主播大秀

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Ambell i frathiad o wersyll Pontcanna - bob dydd

Veni, vidi, vici!

Croeso ar fore Mawrth i wersyll cynnull Pontcanna ble neithiwr y plygwyd y rheol Gymraeg oddi ar lwyfan y Pafiliwn.

Daeth Bryn Terfel a'i gyfeillion yno i ddiddori'r miloedd yn yr iaith Ladin ac yn 么l y Wasg mae'r seren o Bantglas wrth ei fodd efo awyrgylch y Brifddinas yr wythnos yma.

Mae o wedi bod efo'r hogia yn y ffair yng nghanol Caerdydd ac am fynd i weld Chitty Chitty Bang Bang hefyd.

Mae hi'n wythnod fawr i'r celfyddydau Cymreig medda fo. Veni, Vidi, Vici.

Joli reit

Rhywun yn awgrymu ar y Maes ddoe y gallai pobl ifanc Dyffryn Nantlle gafodd eu pardduo am eu meddwdod cyhoeddus ar un o raglenni diweddar S4C - y gallen nhw fod wedi cael cyfle i dalu'r pwyth yn 么l tasen nhw wedi mynd 芒 chamera i ddigwyddiad eisteddfodol arbennig dros y Sul.

Fe ymddengys fod un o uchelswyddogion y Sianel yno yn orlawn o ysbryd yr 诺yl - neu mewn geiriau plaen yn feddw gaib.
Trist iawn.

Capel amharod

A thristwch mwy rwan. Ydy o'n wir fod un o'r capeli Cymraeg sydd o fewn tafliad carreg i faes y Steddfod wedi bod yn bur amharod i gydweithredu 芒 Swyddogion y Brifwyl yn y broses o baratoi ar gyfer yr 糯yl?
Os ydy o. Ysgwn i pam?

Dim gair am Lyn

Un o'r hacs a fyddai bob blwyddyn efo ni yn Stafell y Wasg oedd y diweddar Lyn Owen Rees, ond er iddo farw yn ystod y flwyddyn does yna ddim s么n amdano o gwbl yn rhestr panel enwogion a gofir yn Rhaglen y Dydd.

Biti garw roedd yr hen Lyn yn haeddu cael ei gofio.

Gwleidyddion prysur

Nid y beirdd a'r llenorion, y cantorion a'r llefarwyr ydi'r unig rai sy'n cystadlu am sylw ym Mhrifwyl Caerdydd.

Gwleidydd prysur - Alun Ffred Jones ar  y radio fore Llun

Mae hi'n gebyst o ymladdfa rhwng y gwleidyddion hefyd. Mae pob Twm, Dic a Harri bach o weinidog - is weinidog a gwleidydd yn cymowta ar hyd y Maes ond mae'n debyg mai Alun Ffred Jones, y Gweinidog Iaith newydd, sy'n haeddu cael y brif wobr.

Yma am bum diwrnod ac yn traddodi tair darlith. A'r cyfan oherwydd yn 么l y s么n fod Rhodri Glyn Thomas wedi smocio sig芒r yn y lle anghywir - hynny ydy os ydach chi'n credu straeon tylwyth teg ynte.

Cywilydd Mr Urdd

A pharhau yn y byd gwleidyddol. Dyna lle roedd y Prif Weinidog Rhodri Morgan yn rhaffu gwirioneddau mewn Cynhadledd i'r Wasg ddoe. A'r hacs i gyd yn gwrando'n dawel.

Yn sydyn dyma'r geiriau 'Hei Mr Urdd yn dy goch gwyn a gwyrdd' yn diasbedain dros y Stafell a Phennaeth Cwmni Strata Matrix yn rhuthro i'w boced i dawelu'r peiriant swnllyd.
Embaras hwnna ydio.

Wedi pwdu

A gorffen efo Nedwyn y ci. Mae o wedi bod 芒'i ben yn ei blu ers bore ddoe. Fe bwdodd yn ar 么l clywed mai yn y Babell L锚n y byddai criw yr Orsedd yn cynnal eu seremoni foreol. Roedd o wedi edrych ymlaen at gael mynd at y Cylch ar y Maes. Ond nid am ei fod o'n mwynhau gweld y criw yn eu cobenni - ond am fod y meini gorseddol yn lleoedd bendigedig i Nedwyn godi ei goes yn wyneb haul llygad goleuni.

O wersyll cynnull Pontcanna,
Bore da ichi.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.