主播大秀

Gwilym Owen

Steddfod Gwilym Owen - Mercher

Ambell i frathiad o wersyll Pontcanna - bob dydd

Golchfa!

Henffych ar fore Mercxher o Wersyll Cynnull Pontcanna - ac er gwaetha'r tywydd yn ei blaen yr aiff y jyncet.

A thipyn o syndod oedd clywed rhai ymwelwyr o Ben Ll^yn yn dweud ddoe eu bod nhw am fyd i Bath am drip - ond i be, meddwn innau, a digon o dd诺r ar feysydd Pontcannas!
Ond dyna fo, pawb at y bath y bo!

Cynt ac wedyn

Be fyddech chi'n ddweud ydi'r gwahaniaeth rhwng Archdderwydd a chyn Archdderwydd mewn gogoniant? Wel, bore ddoe fe welais i'r Archdderwydd presennol yn cyrraedd mewn tacsi fel finnau ac yn cael ei ollwng yn y man priodol yn y glaw.

Ond dau gyn Archdderwydd wedi perswadio eu gyrrwr nhw i dorri pob rheol eisteddfodol i'w gollwng nhw o flaen y brif fynedfa. Ac mae un ohonyn nhw cofiwch yn Swyddog Cyfraith Gorsedd y beirdd.

Wfftio cadair

Digwydd taro ar un o'r beirdd caeth ar y Maes ynghanol y glaw. Wyt ti ymhlith yr hanner dwsin sy'n gobeithio ennill y Gadair leni meddwn i wrtho fo.

Paid a rwdlan oedd yr ymateb. Dwi'n casau dodrefn Habitat medde fo cyn prysuro yn ei flaen.

Mae'n ddydd Ieu

Heddiw ydy diwrnod mawr y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones. Ei unig ddyletswydd swyddogol ydi bod yn Lansiad Gwefan Sustrans Routes to Ride

Dipyn o newid i Depiwti Jones.
Fel arfer awyrennau sy'n mynd 芒'i fryd a thelynegu am Ieuan Air rhwng y Fali a Chaerdydd - ond heddiw rhaid iddo ddangos diddordeb mewn beics.
Ie bagad gofalwr gwleidydd.

Prysur, prysur

Ac o s么n am fagad gofalwr fod neb efo bagad llawnach yr wythnos hon na'r Bonwr Huw Llywelyn Davies. Y fo ydi cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, gall gymryd rhan yn yr Orsedd, mae o'n canu mewn nifer o gorau ac yn treulio oriau o flaen camer芒u teledu yn cyflwyno rhaglenni am y Brifwyl.

Huw Llywelyn Davies

Prin fod neb 芒 bagad llawnach - a rhoswch, mae yna fwy.
Pnawn fory ar Faes D mi fydd o'n cyflwyno twmpath dawns efo Jac y Do.

Arwyr newydd

R诺an da chi'n cofio'r dyddiau duon a stormus pan fu bron i'r hwch fynd drwy'r siop yn hanes y Steddfod - a'r bai yn cael ei roi ar ysgwyddau yr Arglwydd Elis Thomas Cadeirydd y Bwrdd Iaith a'r Prif Weithredwr John Walter Jones.

Eu pechod oedd lleihau'r grant ariannol i'r Brifwyl. Doedd dim pall ar lach y Sanhedrin. Ond diolch byth daeth tro ar fyd. Mae'r Cyn Brifweithredwr bellach yn aelod gweithgar o Bwyllgor Gwaith y Steddfod hon a'r Cyn gadeirydd i'w Urddo'n Dderwydd er Anrhydedd yng Ngorsedd y Beirdd fore Gwener.
Ydyn mae'r Meibion Afradlon yn 么l ar yr Aelwyd.
Haleliwia!!

Ond mae Nedwyn y ci gwrth eisteddfodol wrth ei fodd efo'r glaw. Bu dan do drwy'r dydd ddoe - welodd o'r un eisteddfodwr.
"Gr锚t," meddai'r hen foi.

Mae Gwilym Owen yn darlledu ar y Post Cyntaf wedi saith o'r gloch bob bore yr wythnos hon a chyhoeddwn ei sylwadau bob yn ddiwrnod ar y safle hwn.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.