主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
Daniel Owen
Daniel Owen

Ganwyd: 1836

Magwyd: Yr Wyddgrug

Addysg: Ysgol Ponterwyl ac yna Coleg y Methodistiaid yn y Bala


Awdur y nofelau Rhys Lewis a Enoc Huws.

Yn 么l rhai, dyma nofelydd mwyaf Cymru a ddechreuodd ysgrifennu ar hap. Yr ieuengaf o chwech o blant, ganwyd Owen yn yr Wyddgrug i deulu tlawd.

Chafodd o erioed adnabod ei dad na dau o'i frodyr gan i'r tri farw ynghyd 芒 28 arall mewn llif ym mhwll Argoed yn yr Wyddgrug pan oedd Owen yn faban. Achosodd hyn galedi mawr i'r teulu.

Fe fagwyd Daniel Owen mewn t欧 teras a ddymchwelwyd yn ddiweddarach ym Maes-y-dre, yr Wyddgrug ac aeth yn brentis teiliwr i siop Angell Jones yn Stryd y Castell, yr Wyddgrug ac yna'n ddiweddarach ar y stryd Fawr.

Dylanwadodd Jones yn drwm ar ei brentis a chan ei fod yn aelod o'r Eglwys Bresbyteraidd, dechreuodd Owen bregethu dan ei anogaeth. Ar 么l deng mlynedd, gadawodd y siop a mynd i astudio ar gyfer y weinidogaeth yn 24 oed.

Fe ddychwelodd i siop y teiliwr ymhen dwy flynedd ond daliodd ati i bregethu. Cyhoeddwyd ei bregethau mewn cyfnodolion ac fe enillodd glod yn lleol amdanynt.

Agorodd Owen siop deiliwr ei hun efo partner ar y Stryd Newydd sef safle tafarn Y Pentan heddiw a datblygodd y siop yn un safonol iawn ond roedd Daniel Owen hefyd yn enwog am ei ddysgeidiaeth a'i athrawiaeth.

Tafarn Y Pentan heddiwOnd ar un cyhoeddiad pregethu yn Llangollen, fe drawyd Owen yn wael a ddaeth o ddim dros y salwch o gwbl a gorfu iddo roi'r gorau i bregethu. Awgrymodd y Parch. Roger Edwrds, golygydd Y Drysorfa ar y pryd, y dylai ganolbwyntio bellach ar ysgrifennu. Dyna'n union a wnaeth.

Cyhoeddodd Owen nifer o lyfrau gan gynnwys Y Dreflan a Hunangofiant Rhys Lewis gan sylfaenu sawl un o'r cymeriadau ar gymeriadau y gwyddai ef amdanynt yn yr Wyddgrug.

Cyhoeddwyd Hunangofiant Rhys Lewis yn wreiddiol yn 1885 a dyma yn 么l rhai ei waith gorau. Ysgrifennodd sawl llyfr arall ac ef hefyd oedd Cadeirydd cyntaf Cyngor Tref yr Wyddgrug yn 1894.

Er o deulu tlawd yn wreiddiol, fe lwyddodd Daniel Owen i godi t欧 i'w fam ac roedd o'n byw mewn fflat yn Stryd Newydd.

Bu farw yn 1895 ac fe'i claddwyd yn y fynwent yn yr Wyddgrug. Codwyd cerflun goffa iddo wrth ymyl y llyfrgell yn Stryd Earl.

  • Taith Daniel Owen
  • Cofgolofn Daniel Owen
  • Daniel Owen mewn darlun

  • Cyfrannwch

    Annette Strauch, Machynlleth & Yr Almaen
    Ges i lyfrau Daniel Owen gan Delwyn Tibbott ym Mhentyrch. Anrhegion Nadolig. Diolch yn fawr! Mi oeddwn i wedi mwynhau "Treflan" (Y Dreflan) ar S4C 2002/03 hefyd! Oes llyfrau Daniel Owen mewn Almaeneg? Mae rhaid i fi ffindio mas.
    Fri Feb 6 22:34:59 2009

    Josh Leech O Yr Wyddgrug
    This is great source for my A level coursework for Daniel Owen
    Wed Feb 14 19:10:54 2007

    dafydd@tryweryn.org
    Lloyd george never knew my father but my great great grandmother(?)lived in Maes y dre and i assume her kids went to school with Daniel.
    Tue May 16 22:07:02 2006

    Jan Miller o Holywell
    I'm sorry, I can't understand Welsh enough! Is there an English translation for this page, or any other info. about Daniel Owen in English? Thanks, Jan Miller. The English version can be seen here: http://www.bbc.co.uk/wales/northeast/guides/halloffame/arts/daniel_owen.shtml
    Mon Dec 20 09:24:40 2004


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy