主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Tocyn Loteri
gan Meinir F么n Hughes o Garmel.
"Diwrnod diflas a glawog arall," ochneidiodd Mr Davies Jones wrth ddarllen ei bapur. Hen ddyn diflas oedd Mr Davies Jones, oherwydd hynny roedd pawb yn ei alw yn 'Mr DJ. Diflas.' Roedd o bob amser yn gwylio'r teledu a bwyta pop-corn ac yn yfed diod pop a doedd o BYTH yn gwneud dim byd ar ei ben ei hun. Roedd o yn dweud wrth ei wraig am wneud bob dim yn ei le!

Un dydd Sadwrn arferol, diflas, anniddorol arall, penderfynodd Mr Davies Jones fynd i'r dref i brynu ei docyn loteri oherwydd bod ei wraig wedi mynd i siopio i Tesco. Roedd pawb wedi synnu ei weld o yn mynd ar ei feic tua'r dref oherwydd fel arfer, yn t欧 yn darllen ei bapur y byddai bob wythnos. Ond y dydd Sadwrn yma, roedd o am fentro i wneud rhywbeth gwahanol ...

Mentrodd i'r siop yn nerfus i brynu ei docyn. Rhoddodd arian i'r siopwraig a gwthiodd y darn papur bach i waelod ei boced. Yna trodd ar ei sawdl a chychwyn yn 么l ar ei feic ...

Ar 么l cyrraedd adref o'r dref eisteddodd Mr Davies Jones yn ei gadair o flaen y teledu. Roedd o yn gafael yn dynn yn y tocyn loteri. O'r diwedd ymddangosodd y rhaglen deledu ac yna daeth y rhifau ar y sgr卯n, y rhifau oedd 6, 29, 13, 11, 42, 18. Dyna'r UNION rifau yr oedd o wedi eu dewis! Eisteddodd Mr Davies Jones yn hollol lonydd am o leiaf pum munud. Pan ddaeth ei wraig a'i blant i fewn, gofynnodd Sam, ei fab hynaf:

"Dad, beth sy'n bod?"

"Dwi wedi ennill y loteri, dwi wedi ennill, HWRE, HWRE."

Neidiodd ar ei draed, rhedodd mor gyflym ag y gallai ar hyd y stryd nes oedd pawb yn y pentref yn ei glywed. Am y tro cyntaf ers tro, gwelodd pawb Mr Davies Jones yn gwenu!


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy