主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Robin McBryde yn taflu i mewn i'r linell (Llun: Huw Evans Picture Agency) Camp Lawn
Sut brofiad oedd bod yng nghalon t卯m y Gamp Lawn 2005? Dyma sylwadau'r bachwr Robin McBryde o Borthaethwy, y Gog cyntaf i helpu t卯m Cymru i gyflawni camp fawr y byd rygbi.
Sut brofiad oedd bod yng ngharfan y Gamp Lawn?
Mi aeth yn reit sydyn o un g锚m i'r llall wrth i'r bencampwriaeth fynd yn ei blaen. Rhoddodd y g锚m yn erbyn Lloegr hyder i bawb ond dwi'n meddwl mai ar 么l y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc ddaru ni ddechrau meddwl fod y gamp lawn yn bosibilrwydd. Mae pawb wedi gofyn beth ddigwyddodd yn y 'stafelloedd newid ar hanner amser - ond y gwirionedd ydy na ddigwyddodd dim byd gwahanol! Fel dywedodd rhywun, ddaru ni ddim clywed dim doedden ni heb ei glywed cyn cychwyn y g锚m. Ddaru'r bechgyn jest asesu beth oedd wedi bod yn digwydd ar y maes a mynd ati i wella pethau. Wnaeth dim byd syfrdanol ddigwydd! Roedden ni wedi bod mor agos yn gemau'r Hydref - jest dri neu bedwar pwynt ynddi bob tro - jest mater o gael y pwyntiau ychwanegol yna oedd hi.

Y t卯m yn codi'r gwpan. Llun: Huw Evans Picture AgencyBeth am yr awyrgylch yn y stadiwm?
Ddaru ni i gyd sylwi faint o bobl oedd ar y strydoedd wrth i ni deithio yn y bws a dwi'n meddwl fod y canu yn y stadiwm yn uwch nag erioed, yn enwedig gyda Max Boyce yn dal i ganu ar 么l y g锚m i ddiddori pawb. Ddaru sawl un ddweud wrtha'i eu bod wedi aros am dros awr ar 么l y chwiban. Roedd yn achlysur i bawb - dim jest y chwaraewyr, ond i'r dorf ac i Gymru i gyd.

Beth am daith y Llewod?
Mae o yna yn y cefndir yn rhywle ond nes i'r garfan gael ei chyhoeddi wna i ddim meddwl llawer amdano, dim ond canolbwyntio ar weddill y tymor gyda'r Scarlets. Mae'r Cwpan Celtaidd i ddod ym mis Mai.

Oes 'na chwaraewyr eraill o'r gogledd am gyrraedd y brig?
Mae 'na ryw bump neu chwech o ieuenctid dwi'n gwybod amdanynt yn gwneud yn dda ar y funud - Cai Griffiths o'r Gweilch a'r t卯m o dan 21, ddaru ennill y Gamp Lawn hefyd, ydy un ohonynt.

Mae na foi o'r Wyddgrug yn Academi'r Scarlets hefyd - felly maen nhw'n dod mewn 'dribs a drabs'.

Ond dwi yn meddwl fod y gogledd i gyd yn lle rhy fawr i un rhanbarth fel y Scarlets ddelio 芒 fo. Dylai pawb gael y cyfle i fynd i chwarae i ba bynnag d卯m ac i bawb gadw llygad ar beth sy'n digwydd yn yr ardal.

Oes gennych chi unrhyw gyngor i chwaraewyr ifanc?
Wel, mae rygbi yn g锚m i bob si芒p - mawr a bach. Mae hefyd yn ffordd wych o gymdeithasu os nad ydach chi eisiau ei gymryd o ddifrif. Jest mwynhewch chwarae'r g锚m yn yr ysgol a chymerwch hi o fa'na.



Ar y Marc
Natur
Straeon Digidol


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy