主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Parti?
gan Iona Wyn Jones o Nebo.
BZZZ! Aeth y cloc larwm am wyth o'r gloch, amser codi. Bore Dydd Llun cymylog oedd hi ac roedd Jacob yn chwyrnu fel mochyn.

"Coda Jacob, amser brecwast," galwodd ei fam o'r gegin.

"Coda nei di'r sach o datws!" dywedodd Gema. Wnaeth hyn wylltio Jacob felly cododd o'i wely a rhuthrodd ar 么l ei chwaer. I lawr y grisiau, trwy'r gegin ac i'r ystafell fyw. Neidiodd Gema ar ben y bwr' coffi yng nghanol yr ystafell. Ceisiodd Jacob ei dal ond baglodd drost Pero y ci a 'Crac!', torrodd y bwrdd yn ei hanner.

"Beth ar y ddaear sydd wedi digwydd fan hyn?," gweiddodd Mam.

"Gema ddechreuodd o!" atebodd Jacob.

"Ti'n deud clwydda!" dywedodd Gema.

"Stopiwch! Ydach chi mwy fel ci a chath na brawd a chwaer," dywedodd Mam. "A Jacob, os wyt ti yn gwneud un peth gwirion arall gei di anghofio am mynd i barti Beca."

"Dos i newid," meddai Mam yn ddi-amynedd wrth godi darnau o bren oddi ar y llawr. Cerddodd Jacob yn araf i fyny'r grisiau i'w lofft a caeodd y drws gyda chlec! Wrth iddo newid syllodd ar y gwahoddiad parti a gafodd o gen ei ffrind gorau, Beca.

Annwyl Jacob
Wnei di ddod i fy mharti
am 4 o'r gloch yn fy nh欧 fi
ar ddydd Llun, Ebrill 1af.

Roedd o yn nabod Beca ers roedden nhw yn 2 oed. Doedd yna 'mond tri diwrnod rhyngddynt. Roedd Jacob yn 12 ar Ebrill y 4ydd. Roedd y ddau yn hoffi p锚l-droed ag actio. Maen nhw hyd yn oed yn byw ar yr un stryd!

Ar 么l i Jacob newid aeth i lawr grisiau i gael brecwast. Roedd ei uwd wedi mynd yn oer bellach felly rhoddodd o i Pero. Aeth trwy'r drws yn gobeithio geith o ddiwrnod da yn yr ysgol. Cyfarfododd Jacob Beca o flaen y safle bws.

"Ti'n edrych yn drist," meddai Beca. "Wyt ti wedi ffraeo hefo Gema eto?"
"Hi ddechreuodd!" atebodd Jacob.
"Be mae hi wedi ei wneud rwan," gofynnodd Beca yn flinedig.
"Rhoi bai arna fi, fel arfar," dywedodd Jacob.
"Pam nei di ddim tr茂o bod yn ffrindiau hefo hi?" meddai Beca.
"Mae hi yn amhosib!" atebodd Jacob yn flin.
"Wel dyma'r bws yn dod," meddai Beca. "Wyt ti wedi cofio dod a pres?"
"Dwi'n si诺r bod o yn fy mhoced. Ga' fi edrych," meddai Jacob.
"Brysia! Neu fydd rhaid i ni gerdded i'r ysgol," meddai Beca.
"Ymmm ... fedri di dalu drosta fi? ... mond am heddiw?" gofynnodd Jacob yn swil.
"Tyrd yn dy flaen wir!" galwodd Beca wrth gamu ar y bws.
Rhuthrodd Jacob ar ei h么l ag aeth y bws yn ei flaen i'r ysgol.

Ar 么l cyraedd yr ysgol aeth Beca a Jacob i gwrdd Zac, un o'u ffrindiau eraill nhw. Roedd Zac yn hogyn clyfar.

"Haia Zac," dywedodd Jacob yn ddigalon.
"Be sy'n bod hefo chdi?" gofynnodd Zac.
"Gema" atebodd Jacob, "a mam."
"Ohhh," ochneidiodd Zac yn araf. Ceisiodd Beca newid y testun.
"Da chi dal i ddod i parti fi pnawn ma?" dywedodd yn gyffrous.
"O, wrth gwrs," dywedodd Zac.
"Ella," dywedodd Jacob.
"Pam?" galwodd Beca a Zac hefo'i gilydd yn syn.
"Dwi ar y cyfle olaf gan Mam," atebodd Jacob. "Un peth gwirion arall a dwi ddim yn cael dod i'r parti."

Brrrr! Canodd y gloch ac aeth pawb i'w dosbarthiadau. Roedd Jacob yn dosbarth Mrs Lorans. Roedd hi yn athrawes reit gl锚n. Ond roedd hi yn gwisgo dillad fel clown. Heddiw roedd hi yn gwisgo crys piws polca dot hefo trwsus coch llachar. A 'sgidiau melyn a pinc.

Daeth cnoc ar y drws.

"Dewch i mewn," galwodd Mrs Lorans. Agorodd y drws yn araf ac yno roedd bachgen bach yn sefyll. Roedd o reit fyr gyda gwallt cyrliog melyn.

