主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Celfyddydau
Bryn Terfel
Bryn Terfel

Ganwyd: 29 Medi 1964

Magwyd: Pantglas

Addysg: Ysgol Dyffryn Nantlle


Un o s锚r opera enwoca'r byd

Wyddech chi?: Yn 么l Bryn ei hun, un o brofiadau mwyaf ei fywyd oedd canu yn agoriad Cwpan Rygbi'r Byd yng Nghaerdydd efo Shirley Bassey a pherfformio Rule Britannia yn noson ola'r Proms yn Llundain gyda draig goch tegan dan ei gesail.

Mae llais b芒s-bariton Bryn Terfel Jones yn un o'r lleisiau opera mwyaf adnabyddus a llwyddiannus ar draws y byd i gyd.

Mae'n fab i Hefin a Nesta Jones ac fe'i magwyd ar fferm Nant Cyll Uchaf, Pant Glas ger Garndolbenmaen. Daeth ei ddoniau i'r amlwg yn fuan iawn a dechreuodd gael gwersi canu gan hen ffrind i'r teulu, Selyf Jones, yn bedair oed.

Erbyn iddo gyrraedd Ysgol Gerdd y Guildhall yn 1984 roedd eisoes wedi ennill cystadlaethau lu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Yno dechreuodd weithio gyda'i athro llais presennol, Rudolf Piernay, gan ennill medal aur y Guildhall ac Ysgoloriaeth Kathleen Ferrier.

Yn 么l y beirniaid, cyfuniad o lais gwych, ynganu cywir, presenoldeb llwyfan a dawn actio sy'n ei wneud yn un o gantorion opera gorau ei ddydd. Mae wedi perfformio yn nhai opera mwya'r byd gan ganu gwaith cyfansoddwyr mor amrywiol 芒 Mozart, Wagner, Puccini, Stravinsky, Verdi a Britten.

Rhoddodd Bryn ei berfformiad cerddorol proffesiynol cyntaf gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru fel Guglielmo yn Cosi Fan Tutte gan Mozart ym 1990 cyn cymryd un o'i rannau enwocaf, sef Figaro, yn ei ymddangosiad cyntaf yn America gyda Chwmni Opera Santa Fe. Ond fe ddaeth ei gyfle mawr fel Jochanaan yn Salome yng Ngwyl Salzburg yn Awstria.

Ers iddo ennill y wobr Lieder yng nghystadleuaeth Canwr y Byd yng Nghaerdydd, mae Bryn wedi recordio sawl albwm o ganeuon gan Schubert, Schumman a Vaughan Williams. Mae hefyd wedi rhyddhau dwy CD o ganeuon sioe gerdd gan gynnwys gweithiau gan Rogers ac Hammerstein a Lerner a Loewe heb s么n am ei waith i gwmni Sain.

Mae'n byw efo'i wraig Leslie a'i feibion yn y Bontnewydd ger Caernarfon. Rhoddodd ei enw i un o wyliau cerddorol mwyaf llwyddiannus yr ardal, G诺yl y Faenol yn 1999 ac ers hynny mae rhai o s锚r amlycaf byd yr opera, pop a sioeau cerdd Llundain wedi teithio i Wynedd i ddiddanu'r torfeydd.

Fe wnaeth hefyd gefnogi'r ymgyrch i sicrhau cartref teilwng i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru a bydd yn chwarae'r brif ran yn The Flying Dutchman gyda'r cwmni yn 2006 yn Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy