主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dylan Parry Bywyd ar y Blue Funnel
Mae Dylan Parry o'r Felinheli (Waunfawr yn wreiddiol) yn fwy adnabyddus fel un hanner y ddeuawd Dylan a Neil ond, tra'n gweithio ar y m么r, bwrodd ei brentisiaeth yn canu mewn bariau yn y Dwyrain Pell - cyfnod hapusaf ei fywyd.
"Ro'n i wedi meddwl mynd i'r m么r erioed, ers pan oeddwn i'n blentyn, a daeth cefnder imi i lawr o Lerpwl a deud lle mor dda oedd ar y Blue Funnel a chymaint o hogia Cymraeg oedd yn gweithio efo'r cwmni.

"Felly, mi es i fyny i Odyssey Works yn Birkinhead, a phan es i fewn drwy'r drws, y boi cynta' i nghyfarch i oedd Cymro o'r enw Mr Griffiths. Roedd pawb yn anelu ato fo i dr茂o cael llong dda.

"Roedd yna dipyn go lew o Gymry efo ni ac roedd y sgwrs weithia bron iawn i gyd yn Gymraeg ar y dec a'r Sgowsars yn cael hwyl efo ni. Roeddan nhw'n tynnu arnon ni'n siarad Cymraeg ac yn tr茂o joinio i mewn bob hyn a hyn.

Dylan ar y m么r yn 15 oed"Roedd y gwaith reit galad, yn enwedig efo cwmni'r Blue Funnel. Dim craenia oedd yr adeg honno ond be oeddan ni'n ei alw'n derricks ac roedd na 27 o'r rheiny ar y cwch i gyd a saith o hatches. Roeddan ni'n gorfod gwneud yn si诺r fod bob dim yn iawn, bob dim yn saff, paentio a chipio a phetha felly.

"Yn y dechra', roeddan ni'n codi tua 5.30 yn y bora' ac yn gorfod sgrwbio'r dec o'r top i'r gwaelod. Roedd hynny'n mynd ymlaen tan tua 7.30am, wedyn roeddan ni'n cael brecwast am 8.00am. Hefyd, roedd yr hogia'n cadw watch - roedd gynnoch chi'r shifft 12 - 4, 4 - 8 a 8 - 12. Roedd yn waith reit galad a deud y gwir.

"Mi wnes i dipyn bach o ganu tra ro'n i ar y m么r. Y lle dwi'n ei gofio orau ydy yn Awstralia. Dwi'n cofio mynd i gapal Cymraeg yn Awstralia a chael croeso mawr yn fanno a mynd 芒'n git芒r efo fi a chanu. Dwi wedi bod n么l mewn cysylltiad efo'r bobl rheiny ers hynny.

Dylan yn canu yn Toby's Paradise"Mi roeddan ni'n mynd i fyny i ganu yn y bariau yn Singapore a llefydd felly. Toby's Paradise, dwi'n meddwl oedd enw un bar - mi roeddan ni'n arfar cael sing-song yn fanno.

"Roedd 'na fariau roeddan ni'n mynd iddyn nhw yn Hong Kong hefyd. Yn ochr Kowloon oeddan ni, ac roeddan ni'n mynd i le o'r enw'r Lucky Bar - ac mi oeddan ni'n lwcus ofnadwy! Roedd na ferchaid yn dod i eistedd ar eich glin ac yn gofyn inni brynu diod iddyn nhw a ballu. Weithiau, mi fyddan ni'n prynu drinc iddyn nhw.

"Enw bar arall poblogaidd oedd Waltzing Matilda ac ym mhob porthladd roedd na Seaman's Mission lle roeddan ni'n cael mynd weithiau i nofio.

"Yn Japan oedd rhai o'r llefydd gorau yn y byd, faswn i'n ei ddeud - llefydd fatha Kobe a Yokohama. Dwi'n cofio fy nhrip cyntaf i Yokohama. Roedd y llong yn docio ar y pier ac roedd 'na ferchaid Geisha yn cerddad ar hyd y pier. Roedd na foi o Edern efo fi a dyma fo'n gweiddi drosodd ar y ferch ifanc yma, 'Do you want to take him for a walk?' 'Yes,' medda hi. Do'n i ddim wedi disgwyl dim byd! Un-ar-bymtheg oed o'n i ac ar fy nhrip cynta. Mi ges i fynd efo hi trwy'r wythnos - mi aeth hi 芒 fi rownd Yokohama i gyd yn dangos y sites a llawer o betha eraill hefyd!

"Dwi'n cofio'r chief officer yn dod i lawr unwaith. Roedd o'n gwybod fod na lot ohonan ni'n Gymry a dyma fo'n deud wrtha fi: 'Taff. Get your guitar out, let's have an Eisteddfod'. Wedyn, mi roeddan ni i gyd yn eistedd ar y dec gyda'r nos yn cael sing-song ac yn mynd rownd pawb yn gofyn iddyn nhw ganu ac os nad oeddan nhw'n canu oeddan nhw'n gorfod gwneud rhywbeth arall - ond fedra i ddim dweud be!"

Efo cyfaill yn Penang, Malaysia"Dwi'n ein cofio ni mewn ryw borthladd, dwi ddim yn cofio yn iawn yn lle, ac roedd Dic o Bontnewydd efo ni. Wrth lanio, roeddan ni wedi hitio ochr y cwch yn y pontoon ac roeddan ni'n wedi cael bob dim yn barod ar y pontoon i drwsio a dyma Dic yn deud wrtha fi - 'Dos rownd a gwna' yn si诺r bod 'na neb yn mynd i'r lavatory'. 'Iawn, Dic' medda fi, 'mi 芒 i rownd.'

"Roedd Dic wrthi'n paentio ochr y cwch a thra ro'n i wedi cerdded rownd roedd na ddyn wedi mynd i'r lavatory, drosta fo i gyd! A dyma fi'n sb茂o dros yr ochr yn tr茂o cadw wyneb syth a dyna lle roedd Dic yn cyfogi dros ochr y pontoon ac yn fy rhegi fi! Mi ddeifiodd yr hen Dic i mewn i'r d诺r achos roedd o wedi ei orchuddio mewn baw ac yn dal i regi a damio! Mi ddaeth ar hyd ochr y cei yn cyfogi ac aeth yn syth i'r shower a welodd neb mohono fo am ddau ddiwrnod - mi aeth ar y cwrw am ddau ddiwrnod!

"Mi dreuliais i naw mlynedd ar y m么r. Mi rois i'r gorau iddi, fatha'r rhan fwyaf ohonon ni, ar 么l cyfarfod merch a gwirioni. Ond mi faswn i'n deud mai amsar gorau fy mywyd oedd ar y Blue Funnel Line a dwi ddim yn meddwl y cawn ni fyth mo'r amsar yna n么l. Y 60au oedd yr adeg gorau i longau. Mi es i weithio ar yr overhead lines wedyn.

"Dwi'n colli'r m么r - dwi bob amsar yn meddwl amdano fo ac rydan ni'n cyfarfod bob blwyddyn yng Nghaergybi ac mae'r hogia'n dod at 'i gilydd ac yn canu amball shanti a chael hwyl."

  • Cyhoeddodd Dylan ei hunangofiant, M么r o Ganu, ym mis Medi 2006. Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch 拢6.50.

  • Atgofion Meirion Pugh Jones

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy