Ö÷²¥´óÐã

Cleddyf Glyndwr

Pigion Pontcanna - Iau

Dyddiadur boreol o faes y Steddfod

Y Steddfodwr colledig

Daeth 20,952 o bobl i edrych am Ms Pinc ddoe, dydd Mercher.

Fe allai yn hawdd iawn wedi bod yn 20,953 - ond yn ôl gwraig o Abertawe a oedd yn cwyno'n hallt am y trefniadau trafnidiaeth "ofnadw" anobeithiodd un gŵr o'r dref honno a throi'n ôl a mynd adref.

Wrth i'r wythnos fynd heibio mae mwy o fân rwgnach fel hyn.

Beth bynnag, yr oedd dros ddwy fil yn llai ar y Maes ddoe na'r un diwrnod y llynedd, 23,092, ond dyrnaid yn fwy nag â ymwelodd ag Abertawe yn 2006, 20,741.

Yn gynnar fore heddiw mae hi'n sych uwchben a fy mhroffwyd tywydd, sydd hefyd yn gyrru tacsi, yn dweud y bydd y tywydd yn braf heddiw ac yfory.

Yn gwbl annibynnol cadarnhawyd hynny gan un o'r dynion diogelwch wrth borth y maes.
Cawn weld, cawn obeithio. Mae'n heulog ar y funud.

Camp ddramatig

Neithiwr gwelwyd darganfod talent newydd ym myd drama!

Ers y tro cyntaf ers iddo ennill hanner coron am adrodd yn Eisteddfod Llannerchymedd does wybod faint yn ôl enillodd Hywel Gwynfryn ei wobr eisteddfodol gyntaf!

Hywel Gwynfryn

Ef ddyfarnwyd yn gyfarwyddwr gorau cystadleuaeth y ddrama fer gyda, Chwmni Drama Capel Minnie Street, Caerdydd, yn dod yn gyntaf allan o 17 o gystadleuwyr.

Efallai na ddylai hynny synnu rhywun -yn chwarae un o'r prif gymeriadau yr oedd tad Matthew Rhys, Glyn!

Mae rhywun yn dychmygu'r teleffon traws Iwerydd yna'n chwilboeth o gynghorion cyn y noson fawr!

Gorau glas?

Ddoe oedd y diwrnod yr efelychodd Mererid Hopwood gamp Gwilym R Jones a Tom Parri Jones o ychwanegu y Fedal Ryddiaith at y Gadair a'r Goron sydd ganddi'n barod.

Ond pan awgrymwyd iddi mai'r Fedal Ddrama fyddai nesaf awgrymodd hi y Rhuban Glas yn hytrach - gyda'r trombôn!

Gwyliwch y gofod - fel na byddai unrhyw lenor yn dweud!

Cleddyfau'r Maes

Yn ôl y ferch ar stondin sy'n gwerthu atgynhyrchiadau o gledd mawr daufiniog Owain Glyndŵr ar y Maes mae un cynghorydd o Geredigion wedi awgrymu iddyn nhw y dylai pob aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol gael un o'r arfau hyn.

Maen nhw'n edrych yn drawiadol - ond faint fyddai eu cyfraniad i Lywodraeth Cymru'n Un mae'n anodd dweud.

Ychwanegodd mai 100 o'r cleddyfau addurniadol £195 a wnaed gyda dim ond 30 ar ôl - ond dim ond dau wedi eu gwerthu ar y maes hyd yn hyn. Un i'r cynghorydd a'r llall i wladgarwr brwd gyda thatŵ.

Cleddyf Glyndwr

Cwmni Crefftau'r Castell - gyferbyn a'r Castell yng Nghaerdydd - sy'n eu gwerthu, mewn blychau arbennig.

Ac maen nhw'n gwbl gyfreithiol, "Cyn belled nad ydych yn eu chwifio o gwmpas yn wirion".

A'r Owain Glyndwr ar y Maes? Bob Keen o Watford yn wreiddiol.

Bardd y dychryn

Yn ogystal â bod yn lle y mae llenorion a beirdd yn cael eu gwobrwyo fe welwch chi mewn Eisteddfod ar adegau feirdd wrth eu gwaith fel petai.

Mei Mac, er enghraifft, yn ddwys ym mhlygion ei bapur wrth fwrdd un o'r lleoedd bwyta dan ddynesodd dyn mawr piws tuag ato. Dillad piws, wyneb piws a phen moel piws - ar y maes i berswadio pobl roi o'u horganau corfforol i helpu eraill pan ddaw diwedd daear daith.

Ond yn awr yn taflu cysgod dros Mei Mac a ddychrynwyd yn amlwg pan gododd ei olygon a gweld y creadur annisgwyl.

A'i galon - yn addas iawn o ystyried pwy oedd yno - yn llamu!

Sachau diwylliant

Pethau poblogaidd iawn ar y Maes eleni ydi bagiau o sachliain - gyda rhai yn rhagori ar ei gilydd mewn gogoniant.

O bosib mai yn Y Lle Celf y deuwch chi o hyd i fag mwyaf diwylliedig yr wythnos - os yw'r fath beth yn bosib.

Bagiau

Un gyda llinell o gynghanedd arno gan yr Archdderwydd, Dic yr Hendre, ei hun:
"A feddo gelf a fydd gwâr" - er dydi rhywun ddim yn siŵr a yw osgoi'r treiglad yn 'gwâr' yn mynd i blesio'r geiriadurwr Bruce Griffiths sydd yng nghanol brwydr fawr Urdd Gwyrdd gyda'r mudiad hwnnw.

Yr oes ddwyieithog hon rhaid wrth ffurf Saesneg o bopeth ac fe ymddengys llinell Dic yn yr iaith honno hefyd; "Who has art has all".

Yr union fag i gario'r Cyfansoddiadau gartref yfory!

Sion Steddfod

• Mae 'Pigion Pontcanna' i'w darllen bob dydd.


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.