主播大秀

Mynediad am Ddim

Mynediad am Ddim

Roedd yn rhaid mentro i Faes C rywbryd yn ystod yr wythnos - a pham ddim y nos Sadwrn cyntaf?

Yno yr oedd band o'r Saithdegau yn perfformio, Mynediad am Ddim.

Nhw oedd yn agor wythnos o weithgareddau ar Maes C - ac yn 么l Emyr Wyn, un o brif leiswyr y band, mae'r t芒l yn talu am ei le ar y Maes Carafannau!

Roedd y lle yn orlawn a swyddogion yn gorfod darparu byrddau a chadeiriau ychwanegol i'r gynulleidfa.

Cafwyd perfformiadau egniol gan Emyr, Robin, Rhys, Geraint, a Geraint Cynan oedd yn eu cynorthwyo gan fod dau o'r aelodau dramor, un yn Seland Newydd ac un yn Sbaen.

fgh














Ymhlith y caneuon cafwyd y ffefrynnau, Cofio Dy Wyneb, Can Wini, Ynys Llanddwyn a Hi oedd fy Ffrind. Yn ystod y noson adroddodd Dewi Pws dweud ambell i stori ysgafn a chanu rhai o ganeuon Tebot Piws - fydd yn chwarae yn y Clwb Trydan ym Mhontcanna nos Fercher a nos Iau.

Cafwyd rhai o ganeuon newydd y Tebot, M.O.M FF.G a Twll yn Un yn ogystal 芒'r hen ganeuon fel Lleucu Llwyd a Blaenau Ffestiniog.

Erbyn ail hanner set Mynediad am Ddim roedd nifer wedi codi ac wedi mynd i ddawnsio.

Cafwyd Ceidwad y Goleudy, Beti Wyn, Casa Eroti, Moliannwn, Fflat Huw Puw a Fi cyn i bawb ganu Hen Wlad fy Nhadau.

Yr oedd hi'n dipyn o noson yn llawn hwyl a bywiogrwydd ac yn arwydd o'r amrywiaeth a fydd ym Maes C weddill yr wythnos.

Elin Angharad


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.