主播大秀

Cyngerdd Grav

Grav - Yma o Hyd

Pawb mewn coch ar gyfer cyngerdd 'tip top'

gan Elin Angharad

Coch ac nid pinc oedd lliw'r Pafiliwn nos Fawrth wrth i fwyafrif llethol y gynulleidfa oedd yn llenwi'r babell wisgo coch a hynny er cof am yr arwr Ray Gravell oedd yn cael ei gofio.

Cyngerdd i ddathlu bywyd un o arwyr Cymru oedd Grav - Yma o Hyd ac yn ystod y cyngerdd cafodd Grav ei enwi fel Cawr Cymru - cystadleuaeth gafodd ei threfnu gan Gomisiwn y Cynulliad.

Wrth fynd i'r cyngerdd doeddwn i ddim yn si诺r iawn be i ddisgwyl o fod yn clywed pwy oedd yn cymryd rhan er fy mod yn ymwybodol nad oedd arwr mwya' Grav, Dafydd Iwan, yn mynd i fod yno. Roedd 'na deimlad o'i golli ar y llwyfan wrth i'r holl artistiaid gydganu un o'i brif anthemau, Yma o Hyd.

Roedd y gynulleidfa yn deilwng iawn i ddyn arbennig gyda nifer fawr yn dod yno i dalu teyrnged i Grav ac wedi ymateb i'r cais i ofyn ar i bobl wisgo coch. Roedd nifer yn gwisgo crysau rygbi Cymru neu'r Sgarlets neu grysau arbennig gyda llun Grav ar y blaen ac ar y cefn ei enw a'r rhif 13.

Cyngerdd Grav "Dathlu bywyd unigryw Grav, un wnaeth gyfraniad arbennig i Gymru, i'r Eisteddfod ac i'n diwylliant," meddai'r llais ar ddechrau'r cyngerdd a dyna a gafwyd - cyngerdd y byddai Grav ei hun yn falch ohoni a'r holl artistiaid oedd ganddo gymaint o barch tuag atyn nhw ac yn eu hoffi yno. Yn eu plith Y Tebot Piws, Celt, Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn, Tudur Dylan Jones, Bryn F么n, Rhys ap William a'r Tair Chwaer.

Daeth nifer o'i gyfeillion ar y llwyfan i rannu atgofion hapus amdano, i ddarllen cerddi er cof amdano ac i ganu rhai o'i hoff ganeuon.

Roedd 'na ddigon o chwerthin i'w glywed wrth i'r cyfranwyr rannu'r atgofion, fel pan fu Bethan Gwanas yn s么n am ei phrofiad o gydweithio gyda Grav i Radio Cymru yn Abertawe a'r gwersi canu yr oedd o'n ei gael ar y rhaglen gyda'r gantores Mary Lloyd Davies.

Roedd hi'n pyt茂o na chafodd gyfle i ddweud wrtho ei bod wedi cyfarfod dyn ifanc o Aberhonddu sy'n dysgu yn Nolgellau erbyn hyn ac wedi dysgu Cymraeg yn rhugl - dim ond am ei fod wedi cyfarfod ei arwr pan tua 14 oed a ddim yn deall gair o enau Grav.

Rhannodd Keith 'Bach' Davies gyda'r gynulleidfa ei fod wedi cael blynyddoedd hapus o gydweithio gyda Grav ar ei raglen o'r De Orllewin. Ond er y mwynhad roedd hefyd yn gallu cael ei wylltio ganddo wrth ei ffonio yn syth ar 么l gorffen darlledu i wneud yn si诺r fod popeth yn iawn.

"Roedd yn frwdfrydig, yn egn茂ol ac yn onest ac roedd hyn treiddio i'w ddarlledu," meddai.

"Ond dwi'n cofio fo'n ffonio un pnawn a gofyn 'wt ti'n fisi', 'nadw' meddwn ' o, ffonia'i n么l pan wt ti'n fisi felly' meddai."

Ia roedd cymeriad Grav yn amlwg yn y cyngerdd ac roeddech yn gallu teimlo rhyw bresenoldeb coll o'r dwylo 'na yn curo mewn boddhad, a'r geiriau "tip top, tip top" wedi pob perfformiad.

Roedd 'na rywfaint o broblemau sain yn ystod y cyngerdd wnaeth effeithio ar rai perfformiadau gan gynnwys perfformiad Tara Bethan o un o ganeuon Caryl. Efallai y byddai wedi bod yn well iddi aros yn llonydd a chanu yn hytrach na dawnsio a chanu.

Roedd y diweddglo yn uchafbwynt teimladwy iawn i'r cyngerdd wrth i aelodau o bob un o g么r rhanbarthau Cymru, Codi Canu, ymuno gyda Caryl Parry Jones i ganu anthem newydd yr ysgrifennodd yn arbennig ar gyfer y cyngerdd, West is Best.

Yn ystod y g芒n y cafwyd profiad arbennig wrth weld Merched yr Orsedd - Cyflwynydd y Corn Hirlas a Chyflwynydd y Flodeugerdd - yn arwain bron i 30 o s锚r y byd rygbi i'r llwyfan gyda Robin McBryde, Ceidwad y Cledd yng Ngorsedd y Beirdd, yn eu harwain. Robin o F么n sydd wedi cael y swydd o gario'r cledd wedi marwolaeth Grav.

Roedd gweld dau o fywydau Grav, y rygbi a'r Eisteddfod yn uno, yn brofiad arbennig. Ymhlith y s锚r yr oedd Gareth Edwards, Clive Rowlands, Rupert Moon, Stephen Jones, Simon Easterby, Rhys Willimas a Ryan Jones.

Roedd y gynulleidfa ar eu traed a gwefr arbennig iawn. Ond wedi i'r llwyfan wagio a'r gynulleidfa gychwyn am adre fe gychwynnodd ambell un ganu'r anthem genedlaethol cyn i'r pafiliwn ddod i stop a phawb yn ymuno yn Hen Wlad Fy Nhadau yn ddigyfeiliant.

Fel y byddai Grav ei hun wedi ei ddweud "Tip Top, Tip Top" o gyngerdd arbennig.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.