主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y cyn forwr, Gwyn Pritchard. Hogia'r Welsh Navy
Bu dwy raglen ar 主播大秀 Radio Cymru yn 2005 yn dilyn hynt a helynt Cymry a aeth, n么l yn y pumdegau a'r chwedegau, i ddilyn gyrfa ar y m么r.
Ar hyd y canrifoedd, bu tyniad at y m么r ym m锚r esgyrn nifer o fechgyn Cymru - gyda'i addewidion o wledydd dieithr, profiadau egsotig ac anturiaethau cyffrous. Ac yn wir, n么l yn y pumdegau a'r chwedegau, cymaint oedd nifer yr hogiau Cymraeg aeth i weithio ar y Blue Funnel Line yn Lerpwl fel iddi gael ei hail-enwi ar lafar yn Welsh Navy.

Roedd y gyfres o ddwy raglen ar 主播大秀 Radio Cymru, Hogiau'r Welsh Navy yn adrodd hanesion y rhai o ogledd Cymru a brofodd ryfeddodau ar y Blue Funnel Line, yn eu geiriau eu hunain.

Roedd y gyfres yn adrodd sut aeth llawer o'r hogiau, rhai mor ifanc 芒 16 oed, dros y byd i gyd, yng nghwmni bechgyn tebyg iddyn nhw eu hunain, o Sir F么n, Pen Ll欧n a gweddill gogledd orllewin Cymru.

Roedd nifer wedi gweld bechgyn h欧n na nhw oedd eisoes yn gweithio ar y llongau, yn dychwelyd i'w pentrefi a threfi, gyda lliw haul, pres yn eu pocedi ac, yn fwy na dim, profiadau na allai'r rhan fwyaf o gefn gwlad Cymru ond breuddwydio amdanyn nhw. Yn sicr, rhamant ac antur a ddenodd lawer i fywyd ar y m么r, ac os oedd y bywyd hwnnw i'w gael yng nghwmni Cymry Cymraeg fel y nhw eu hunain, gorau oll.

"O'n i 'di meddwl mynd i'r m么r erioed, ers yn blentyn," meddai Dylan Parry o Waunfawr yn wreiddiol, ond r诺an yn byw yn y Felinheli.

"Ac mi ddaeth yna ryw cefnder i mi lawr o Lerpwl ac roedd o'n deud lle mor dda oedd ar y Blue Funnel a gymaint o hogiau Cymraeg oedd yn hwylio hefo'r cwmni. Ac es i fyny i Birkenhead - lle o'r enw Odyssey Works - a phan es i mewn drwy'r drws y boi cyntaf i nghyfarch i oedd Cymro o'r enw Mr Griffiths ac oedd pawb yn anelu tuag ato fo i dr茂o cael llong dda..."

Profiad tebyg gafodd Gareth Jones o Gaergeiliog: "Mi ddois i ar y Blue Funnel a'i joinio hi yn Birkenhead a ffeindio bod yna lot iawn o ddynion Cymraeg," meddai. "Y peth cynta' oeddech chi yn weld oedd dynion o Fangor, Pwllheli ac Amlwch ar y llong."

Ac i lawer oedd erioed wedi bod ymhellach na'u milltir sgw芒r, roedd y teithiau yn rhai maith a rhyfeddol, wrth iddyn nhw fynd i'r dwyrain pell yn hel a chludo nwyddau.

Roedd yn sicr yn gyfle i weld llefydd na fyddent erioed wedi eu gweld oni bai iddyn nhw ddewis y llwybr gwaith hwn, fel yr eglura Tony Jones o Rhiw, Ll欧n.

"Gadael Birkenhead i Curacao, am bunker - d诺r ac oel - drwy'r Panama Canal ar draws y M么r Tawel a thri porthladd yn Japan - Yokohama, Nagoya a Kobe. Wedyn oeddan ni yn mynd i Pusan yn Korea, Taiwan... ac wedyn oeddan ni yn Hong Kong, the jewel of the east, y porthladd gorau gen i yn y dwyrain pell, wedyn Singapore, Port Sweatenham a Ceylon wedyn i ddarfod llwytho'r llong hefo te, mewn chests - os oedd y te'n ysgafn ac yn mynd ar y top - Cape Town neu Durban wedyn i gael bunker eto a chyrraedd n么l a docio yn Lerpwl."

Roedd y gwaith ar y llong yn aml yn galed, gyda'r hogiau ifanc yn gweithio ar y dec, yn peintio, crafu, golchi, sgwrio a chario. Ac roedd y chwarae yn galed hefyd, yn 么l rhai o'r stor茂au digon mentrus gaiff eu hadrodd gan bobol fel Michael Hughes o Borthmadog a gafodd ei fygwth gyda gwn a'i glymu gan f么r-ladron yn dwyn y nwyddau ar fwrdd y llong.

Roedd llawer o gapteiniaid y Blue Funnel yn Gymry, gan gynnwys tad y gyflwynwraig Si芒n Pari Huws, Gwyn Pari Huws, a dreuliodd yrfa oes ar y m么r.

Pan oedd Si芒n yn ifanc roedd ganddo swydd ar y lan fel Marine Superintendent, ond roedd yn dal i dreulio llawer o amser ar y d诺r. Cafodd Si芒n ei magu yn Birkenhead ac mae cariad at y m么r yn rhywbeth a etifeddodd gan ei thad, a fu farw ddwy flynedd yn 么l.

"Mi fu dad yn gweithio i'r Welsh Navy ei hun yn y 50au," meddai Si芒n. "Roedd y m么r yn ei waed o, a mi ges i a fy nau frawd ein magu ar gychod. Rydyn ni'n dal i gadw cwch dad yn harbwr Caernarfon ac yn ei hwylio'n rheolaidd. Dwi yn hapus iawn ar gychod, am wn ei fod yn dod 芒 fi yn agosach at dad. Mae'n gyfle i ddianc yn tydi? Y rhyddid, a'r antur."

Mae Si芒n, sydd nawr yn byw ger y Fenai yn Felinheli, yn parhau i hwylio yn aml ac wedi hwylio ar draws yr Iwerydd ar y Tall Ships hefyd.

"Mi es i hwylio hefo fy ffrind o Abersoch i Enlli diwrnod o'r blaen, ar ddiwrnod braf o haf. Be gei di well?"

  • Manylion rhaglen 2
  • Atgofion Meirion Pugh Jones o Ddyffryn Ardudwy
  • Atgofion Dylan Parry o'r Felinheli

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy