主播大秀

Darlun o Batagonia

Arddangosfa'r Andes

Siarad 芒 phobl Patagonia dros y we o'r Eisteddfod.

Bydd tri sefydliad filoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd yn cymryd rhan mewn arddangosfa 芒 chysylltiad gwe yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.

Bydd Ysgol Gymraeg yr Andes ym Mhatagonia yn ymuno 芒 Chanolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Caerdydd a'r Eisteddfod Genedlaethol i greu arddangosfa ar gyfer Maes D yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

"Rydyn ni wedi danfon lluniau a phytiau o wybodaeth am ein hardal, darnau o waith gan rai sy'n dysgu Cymraeg yma, recordiadau llais a ffilmiau cylch hen a chyfoes am y Wladfa ac mae dysgwyr Caerdydd wedi cyfrannu pethau tebyg o'u hardal nhw," meddai Gill Stephen sydd yn athrawes Gymraeg ym Mhatagonia ar hyn o bryd.

"Rydyn ni wedi cael amser cyffrous braidd yma yn Ardal Godre'r Andes hyd yn hyn y flwyddyn hon, gyda th芒n mawr ar y mynyddoedd rhwng Esquel a Threvelin a ffrwydrad folcanig. Mae lluniau bendigedig a dynnwyd gan bobl lleol o'r ddau beth ym mhlith lluniau'r arddangosfa," ychwanegodd.

"Wrth gwrs, dydy pethau ddim mor ddramatig yma trwy'r amser, felly rydyn ni hefyd wedi anfon lluniau o fywyd bob dydd - cymdeithasu, bwyta, byd natur a ffermio - i roi darlun mwy cytbwys!," meddai.

"Gobeithiwn y bydd pobl Cymru'n mwynhau gweld ein lluniau a darllen amdanom ni," meddai.

Wedi wythnos yr Eisteddfod bydd yr arddangosfa yn croesi'r Iwerydd ac i'w gweld yn Eisteddfod Trelew yn y Wladfa cyn dychwelyd i Drevelin ac Esquel yn yr Andes.

Bydd hefyd ddwy sesiwn yn ystod wythnos yr Eisteddfod pan fydd camer芒u gwe yn cysylltu'r Ganolfan yn Esquel gyda Phabell y Dysgwyr ar Faes y Brifwyl yng Nghaerdydd.

"Rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael siarad wyneb yn wyneb 芒 dysgwyr Cymru. Fe fydd yn arbennig o braf inni gael siarad 芒'n pobl ni, o ardal Godre'r Andes, Diana Jenkins, Enrique Borda Green, Glenda Powell a Jessica Jones sydd yn mynychu'r Cwrs Haf yn y Brifysgol yng Nghaerdydd ar hyn o bryd," meddai Gill Stephen.

Bydd y cyswllt cyntaf trwy gamera gwe ddydd Mercher yr Eisteddfod, Awst 6 am 14.00 o'r gloch yng Nghymru a 10.00 y bore yn yr Ariannin.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.