主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Celyn Nadoligau a fu
Ar ymweliad 芒 chlwb Merched y Wawr, Bangor, rhannodd Meinwen Parry, gynt o Rosgadfan, atgofion am Nadoligau ei phlentyndod gyda ni.
Gwrandewch ar atgofion Meinwen...

"Yn yr amser cyn y rhyfel mewn pentref bach yn y wlad, dim ond rhyw ddwy neu dair o siopau oedd yna, doedd yna ddim llawer o anrhegion i'w prynu! Doeddwn i ddim yn gwybod lot am y Nadolig, nac yn dallt fod Santa Cl么s yn dod i lawr y simnai! Byddwn yn cael slipars, coban neu ryw gap gweu.

"Dwi ddim yn cofio gofyn i'r plant y diwrnod wedyn 'Be gest ti i 'Dolig?' - roedd 'na gartrefi 芒 lot o blant oedd yn cael fawr o ddim.

"Yr unig beth oedd i'w gael yn y siopa oedd rhyw hen hosan 'Dolig wedi ei gwneud allan o net, llawn o 'sgraps' y byddech chi'n ei rhoi mewn d诺r, a'i roi ar eich llaw a'i dynnu, a gwneud rhyw lun ar eich llaw, a chwistl efallai.

"Y peth dwi'n cofio ei gael a roddodd bleser mawr i mi oedd si芒p dol mewn llyfr oedd yn sefyll i fyny, fel cardbord, a thu fewn roeddech yn gallu torri gwisgoedd allan i'w rhoi amdani. Cadwodd fi'n dawel am wythnosau! Roedd ganddi gap a ffwr rownd iddo, a ffrog gwta oedd yn ffwr i gyd. Dwi'n cofio gofyn 'Beth mae hi'n ei wneud yn hwn?' 'Sglefrio' meddai mam - ond fyse chi ddim yn mynd allan i ben mynydd lle roeddwn yn byw wedi gwisgo fel yna!

"Doedd ganddon ni ddim coeden Dolig ond byddai fy nhad yn mynd allan ryw wythnos cyn 'Dolig i dorri sbrigyn o gelyn, ac mi fydden ni'n rhoi trimings bach arno.

"Doeddwn i ddim yn galw gwasanaeth bore 'Dolig yn blygain, ond byddai pob capel yn dod at ei gilydd i ganu carolau - roedd gan bob teulu eu carol eu hunain, ac yn cymryd eu tro i'w ganu mewn harmoni."

Ella Jones

A beth am Nadolig yn Llanfairtalhaearn? Dyma hanesion Ella Jones.

"Roeddwn yn byw yn Llanfairtalhaearn a noson Nadolig oedd yr amser i drimio'r t欧 - y bocs yn dod allan, pawb yn brysur yn gwneud y gorau i'r celyn, a phethau eraill roeddem wedi gwneud fel plant. G诺ydd fyddem gael i'r Nadolig, a thwrci i'r flwyddyn newydd.

"Doedd yna ddim trydan, felly canu o gwmpas y piano fysen ni i gyd, mewn pedwar llais - os nad oedd dad yn gwybod y b芒s, roedd yn rhaid ei ddysgu'n gyflym!

"Roeddem yn cael hosan, ond dwi ddim yn cofio lot ynddo - oren a rhyw ffrwyth, nad oeddwn yn ei gael yn aml iawn yn y 1940au, er, dwi'n cofio cael pethau i'w wneud, fel eda' i wneud pwyth groes, pethau i weu ac ychydig o lyfrau weithiau. Ond roeddem yn byw ar fferm ac roedd yr anifeiliaid angen cael bwyd, felly diwrnod fel arfer oedd y Nadolig ar y cyfan.

"Doedd yna ddim plygain na gwasanaeth yn y capel, os nad oedd y Nadolig ar ddydd Sul, ond roedd 'na eisteddfod pwysig iawn ym Metws yn Rhos."

  • Mwy o atgofion criw Merched y Wawr
  • Gwneud cyflaith

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy