主播大秀

Archesgob Cymru

Pregeth Oedfa'r Bore

Gan Archesgob Cymru, y Parchedicaf Ddr Barry Morgan.

Yn y darlleniad yma o Lyfr Jeremeia, mae Jeremeia'n proffwydo rhyw ddyfodol gwych i genedl Israel rywbryd yn y dyfodol, ar 么l iddi ddychwelyd o'i Chaethglud hir ym Mabilon. Bydd ei bywyd, meddai, 'fel gardd ddyfradwy', a'r merched a'r gw欧r ifainc - a'r hen bobl hefyd - yn llawenhau mewn dawns.

A g诺yl o lawenhau yw ein Heisteddfod Genedlaethol i ni yng Nghymru, g诺yl o ddathlu ein gwlad a'n cenedl, ac, yn arbennig, o ddathlu ein hiaith - 'un o dafodieithoedd datguddiad Duw', yn 么l Gwenallt. Yn yr 诺yl hon, mae gennym ni bob hawl i orfoleddu yn ein hanes fel disgynyddion preswylwyr cyntaf yr ynysoedd hyn. Mi glywais i unwaith Athro Cymraeg yn dweud wrth gynulleidfa ryngwladol fod y Gymraeg yn iaith ddatblygedig a threfnus ac uchel ei diwylliant pan nad oedd Saesneg yn ddim ond sgrechfeydd aflafar yng nghoedwigoedd Schleswig Holstein!

Mae yna hyder newydd yng Nghymru heddiw gyda dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn arbennig yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a roddodd gyfartaledd i ddwy iaith Cymru am y tro cyntaf ers Deddf Uno 1536. Mae yna agwedd newydd at yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, ac at genedligrwydd Cymreig. Fyddai yna ddim maddeuant heddiw i'r Encyclopaedia Britannica am ddweud - fel y byddai'n dweud rai blynyddoedd yn 么l : 'am Gymru, gweler Lloegr'. Fyddai yna ddim croeso ychwaith yn y Gymru fodern i sylwadau Matthew Arnold. Dyma a ddywedodd hwnnw am yr iaith Gymraeg:

"Rhaid imi ddweud fy mod yn cytuno 芒'm brodyr o Saeson ar fater anghyfleustra ymarferol parhau'r arfer o siarad Cymraeg. Fe all achosi rhyw ofid dros dro yn nychymyg dyn o glywed am farw'r gwerinwr olaf yng Nghernyw i siarad yr iaith Gernyweg; ond nid oes amheuaeth nad yw Cernyw yn well lle am iddi fabwysiadu Saesneg a dod yn un 芒 gweddill y wlad. Y mae i breswylwyr yr ynysoedd hyn doddi i'w gilydd yn undod cyflawn Saesneg ei iaith, a phob ffin rhyngom wedi ei dymchwel a phob cenedligrwydd rhanbarthol wedi ei dileu, yn uchafbwynt y mae cwrs y byd yn arwain yn ddiwrthdro ato; mae'n un o anghenion yr hyn a elwir yn wareiddiad modern, a mater o amser yn unig yw dyfod y gwareiddiad hwnnw. Gorau po gyntaf y bydd i'r iaith Gymraeg ddiflannu o fywyd ymarferol a gwleidyddol a chymdeithasol Cymru; dyna fyddai orau i Loegr, dyna fyddai orau i Gymru ei hun."

Mae safbwynt fel yna yn dal yn gyffredin. Fe ysgrifennodd rhyw ohebydd papur newydd yn ddiweddar 'nad yw'r iaith Gymraeg ddim ond yn cael ei chadw'n fyw gan bwyllgorau sy'n bathu geiriau newydd am ddyfeisiadau modern fel y car modur a'r set deledu'.

Ond er bod gennym fel cenedl synnwyr newydd o'n hunaniaeth, hyder newydd a balchder newydd yn ein hiaith sy'n dyddio'n 么l i'r chweched ganrif a chanddi ei thraddodiad llenyddol ei hun ac sy'n perthyn i ddarn arbennig o dir, fe all y ddadl yngl欧n 芒 chenedl a chenedlaetholdeb a chenedligrwydd fod yn un boeth. Yr ydym wedi gweld - ac yn dal i weld - cost ddynol yr ymdrech am hunaniaeth genedlaethol mewn gwahanol rannau o'r byd - yn Iwgoslafia, Israel, Irac, Palesteina a rhannau o Affrica.

