主播大秀

Seremoni'r Cymry tramor yn y gorffennol

Arweinydd y Cymry tramor

Cwmpasu Sir Benfro, India a Chanada

Bydd arweinydd y Cymry tramor yn bresennol yng Nghymanfa Ganu'r Eisteddfod yng Nghaerdydd heno.

Brodor o'r Groesgoch, Sir Benfro, ond yn awr yn byw yn Toronto, Canada, yw Myfanwy Bajaj a hi a ddewiswyd i gynrychioli'r ymwelwyr o dramor yn yr Eisteddfod gydol yr wythnos.

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Castell Haidd ac Ysgol Uwchradd Tasker, Hwlffordd.

Bu wedyn yn fyfyrwraig yng ngholeg hyfforddi athrawon Wrecsam.

Yr oedd yn aelod blaenllaw o'r Urdd ac wedi cystadlu llawer mewn eisteddfodau.

Wedi cyfnod yn dysgu yn Smethwick, Swydd Stafford, symudodd i ddysgu yn Panipat yn y Punjab, India, ac oddi yno y symudodd i Toronto yn 1967.

Un o'r pethau cyntaf a wnaeth ar 么l cyrraedd oedd sefydlu cangen o'r Urdd ar gyfer plant capel Cymraeg Dewi Sant lle'r oedd yn ddiacon.

Bu hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Dewi Sant Toronto ac o 糯yl garafannau aml hiliol Toronto gan wahodd Cymry i berfformio yno.

Am 30 mlynedd bu'n aelod o Bwyllgor Cymanfa Ganu Ontario ac yn ysgrifennydd G诺yl Gymreig Gogledd America.

Am ei gweithgarwch Cymreig dramor fe'i hurddwyd a'r Wisg Werdd gan yr Orsedd yn eisteddfod Llanelli 2000.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.