主播大秀

Hywel Griffiths, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008

厂别谤别尘辞苍茂补耻'r wythnos

10 Gorffennaf 2008

Dydd Llun

Seremoni Coroni'r Bardd
16.30
Pafiliwn
Tasg: Casgliad o gerddi rhydd hyd at 300 llinell

  • 2008: Hywel Griffiths enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
  • 2007: Tudur Dylan Jones enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol y Fflint
  • 1978: Sion Eirian gipiodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978
    (Gwyliwch glip archif trwy glicio ar y ddolen ar ochr dde'r dudalen)

Dydd Mawrth

Seremoni Medal Syr T. H. Parry - Williams er clod
12.00pm
Pafiliwn

  • Yn Eisteddfod Caerdydd 2008 dyfarnwyd y Fedal i Mair Penri Jones, Y Bala

Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
17.00
Pafiliwn
Tasg: Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn stor茂ol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau

  • 2008: Ifan Morgan Jones oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
  • 2007: Tony Bianchi oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint

Dydd Mercher

Seremoni'r Fedal Ryddiaith
16.30
Pafiliwn
Tasg: Cyfrol heb fod dros 40,000 o eiriau

  • 2008: Mererid Hopwood o Gaerfyrddin enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Caerdydd. Mae Mererid bellach wedi ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith - y tro cyntaf i ferch ennill tair prif wobr lenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol
  • 2007: Mary Annes Payne o Ynys M么n oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint
  • 1978: Harri Williams oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

Nos Fercher

Seremoni Tlws y Cerddor
19.35
Pafiliwn
Tasg: Cyfansoddiad gwreiddiol rhwng 4 a 6 munud o hyd i bedwar llais SATB gyda chyfeiliant piano neu organ, a fyddai'n addas i'w gynnwys yng nghystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol

  • 2008: Eilir Owen Griffiths enillodd y Tlws yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
  • 2007: Wyn Pearson oedd enillydd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint

Dydd Iau

Cyflwyno enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn
13.00
Pafiliwn

  • 2008: Madison Tazu oedd enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn
  • 2007: Julie MacMillan o Dreorci oedd enillydd y Tlws yn Eisteddfod y Fflint

Cyflwyno Enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg
13.05
Pafiliwn
Am gyfraniad helaeth i'r defnydd o'r Gymraeg ym myd Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • 2008: Iolo ap Gwynn oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

Seremoni Cyflwyno enillydd y Fedal Ddrama
13.10
Pafiliwn

  • 2008: Dyfed Edwards oedd enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
  • 2007: Nic Ros oedd enillydd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint

Dydd Gwener

Seremoni Cadeirio'r Bardd
16.30
Pafiliwn
Tasg: Cerdd neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 300 llinell

  • 2008: Hilma Lloyd Edwards o Bontnewydd, Caernarfon oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
  • 2007: T. James Jones enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint

Hanes y Gadair ac Eisteddfod Caerdydd

Gwilym R. Jones o Ddinbych enillodd y Gadair pan fu'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 1938. Mae record wael gan Eisteddfodau Caerdydd am deilyngdod y Gadair - ni chadeiriwyd bardd yn Eisteddfod 1960 na 1978. Newyddion da ddaeth yn 2008 pan gipiodd Hilma Lloyd Edwards y wobr, yr ail ddynes erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gwybodaeth ychwanegol

Tua awr o hyd yw pob un o'r prif seremoniau. Mae angen i bawb fod yn eu seddau erbyn 16.15.

Darllenwch am holl seremon茂au Eisteddfod Genedlaethol y Fflint 2007 ac Eisteddfod Caerdydd 2008 trwy glicio ar y dolenni ar y dde.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.