Yr her i ni fel cenedl yw cadw ein hunaniaeth, a llawenhau ynddi, heb fynd yn gul ein gorwelion, yn gaeedig ein meddwl, yn ddrwgdybus o estroniaid. Nid problem i Gymru'n unig yw hon. Does dim rhaid ichwi ond darllen colofnau llythyrau'r papurau newydd i weld y safbwyntiau eithafol sydd gan rai yngl欧n 芒 phobl sy'n chwilio am loches wleidyddol. Yr ydym ni oll, wrth gwrs, yn hoff iawn o ffiniau, ac fe all fod arnom angen ffiniau am fod ffiniau yn rhoi inni ryw deimlad o ddiogelwch ac yn diffinio pwy ydym ni - y teulu, a'r rhai nad ydynt yn perthyn; y Cymry, a'r rhai nad ydynt yn Gymry. Mae'r rhan fwyaf o bobl ledled y byd yn gwahaniaethu fel hyn. Fedrwn ni ddim byw heb wahaniaethu ond fedrwn ni ddim byw ychwaith os yw'r gwahaniaethau'n mynd mor haearnaidd nes ein bod yn ymateb i bobl o'r tu allan gyda chasineb a ffyrnigrwydd. Y cwestiwn yw hwn: Sut y gallwn warchod ein hunaniaeth fel cenedl, dal gafael yn yr hyn ydym a sicrhau na lyncir mohonom gan ddieithriaid heb, ar yr un pryd, droi ein gwarchodaeth yn beth dinistriol?

RHAN II

Sut y gallwn warchod ein hunaniaeth fel cenedl heb droi ein gwarchodaeth yn beth dinistriol? Oes gan yr Efengyl rywbeth i'w ddysgu inni? Wedi'r cyfan, y ffydd Gristnogol sydd wedi llunio Cymru. Rydym ni'n tarddu fel cenedl o'r cyfnod rhwng y blynyddoedd 400 ac 800, pan ddaeth Cristnogaeth yn rhan o hanfod ein bod.

'Gorwedd llwch holl saint yr oesau, A'r methyron yn dy g么l,' meddai Gwenallt. Ac y mae'n dweud mewn cerdd arall i'r saint hyn adeiladu Cymru ar sylfeini'r Preseb, y Groes a'r Bedd Gwag. 'Oes y seintiau' yw'r enw a roddir i ganrifoedd cynnar hanes Cymru. Roedd y seintiau hyn yn teithio ar hyd a lled y wlad yn pregethu'r Efengyl - dyna pam bod Gwenallt yn galw Dewi Sant yn 'sipsi Duw'. Ac y mae enwau lleoedd Cymru yn tystio'n huawdl i'r dylanwad a gawsant. Sawl 'llan' (yn wreiddiol, darn o dir claddu y codwyd yn ddiweddarach eglwys arno) sydd yma yng Nghymru, yn dwyn enw rhyw sant neu'i gilydd - Llanddewi, Llanbedr, Llandeilo, Llanfair. A Llandaf, wrth gwrs, ond mai afon, nid sant, yw Taf. Gwlad Gristnogol wedi ei llunio gan y grefydd Gristnogol yw Cymru. Mi wn i, wrth gwrs, fod y sefyllfa wedi newid yn arswydus yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bellach, dim ond rhyw 10% o boblogaeth Cymru sy'n aelodau o'r Eglwys Gristnogol. Ond eto mae'n deg gofyn: a oes gan yr Efengyl rywbeth i'w ddweud wrthym ni, yn y Trydydd Mileniwm, am genedligrwydd a pherthyn?

Hyd yn oed yma, mae'n rhaid inni fod yn ofalus, oherwydd fe ellir defnyddio crefydd hefyd i wahaniaethu rhwng pobl - y rhai sy'n perthyn a'r rhai nad ydyn nhw'n perthyn. Fe all perthyn i grefydd arbennig droi i fod yn rhyw fath o deyrngarwch llwythol, ac fe all crefyddau weithiau ddatblygu ffyrdd o blismona eu ffiniau i wneud yn si诺r mai dim ond y gwir gredinwyr sydd y tu mewn, ac nad oes neb yn cael mynediad os nad ydyn nhw'n credu'r un fath. Fe fu Iddewiaeth a Christnogaeth fel ei gilydd yn euog o hyn. Yn aml iawn, ac yn y rhan fwyaf o'r byd, mae brwdfrydedd crefyddol wedi ennyn brwdfrydedd cenedlaethol.

