主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cofnodion teuluol Camau cyntaf
Oes arnoch chi awydd olrhain hanes eich teulu? Dyma ychydig o ffynonellau i'ch rhoi ar ben ffordd.

Mae tystysgrifau geni a phriodas yn fan cychwyn da i'r math o gofnodion sydd ar gael wrth ddechrau ymchwilio i hanes eich teulu. Beth am ddechrau efo'ch tystysgrif geni - mae'n cofnodi enwau eich rhieni yn ogystal ag enw morwynol eich mam.

Bydd tystysgrifau geni eich rhieni yn nodi enwau eich neiniau a'ch teidiau hefyd ac enw morwynol eich dwy nain. Bydd tystysgrif priodas yn nodi enwau eich dau daid a'u gwaith a bydd tystysgrifau priodas y neiniau a'r teidiau yn rhoi'r un wybodaeth. A dyna chi wedi mynd yn 么l dair cenhedlaeth yn barod!

Fel arfer y cam nesaf ydy mynd at fynegai'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol sef y (GRO) Index. Ers 1837, pan ddaeth cofrestru sifil yn orfododol, mae mynegai'r GRO wedi cofnodi pob genedigaeth, priodas neu farwolaeth yng Nghymru a Lloegr.

Mae genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn cael eu rhestru mewn adrannau gwahanol o'r indecs a than 1984, roedden nhw'n cael eu cofrestru fesul chwarter blwyddyn: Gwanwyn Mawrth; Haf Mehefin; Hydref Medi; a Gaeaf Rhagfyr. Gall Swyddfa'r Ystadegau Cenedlaethol (ONS) roi gwybod i chi lle mae'ch mynegai lleol chi - yn eich llyfrgell leol er enghraifft.

Os ydych chi'n chwilio am dystiolaeth am enedigaethau, priodasau neu farwolaethau cyn 1837, rhaid troi at gofnodion yr Eglwys gan mai yma fyddai pob bedydd, priodas neu gladdedigaeth yn cael eu cofnodi nes daeth cofrestru sifil i fodolaeth. Cyfrifiad 1841 oedd y cyntaf i gofnodi gwybodaeth am unigolion (er fod cyfrifiadau wedi dechrau yn 1801) ar cyfrifiad diweddaraf sydd ar gael ydy un 1901 oherwydd chaiff y cyhoedd ddim gweld manylion cyfrifiadau am 100 mlynedd ar 么l iddyn nhw gael eu casglu.

Mae Cyfrifiad 1901 ar gael ar y we ac fe allwch chi lwytho gwybodaeth oddi arno, dim ond ichi dalu. Mae'r Ganolfan Cofnodion Teuluol hefyd yn cadw gwybodaeth y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr ac mae cop茂au hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd neu swyddfa gofnodion y sir.

Mae cyfrifiad yn cofnodi enw, oed, statws priodasol, gwaith pawb oedd yn byw yn y t欧 pan gymerwyd y cyfrifiad, yn ogystal 芒 dangos beth yw eu perthynas 芒'r penteulu.

Weithiau, fe fydd cymdeithasau hanes teulu lleol hefyd yn cadw mynegai defnyddiol o atebion y cyfrifiad yn yr ardal.

Mae Family Search yn rhan o fersiwn ar-lein Mynegai Achyddol Rhyng-genedlaethol (IGI) Eglwys Iesu Grist ar Saint Diweddar. Mae'r IGI (International Genealogical Index) yn adnodd byd-eang syn cynnwys gwybodaeth am enedigaethau a phriodasau yng Nghymru a Lloegr. Mae'n deillio o gofrestrau plwyfi cyn 1837 ac yn rhoi cyfle i ymchwilwyr rannu gwybodaeth ar y we. Mi allwch ei ddefnyddio yng nghanolfannau hanes teuluol Eglwys Iesu Grist ar Saint Diweddar, neu mewn llyfrgelloedd mawrion a swyddfeydd cofnodion sirol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy