主播大秀

C Ffactor

C o sioe

Cerddoriaeth o bob math - clasurol, canol ffordd a'r cyfoes

gan Elin Angharad

Y llythyren C oedd yn cael y sylw ar lwyfan y Brifwyl nos Iau gyda'r artistiaid oedd yn cymryd rhan yn yr C Ffactor i gyd gyda'u henwau 芒'r C yn amlwg fel ag yn Caerdydd!

Cerys Matthews, Connie Fisher, Caryl Parry Jones, Catrin Finch, Shan Cothi, Cantorion a Heledd Cynwal, hynny yw.

Cynwal oedd y 'comp锚r' ar gyfer y noson lle cafwyd perfformiadau unigol gan yr artistiaid yn ogystal 芒 gwahanol gyfuniadau a'r cyfan yn broffesiynol iawn ac yn llifo'n rhwydd rhwng yr eitemau a sylwadau Heledd Cynwal.

Ar y llwyfan

Roedd perfformiadau unigryw Catrin Finch ar y delyn yn arbennig ac yn cyfeilio hefyd i rai o'r artistiaid; Cerys Matthews a Shan Cothi.

Rhaid dweud i broblemau sain amharu'n sylweddol ar berfformiadau gyda'r gerddorfa'n boddi llais y cantorion.

Roedd John Quirk a'i gerddorfa yn arbennig serch hynny a Cantorion yn amlwg yn mwynhau cael canu gyda Cherys a Shan!

Braf gweld amrywiaeth o gerddoriaeth o'r clasurol gan Shan Cothi, i ganol ffordd gan Caryl Parry Jones a danteithion y sioeau cerdd gan Connie Fisher a'r cyfoes gan Cerys Matthews.

Roedd yn hyfryd gweld Connie Fisher n么l ar lwyfan yr Eisteddfod ac roedd Cerys Matthews hithau i'w gweld yn gartrefol iawn yno hefyd.

Ar ddechrau'r noson anrhydeddwyd Cerys Matthews 芒 gwobr am gerddoriaeth boblogaidd gan yr Eisteddfod a Phrifysgol Caerdydd.

Dyma drydydd cyngerdd Stifyn Parri a'i gwmni Mr Producer yn yr Eisteddfod hon - dyn sydd wedi cael cryn sylw - nid bob tro am y rhesymau cywir.

Ond fe gofiodd bod angen canu'r anthem ar ddiwedd y cyngerdd hwn yn dilyn embaras nos Fawrth ddiwedd y cyngerdd i gofio Grav - pan drodd yn biws ar ochr y llwyfan mewn cywilydd.

Er gwaetha perfformiadau unigol yr artistiaid rhaid dweud bod rhywbeth 'cawslyd' (C arall fan yna!) yngl欧n 芒'r dawnswyr ar ddechrau a diwedd y cyngerdd a'r C a'r Calon goch - gan eu bod yn canu c芒n Calon, Caryl - ymddangosodd yn y diweddglo.

Rhywbeth dynnodd sylw oddi wrth y perfformiadau unigol arbennig.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.