主播大秀

Cadeirio'r Prifardd T James Jones yn Eisteddfod 2007

A fydd teilyngdod?

A fydd enillydd i'r Gadair eleni?

Mae dyfalu mawr yn faint o brif gystadlaethau'r Eisteddfod y bydd enillwyr yng Nghaerdydd eleni.

Yng nghystadleuaeth y Gadair llwm iawn fu hi yn y Brifddinas yn y gorffennol. Mewn pum Eisteddfod dros y ganrif a chwarter diwethaf dim ond unwaith y bu cadeirio.

A chydag Archdderwydd newydd yn llywio'r seremon茂au eleni mae dyfalu mawr a gaiff Dic yr Hendre hefyd y diflastod o gyhoeddi 'Neb yn Deilwng'.

Yn ystod tymor ei ragflaenydd, Selwyn Iolen, bu gwobrwyo ym mhob un o'r seremon茂au a lywiodd.

Dyma sut y bu pethau hyd yn hyn yn hanes eisteddfodau cenedlaethol Caerdydd:

  • 1883 - neb yn deilwng o'r gadair, Coroni Anna Walter Thomas
  • 1899 - Neb yn deilwng o'r gadair; Coroni Richard Roberts
  • 1938 - Cadeirio Gwilym R Jones a Choroni Edgar H Thomas
  • 1960 - Neb yn deilwng o'r gadair; Coroni W J Gruffydd (Elerydd)
  • 1978 - Neb yn deilwng o'r gadair; Coroni Si么n Eirian

Er pan fu cystadleuaeth Medal Ryddiaith bu teilyngdod bob tro:

  • Elena Puw Morgan (1938)
  • Rhiannon Davies Jones (1960)
  • Harri Williams (1978).

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.