Eto i gyd, yng nghyfnod cynharaf Iddewiaeth - ac yng nghyfnod cynharaf Cristnogaeth hefyd - yr oedd yna rai a oedd yn amau swyddogaeth crefydd fel dull o wahaniaethu teulu oddi wrth ddieithriaid, y rhai y tu mewn oddi wrth y rhai y tu fas. Mae'n wir, wrth gwrs, fod Israel yn credu iddi gael ei galw gan Dduw yn genedl etholedig, ond fe fyddai proffwydi Israel yn atgoffa'r genedl nad oedd yna ddim ond un Duw, a'i fod e'n gofalu am bawb oll, waeth beth eu cred na'u crefydd na'u lliw, am mai ef a'u creodd nhw, ac iddo'u llunio nhw ar ei ddelw ei hun. Plentyn iddo ef yw pob bod dynol. Ac nid yn unig hynny, meddai'r proffwydi. Roedd y Duw hwn hefyd yn ymyrryd yn weithredol ar ran y rhai hynny yr oedd eu cyd-ddynion yn eu trin fel pe baen nhw'n llai na dynion. Roedd y Duw hwn yn cymryd ochr y rhai hynny a alltudiwyd ac a esgymunwyd ac a wrthodwyd ac a fwriwyd allan. Ac roedd e'n gwneud hynny er mwyn dangos eu bod hwythau hefyd yn perthyn iddo ef, ac yn rhan o'i deulu. Felly, roedd y proffwydi yn sefyll o blaid gwragedd gweddwon a phlant amddifaid ac estroniaid a chaethweision. Ac roedden nhw'n mynnu fod Duw ei hun yn sefyll o'u plaid hefyd: "Oherwydd yr Arglwydd eich Duw yw Duw y duwiau ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn ac ofnadwy; nid yw'n dangos ffafriaeth nac yn cymryd llwgrwobr. Y mae'n gwneud cyfiawnder 芒'r amddifad a'r weddw, yn caru'r dieithr, ac yn rhoi iddynt fwyd a dillad. Yr ydych chwithau i garu'r dieithryn, gan ichwi fod yn ddieithriaid yng ngwlad yr Aifft".

Ac ar yr union amser pan oedd Iddewiaeth mewn perygl o golli golwg ar y gwirionedd sylfaenol hwn yr oedd y proffwydi wedi bod yn ei bregethu - a cholli golwg arno, wrth gwrs, am fod yr Iddewon o dan ormes llywodraeth y Rhufeiniaid - dyma ddyfod Iesu i bregethu mai Duw yw Arglwydd yr holl fydysawd, a bod ganddo ofal arbennig am bawb sydd ar y tu fas - yn grefyddol, yn hiliol, yn emosiynol neu'n gymdeithasol. Ac felly byddai Iesu'n cymysgu gya phobl yr oedd ei gyd-Iddewon yn ei chael hi'n anodd dygymod a nhw - casglwyr trethi, gwahangleifion, pechaduriaid, merched, Samariaid - pobl yr oedd arweinwyr ei grefydd ef yn eu hystyried fel 'y nhw', ac nid 'ni'.

RHAN III

'Ni' a 'nhw'. Dyna destun dameg y Samariad Trugarog. Fy nghymydog i yw nid y sawl sy'n perthyn i'r un genedl 芒 mi neu i'r un grefydd 芒 mi, ond y sawl y digwyddaf fi daro arno, y sawl sydd mewn unrhyw fath o angen.

Roedd arweinwyr y grefydd Iddewig - a disgyblion Iesu ei hun - yn ei chael hi'n anodd i dderbyn hyn. Yr hyn yr oedd arnyn nhw ei eisiau oedd ffurfio rhyw fath o glwb a fyddai'n diffinio pwy a beth oedden nhw, ac a fyddai'n cadw allan bawb nad oedd yn aelod. Mae hynny'n beth y bydd pobl yn ei wneud, yn beth digon cyffredin. Ac eto, fel y gallwn weld o astudio unrhyw gyfnod mewn hanes, mi all fod yn un o'r pethau mwyaf dieflig. Mae'r un peth yn wir am deuluoedd. Allwn ni ddim byw heb deuluoedd. Mewn teuluoedd y gwelwn ni gariad dynol ar ei orau. Ac eto, mewn teuluoedd y gall y tueddiadau mwyaf dinistriol a chiaidd dyfu. Y baradocs yw hyn: yr ydym yn marw os na ddown ni at ein gilydd yn grwpiau, yn deuluoedd, yn genhedloedd; ond pan ddown ni at ein gilydd felly, yr ydym mewn perygl o ddinistrio ein gilydd yn gorfforol ac emosiynol a seicolegol.

Mae hyn yn wir am eglwysi hefyd. Mae'n rhaid inni, wrth gwrs, fel aelodau - pobl yn dod ynghyd i addoli, i dyfu yn y ffydd, i dderbyn a dangos cariad Duw. Ond fe all eglwysi hefyd, fel pob gr诺p dynol arall, fod yn lleoedd dinistriol, yn cadw dieithriaid wrth y porth. Mae'n rhaid inni gofio nad clwb, ac, yn sicr ddigon, nid clwb caeedig, mo'r eglwys. Mae Eglwys Dduw yn bod i wasanaethu, nid ei haelodau, ond y rhai nad ydynt yn aelodau ohoni.

