主播大秀

Mair Penri

Medal i Mair Penri

Cydnabod cyfraniad oes

Blynyddoedd o lwyddiant dramatig

Mair Penri yw enillydd Medal Syr T H Parry-Williams eleni.

Bydd y fedal yn cael ei chyflwyno iddi mewn seremoni ar lwyfan y Brifwyl heddiw.

Mae'n gydnabyddiaeth o'i gwasanaeth ym myd llefaru a drama ymhlith pobl ifainc.

O Benygarnedd rhwng Penybontfawr a Llanfyllin y daw Mair Penri ac yn gyn ddisgybl Ysgol Gynradd Penybontfawr ac Ysgol Uwchradd Llanfyllin.

Dywed hefyd Gapel Penygarnedd fod yn ddylanwad mawr arni hefyd.

Fe'i hyfforddwyd yn athrawes yn Y Coleg Normal, Bangor, a bu'n dysgu yn Ysgol Gwenfro, Wrecsam, yn Llanrhaeadr ym Mochnant ac yn athrawes fro ym Meirionnydd.

Ar 么l priodi bu'n byw yn Llanuwchllyn ddiwedd y Chwedegau cyn symud i'r Parc.

a Bu'n eithriadol o weithgar yn hyrwyddo llefaru a drama gan hyfforddi sawl parti, cwmni ac unigolion ar gyfer eisteddfodau'r Urdd, Powys a'r Genedlaethol heb s么n am basiantau a gwyliau drama.

Mae hefyd yn feirniad ac yn arweinydd prysur.

Y llynedd yn Yr Wyddgrug bu'r wraig sydd hefyd yn bregethwr lleyg yn fuddugol am y trydydd tro yn olynol ar y 'Cyflwyniad Digri'

Bu'n cyfarwyddo Cwmni Drama'r Parc er 1982 gan ennill pum gwobr gyntaf yn y Genedlaethol.

Cyfieithodd nifer o ddram芒u byrion i'r Gymraeg ac addasu nofelau a sgriptiau i'r llwyfan.

Bu'n feirniad mewn gwyliau lleol a chenedlaethol.

Ymhlith y pasiantau y bu'n ymwneud 藛芒 hwy roedd un i ddathlu 200 mlwyddiant Cymdeithas y Beiblau a 40 mlwyddiant Merched y Wawr.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.