"Mae yna wasanaeth mewn 5 munud," dywedodd.
"Alla i ddim diodda gwrando ar Mr Jones yn mynd ymlaen ac ymlaen," cwynodd Beca ar y ffordd i'r Neuadd.
"Na fi," cytunodd Zac.
"Gwylia Jacob paid a sathru yn y pwll d诺r 'na rhag ofn i chdi...". Roedd yn rhy hwyr. Llithrodd Jacob ar y d诺r. Aeth yn crash i fewn i'r wal ac wrth wneud hyn pwysodd y larwm t芒n. Daeth y sprinclers d诺r ymlaen a rhedodd pawb allan o'r ysgol gan weiddi. Roedd pawb yn sefyll yn yr iard yn wlyb socian.

"Ydi pawb yma?" gofynnodd y prifathro. Yr eiliad yna, tynnodd injian d芒n i fyny tu allan i giatiau'r ysgol. Rhedodd tri dyn t芒n drwy'r dyrfa gyda dau beipen d诺r anferth.

"Pam wnes di hyna?" gofynnodd Beca gan grynu.
"Damwain oedd o,"atebodd Jacob.
"Does na ddim t芒n yn yr ysgol , mae rhywun wedi pwyso y botwm yn fwriadol," meddai'r dyn t芒n.

Aeth pawb yn ddistaw heblaw am un hogyn bach.

"Dwi'n gwybod pwy!"
"Pwy?" gofynnodd y Prifathro.
"Jacob," meddai yn ddistaw.
"Jacob Muriau Huws!" gwaeddodd y Prifathro yn wallgo. Camodd Jacob yn araf, araf ato.
"I ... I ... Ia Syr," meddai yn ofnus.
"Dora un rheswm da i mi pam dyla fi ddim ffonio dy fam a dweud wrthi yn union yr hyn yr wyt wedi gwneud," sgrechiodd y Prifathro yn fwy gwallgo byth.
"Wel syr....ym... damwain oedd o," esboniodd Jacob "ym ... llithrais ar bwll o dd诺r ag ... wel gwasgais y botwm ar ddamwain."
"Rwyt ti wedi achosi lot fawr o drwbwl i'r ysgol ag i'r orsaf d芒n," meddai y Prifathro, "ddyla chdi fynd adra a meddwl am beth wyt ti wedi ei wneud."
"Ond ..." ceisiodd Jacob siarad.
"Dim ond!" galwodd y Prifathro. "Wnai ffonio dy fam a dweud wrthi beth ddigwyddodd."

Pan gyrhaeddodd adref roedd ei fam yr un mor wallgo a'r Prifathro.

"Pam Jacob," gweiddodd ei fam yn flin, "pam wnes di bwyso'r botwm 'na? Damwain neu beidio gest di rybudd bora ma yn do?" meddai mam, "felly gei di anghofio am fynd i barti Beca."

Rhedodd Jacob i fyny'r grisiau unwaith eto gan gau ei ddrws hefo clec.

Roedd Jacob am fynd i'r parti, beth bynnag oedd ei fam yn ddweud. Stwffiodd glustogau a tegannau o dan ei ddillad gwely i edrych fel petai o yn cysgu. Yna gan ddefnyddio blancedi, tyweli a cwiltiau creodd rhyw fath o ystol. Rhoddodd hwn trwy'r ffenestr a dringodd allan. Ond hanner ffordd i lawr rhwygodd un o'r blancedi a disgynnodd Jacob yn fflat ar ei ben 么l ar y gwair.

"Awch," sibrydodd Jacob o dan ei wynt, gan godi yn 么l ar ei draed.

Pan gyrhaeddodd t欧 Beca aeth i chwilio am Zac a Beca. Roedden nhw yn neidio ar y gastell fownsio enfawr yng ngwaelod yr ardd.

"Jacob!" Galwodd Zac. "Dwedes di bod chdi ddim yn dod."
"Wel ... ym newidiodd mam ei meddwl," atebodd Jacob yn euog.
"Amser bwyta," galwodd tad Beca o'r drws cefn. Meddyliodd Jacob fod well iddo fynd adref.
"Lle ti'n mynd?" gofynnodd Beca yn syn.
"Dwi yn gorfod... ym ... dwi'n goro cwrdd 芒 Nain a Taid yn dre," dywedodd Jacob.
"Wel, welai di fory," meddai Beca.

Rhedodd Jacob yn 么l i fyny'r l么n. Cripiodd i fewn trwy'r drws cefn ac i fyny'r grisiau i'w lofft. Gwthiodd y blancedi a'r teganau oddi ar ei wely ag yr eiliad yno daeth ei fam i mewn trwy'r drws.

"Jacob," dywedodd. "Mae'n ddrwg gen i am gyne. Dwi yn meddwl bod chdi wedi dysgu dy wers. Mae yna hanner awr ar 么l o barti Beca. Wyt ti eisiau mynd?"
"Dim diolch, dwi wedi cael digon o barti am heddiw," atebodd Jacob gyda gw锚n ar ei wyneb.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy