主播大秀

Crwydro'r maes

Pigion Pontcanna

Dyddiadur boreol o'r Maes

Mwy a mwy

All hi ddim bod yn ddrwg.
Dau ddiwrnod Steddfota a dau ddiwrnod gyda mwy na'r ddwy flynedd cynt o Eisteddfotwyr yn ymweld 芒'r Maes.

Sganiwyd 17,072 o bobl trwy byrth Maes Pontcanna ddoe o gymharu 芒 13,848 y llynedd yn Yr Wyddgrug a 14,483. yn Abertawe ddwy flynedd yn 么l.

Er, byddai'n anghywir, mewn gwirionedd, disgrifio'r 17,072 i gyd fel Eisteddfotwyr gan fod nifer ohonyn nhw yn ymwelwyr tro cyntaf yn yr ardal eisteddfodol ddieithr hon.

Yn wir yr oedd Cadeirydd y Pwyllgor gwaith yn ymfalch茂o mewn rhywbeth a ymddangosai braidd yn od ar yr olwg gyntaf, fod llawer o Saesneg i'w glywed ar y Maes.

Am unwaith nid beirniadaeth mo hynny gan mai un o amcanion yr Eisteddfod hon yw cyffwrdd y di-Gymraeg a'u hargyhoeddi fod yr Eisteddfod a'r diwylliant Cymraeg yn hwyl ac yn ddifyrrwch ac yn rhywbeth iddyn nhw hefyd yn jargon yr wythnos.

Ac yng Nghaerdydd hyd yn hyn mae'n ymddangos bod rhai ohonyn nhw am ddod i weld - beth bynnag a ddigwydd wedyn.

Dau yn chwilio am arweiniad

Dau a oedd ar waith cerddorol pwysig yn yr Eisteddfod ddoe oedd Rebecca Roberts a Gwion Williams - dau aelod o Fand Llanrug.

Fe ddylen nhw a'r band fod yno yn cystadlu ond a'r band heb arweinydd ers pedair blynedd daeth gorchwyl bwysicach fyth i'w rhan.

Dod o hyd i arweinydd!

Rebecca a Gwion - chwilio am arweiniad

Ond er byddai'n anodd meddwl am le gwell i chwilio na maes Prifwyl - yn enwedig ar ddiwrnod cystadlaethau y gwahanol fandiau - anlwcus fu nhw hyd yn hyn a'r helfa'n parhau.

Ac fe alwodd y ddau ym mhabell y 主播大秀 ar y Maes i edrych a allem ni eu helpu trwy dynnu sylw'r genedl at eu picil yn y gobaith bod yna yn rhywle arweinydd sy'n chwilio am fand y gellir dod i'w sylw y band sy'n chwilio am arweinydd!

Mae'n ymddangos eu bod yn fodau digon prin!

Byddai'n hyfryd clywed erbyn diwedd yr wythnos fod Band Llanrug ag arweinydd unwaith eto.

"Efo'n gilydd nawr - un, dau, tri . . ."

Stori nodwydd

Yr Eisteddfod hon yw un gyntaf y Dr Prydwen Elfed-Owens yn gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod - y ferch gyntaf erioed i'w dyrchafu i'r swydd.

A gellir dweud heb fod mewn unrhyw ffordd yn secsaidd i un arweinydd Eisteddfodol fod yn ffodus iawn o law merch ar y llyw ddydd Sadwrn.

Oherwydd pan rwygodd 'hem' trowsus Hugh Thomas, Llywydd y Llys, pwy oedd ar gael i'w gwnio'n 么l ond Prydwen!

Mae rhywun yn amau a fyddai ei rhagflaenydd, Dafydd Whitall, wedi llwyddo i gyflawni'r un gymwynas!

Gofyn - o'r diwedd

Mae yna lawer o s么n yr wythnos hon sut y mae'r Eisteddfod yn barod wedi ennyn chwilfrydedd rhai o drigolion di-Gymraeg Caerdydd.

Ond mae'r pethau hyn yn cymryd mwy o amser i dreiddio i ymwybyddiaeth ambell un.

Fel y bachan a fu'n cynorthwyo gyda'r gwaith o baratoi'r maes dros y pythefnos diwethaf yn disgwyl nes i'r giatiau agor cyn holi, "Be ydi'r peth yma da ni'n adeiladu? I be mae o?"

Gwell hwyr na hwyrach si诺r o fod!

Byg yn y system

Newyddion da i'r rhai hynny a fu'n cwyno am y pellter sydd i'w gerdded - rhyw 400 llath yn 么l y trefnwyr - o ble mae bysus a thacsis yn eich gollwng tua Chlos Sophia ar hyd llwybr coediog i'r brif fynedfa.

Erbyn ddoe yr oedd y trefnwyr wedi sicrhau gan S4C fflyd o bygis i gludo y rhai hynny mae'r fath bellter yn drech na hwy.

Ond bu anhawster - roedd y bygis yn atyniad mawr i blant a oedd yn mynnu llusgo eu rhieni i deithio arnyn nhw.

Gan beri i Brif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, alw ar rieni i wneud yn si诺r fod y rhai sy'n gwir haeddu eu cludo yn cael y cyfle cyntaf!

Na, 'Nid Merched a phlant gyntaf' yw'r arwyddair ar y llong Steddfodol sy'n hwylio ar lannau Taf.

Sion Steddfod


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.