Mi fyddwn i am ddweud, felly, fod ein hunaniaeth genedlaethol, ein cenedligrwydd a'n treftadaeth yn rhodd oddi wrth Dduw y dylem lawenhau ynddi. Mi fyddwn i am ddweud y gallem gael ychwaneg eto o hunanlywodraeth. Ac eto, mae'n rhaid inni sylweddoli fod y rhoddion a roddwyd inni, yr arbenigrwydd sy'n perthyn inni, nid er ein mwyn ni'n hunain yn unig ond er cyfoethogi dynolryw. Rhaid inni beidio byth ag anghofio ein bod yn perthyn i un ddynoliaeth gyffredin ac i un teulu dynol anwahanadwy. Peidiwn 芒 bod 芒 golwg gul ar genedligrwydd ac ar hunaniaeth genedlaethol. Peidiwn 芒'u gwneud yn bethau sydd wedi eu cyfyngu i ryw bobl arbennig, ac yn cau pawb arall allan. Rhaid inni beidio 芒 gwneud y genedl yn Dduw. Mae Efengyl Iesu yn ein rhybuddio o beryglon ceisio sefydlu rhyw glwb caeedig, ac yn ein herio i wrthod y duedd a all beri inni, yn unigolion a theuluoedd a chenhedloedd, alltudio eraill. Yr oedd cariad Iesu yn cynnwys pawb, ac yn cofleidio pawb, er mai Iddew o'r ganrif gyntaf oedd y dyn Iesu ei hun. Bu Iesu farw yn esgymun; bu farw y tu fas i waliau'r ddinas; a hynny yn ddarlun o'r pwynt fod Duw yn cymryd ochr y rhai sy'n cael eu cau allan am eu bod yn estroniaid neu'n glwyfedig neu'n beth bynnag yr ydym ni'n ei feddwl sydd o'i le arnynt. Mae'n gwneud y pwynt hwn am fod yr holl ddynolryw yn eiddo iddo ef.

Trwy fywyd Iesu fe ddangosodd Duw mai ei ffordd ef yw caniat谩u iddo'i hun gael ei wrthod gan y bobl y mae'n perthyn agosaf iddynt; darganfod sut beth yw bod yn un ar y tu fas sy'n gwrthod cas谩u y rhai sydd y tu mewn hyd yn oed ar yr union funud pan y mae'r rheini'n cau'r drws arno; a darganfod sut beth yw bod yn un y tu mewn sydd am garu rhai sydd ar y tu fas. I'r Duw hwn yr ydych chwi a minnau'n perthyn. Dyma ran o'r greadigaeth newydd a wnaed yn bosibl yn Iesu Grist. Mae arbenigrwydd iaith a diwylliant a thraddodiad yn rhodd Duw inni, ac yn diffinio pwy ydym a beth ydym. Ond y mae'n rhaid inni hefyd agor ein calonnau i'r rhai hynny sy'n wahanol inni, pobloedd a chenhedloedd ein byd rhanedig.

Fe'i datguddiodd Duw ei hun yn llawn yn Iesu Grist - Iddew o'r ganrif gyntaf, dyn arbennig mewn man arbennig ar adeg arbennig. Ond yr oedd y datguddiad hwnnw nid yn unig er budd cenedl yr Iddewon, ond er bodd yr holl ddynolryw. Fel y dywedodd Gwenallt:

Fe'i carcharwyd gan Ei gnawd a'i esgyrn Iddewig
Y tu mewn i derfynau Ei wlad,
Ond fe'u rhoes fel estyll byw i'w morthwylio,
A'u codi o'r beddrod, ar waethaf y gwylio,
Yn gorff catholig gan Ei Dad.

A mwy y mae Caerdydd cyn nesed 芒 Chalfaria,
A Bangor bob modfedd 芒 Bethlehem,
Gostegir y storm ym Mae Ceredigion,
Ac ar bob stryd fe all y lloerigion
Gael iechydwriaeth wrth odre Ei hem.

Ni chuddiodd Ei Efengyl rhwng cymylau Iwdea,
Y tu hwnt i dafod a llygaid g诺r.
Ond rhydd y bywyd sydd fyth i bara
Mewn llymaid o win a thamaid o fara,
A dawn yr Ysbryd mewn diferion d诺r.

Y mae Waldo Williams, yn ei gerdd 'Brawdoliaeth', y clywsom ni'r c么r yn ei chanu yn gynharach y bore yma, yn dweud yr un peth, mewn ffordd wahanol:

Mae rhwydwaith dirgel Duw
Yn cydio pob dyn byw;
Cymod a chyflawn we
Myfi, tydi, efe: ...

Myfi, tydi, ynghyd
Er holl raniadau'r byd -
Efe'n cyfannu'i fyd.

I'r Duw hwnnw y bo'r gogoniant a'r diolch, yr anrhydedd a'r gallu yn awr a hyd byth. Amen.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.