主播大秀

Mererid Wigley

Eisteddfod gyntaf silibili

Dilladau Cymraeg i'r babanod

Mae cwmni newydd sy'n gwerthu dillad ffasiynol, beiddgar a hwyliog ar gyfer babanod wedi cael ei lansio yn yr eisteddfod yng Nghaerdydd.

Mae silibili.co.uk, sydd yn gwerthu crysau-t Cymraeg ar gyfer plant hyd at ddau oed, wedi cael ei sefydlu gan Mererid Wigley cyflwynydd y gyfres Ffermio ar S4C.

Dywedodd Mererid ei bod hi wedi meddwl am y syniad ers rhai blynyddoedd, ond fe benderfynodd fynd amdani eleni ar 么l i nifer o'i ffrinidau ddweud eu bod nhw'n cael trafferth canfod dillad modern a ffasiynol yn y Gymraeg ar gyfer eu plant.

"Roedd pawb yn cwyno bod cymaint o Saesneg ar bopeth a'i bod hi'n anodd ffeindio unrhyw beth plaen neu yn y Gymraeg.

"Ro'n i'n ymwybodol bod 'na dipyn o gwmn茂au yn cynnig dillad Cymraeg i blant ond ro'n i'n credu bod yna le yn y farchnad i gynhyrchu crysau-t beiddgar Cymraeg i blant bychain iawn.

"Mae'n neis hefyd bod pobol di-Gymraeg yn gweld bod yna ddillad plant c诺l ar gael yn y Gymraeg."

Mae silibili hefyd yn cynhyrchu cardiau pen-blwydd i blant ac ar 么l derbyn ymateb mor dda yr wythnos hon, maen nhw'n gobeithio ehangu i wneud bibs, hetiau a babygrows hefyd yn y dyfodol.

Mae'r dillad i gyd yn ddillad masnach deg, sy'n golygu bod y ffermwyr a gwneuthurwyr sy'n creu a chynhyrchu'r dillad yn cael pris teg am eu gwaith.

Yn 么l Mererid mae'r marc yma yn dod yn fwyfwy pwysig.

"Dwi'n gobeithio y bydd y cwmni'n apelio at rieni modern ... sy'n ymwybodol o bwysigrwydd gwybod bod y dillad wedi'u cynhyrchu mewn dull moesol a theg, ond sydd, yn bennaf yn chwilio am ddilledyn atyniadol."

Mae dillad silibili ar werth mewn siopau ar draws Cymru


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.