主播大秀

Datblygiad y Drefn Wladwriaethol Gymreig

Clawdd Offa

23 Mawrth 2009

Creu ffiniau Cymru

Rhwng OC 650 a 750, cadarnhaodd y Saeson eu gafael ar y darnau hynny o Brydain a ystyrir fel rhanbarth yr iseldir. Hyd yn oed yn yr Alban, daeth trwch y teyrnasoedd Brythoneg neu Gymreig o dan eu hawdurdod. Ond cyn i hynny ddigwydd, cynhyrchodd y teyrnasoedd hynny'r cynharaf i oroesi o waith beirdd Cymraeg, Y Gododdin gan Aneirin yn fwyaf arbennig. Dioddefodd Powys yn fawr o'r ymgyrchoedd Seisnig, a cheir yng Nghanu Heledd goffadwriaeth wych o helbulon y deyrnas. Erbyn iddynt gyrraedd mynyddoedd Cymru, roedd ymgyrchoedd y Saeson wedi colli'u hawch, ffaith a gydnabuwyd gan Offa, Brenin Mercia. Ceir tystiolaeth o tua'r flwyddyn 780 iddo orchymyn codi clawdd yn ymestyn o f么r i f么r. Hwnnw oedd Clawdd Offa, yr adeiladwaith mwyaf rhyfeddol i'w godi ym Mhrydain yn ystod ail hanner y mileniwm Cristnogol cyntaf. I raddau helaeth, ei glawdd a bennodd ffin Cymru.

Yr anogaeth i uno

Dichon i fodolaeth Clawdd Offa gryfhau ymwybyddiaeth y Cymry o'u hunaniaeth. O fewn cenhedlaeth i'w godi daeth trwch y wlad o dan awdurdod un rheolwr - Rhodri, Brenin Gwynedd. Erbyn ei farw yn 877, roedd Powys a Seisyllwg (i bob pwrpas yr hyn a fyddai'n siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin), yn ogystal 芒 Gwynedd, yn atebol i'w rym. Wedi'i farwolaeth, chwalodd yr undod rhwng Gwynedd/Powys a Seisyllwg, ond fe'i hail-gr毛wyd gan ei 诺yr, Hywel (m. 950). Enillodd Hywel hefyd awdurdod dros Ddyfed a Brycheiniog, a daethpwyd i ystyried bod Seisyllwg, Dyfed a Brycheiniog yn ffurfio tiriogaeth Deheubarth. Cyrhaeddodd yr uno ei uchafbwynt o dan un o ddisgynyddion Hywel - Gruffudd ap Llywelyn - a lwyddodd yn 1057 i ddod 芒 Chymru gyfan o dan ei awdurdod.

Her y Llychlynwyr

Cafodd Rhodri'r teitl Rhodri Mawr yn bennaf oherwydd ei fuddugoliaeth dros y Llychlynwyr, neu'r Northmyn, yn 856. Dechreuodd y Northmyn ymosod ar arfordiroedd Prydain ac Iwerddon yn y 780au. Er mai gwreiddiau Llychlynnaidd sydd gan enwau lleoedd fel Anglesey, Swansea a Fishguard, prin yw'r dystiolaeth bod y Northmyn wedi ymsefydlu yng Nghymru. Cr毛wyd teyrnasoedd ganddynt yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon, a rhwng y 780au a 1100, bu ganddynt r么l ganolog yng ngwleidyddiaeth y pedair gwlad.

Cyfraith Cymru

Fel ei daid, Rhodri Mawr, cafodd Hywel epithed hefyd. Ef oedd Hywel Dda, a hynny'n bennaf, mae'n debyg, oherwydd traddodiad sy'n ei gysylltu 芒 chyfundrefnu Cyfraith Cymru. Yn 么l llawysgrifau diweddarach, digwyddodd hynny yn Hendy-gwyn tua'r flwyddyn 940. Cyfraith genhedlig, nid cyfraith y teyrn, oedd Cyfraith Cymru, gyda'i phwyslais ar gymodi rhwng teuluoedd yn hytrach na thrwy gosbi er mwyn cadw trefn. Ceir yn y llyfrau cyfraith fanylion hudolus yngl欧n 芒 bywyd yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol cynnar, ac, am ganrifoedd lawer, byw o dan Gyfraith Hywel fyddai un o'r prif ddiffiniadau o'r cyflwr o fod yn Gymro.

Y berthynas 芒 Lloegr

Chwalwyd teyrnasoedd Lloegr gan y Northmyn. Goroesodd rhimyn o Wessex, ac, yn ystod teyrnasiad y Brenin Alfred (m. 899), ceir dechreuadau ymgyrch i ddod 芒'r cwbl o Loegr o dan lywodraeth brenhinoedd Wessex. Bu farw Rhodri Mawr mewn brwydr yn erbyn y Saeson. Dilynodd Hywel Dda lwybr mwy cymodlon; cydnabyddodd penarglwyddiaeth Brenin Wessex a mynychodd ei lys. Bu Gruffudd ap Llywelyn yn fwy ymosodol. Fel rhan o'i ymgyrch i uno Cymru meddiannodd diroedd a fu gynt ym meddiant y Cymry i'r dwyrain o Glawdd Offa. Ymosododd Harold, Iarll Wessex, ar Gymru yn 1063, a chipiwyd a lladdwyd Gruffudd. Dair blynedd yn ddiweddarach, daeth Harold yn Frenin Lloegr, ond byrhoedlog fu ei deyrnasiad, gan i luoedd William, Dug Normandi, ei ladd naw mis wedi iddo gael ei ddyrchafu'n frenin.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.