac roedd arddull adroddllyd y prif lefarydd ar brydiau yn ormod. Does dim amheuaeth bod gan Iddon Alaw dalent arbennig (mi enillodd y gystadleuaeth Llefaru unigol rhwng 16-19 oed yn gynnar yn yr wythnos), a phob clod iddo am ei berfformiad trwy gydol y sioe nos Iau, ond i mi ar brydiau roedd y gor lefaru yn amharu ar fy mwynhad o'r sioe yn ei chyfanrwydd. Ond barn bersonol yw hynny.

Byddai wedi bod yn dda o beth i dorri ychydig ar hyd y sioe gan fod y noson dipyn yn hir, ac roedd yna dipyn o aflonyddu yn y gynulleidfa erbyn y diwedd.

Er hynny, mi roedd hi'n noson o fwynhad, a llongyfarchiadau i'r perfformwyr a'r hyfforddwyr am sioe safonol.

ED


Mwy o storiau Dydd Sadwrn


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy