主播大秀

Yr Eglwys Gynnar yng Nghymru

Lindisfarne

23 Mawrth 2009

Natur yr Eglwys gynnar

Am bum can mlynedd ar 么l cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, roedd gan Gristnogaeth Cymru ei nodweddion arbennig ei hun. Roedd y nodweddion hynny'n gyffredin i weddill y gwledydd a oedd yn Geltaidd o ran iaith - Iwerddon, Cernyw, Llydaw, Ynys Manaw a'r rhan fwyaf o'r Alban - sail y gred, gyfeiliornus braidd, bod y fath beth yn bod ag 'Eglwys Geltaidd'. Y drefn yn Eglwys Rhufain oedd esgobion yn eu cadeirlannau trefol, pob un yn ben ar esgobaeth bendant ei ffiniau ac ar hierarchaeth o swyddogion. Doedd gan y gwledydd Celtaidd eu hiaith odid ddim canolfannau trefol; roedd mwy o barch tuag yr abad yn ei fynachlog (ei glas) nag i'r esgob yn ei gadeirlan, ac absennol bron oedd y fiwrocratiaeth a nodweddai'r drefn Rufeinig. Yn 么l yr hanesydd Arnold Toynbee, y traddodiad crefyddol Celtaidd oedd prif nodwedd yr hyn a alwyd ganddo yn Wareiddiad Pellafoedd Gorllewinol Ewrop.

A oedd yr Eglwysi Celtaidd yn 'Brotestannaidd'?

Pan gefnodd y Protestaniaid ar Eglwys Rufain yn yr unfed ganrif ar bymtheg, dechreuasant amgyffred am yr eglwysi cynnar yn y gwledydd Celtaidd eu hiaith fel enghreifftiau o Brotestaniaeth, yn rhydd o feiau eglwys Rhufain. Cyfeiliorni yr oeddynt. Roedd yr eglwysi hynny wedi etifeddu prif lif y ffydd Gristnogol, yn arbennig yr egwyddor mai'r offeren yw canolbwynt addoliad. Gwir nad ydoedd grym y Pab yn amlwg yn eu plith, ond i bellter daearyddol ac i'r ffaith nad oedd y syniadau am bwerau sofran y Pab wedi'u llawn datblygu, y dylid priodoli hynny.

Tarddiad Cristnogaeth gynnar Cymru

Y mae tarddiad Cristnogaeth gynnar Cymru yn bwnc o gryn ddadlau. A oedd yn ddatblygiad o'r Gristnogaeth a blannwyd ym Mhrydain yn nyddiau'r Ymerodraeth Rufeinig, neu a oes rhaid edrych i gyfeiriadau eraill? Y duedd bresennol yw credu bod Cristnogaeth wedi goroesi'r Ymerodraeth yn ne-ddwyrain Cymru, yr unig ran o orllewin Ewrop na chafodd ei goresgyn gan bobl o'r tu hwnt i ffiniau'r Ymerodraeth. Dyna gartref Dyfrig, y cyntaf o 'seintiau' Cymru. Roedd ei bencadlys yn Henllan (Hentland on Wye), sydd bellach yn Swydd Henffordd. Ni ellir pennu dyddiadau pendant yn y cyfnod hwn, ond mae'n debyg i Ddyfrig fyw rhwng 425 a 505.

Y Fynachlog yn Llanilltud Fawr

Olynydd Dyfrig fel y ffigwr amlycaf ymhlith Cristnogion Cymru oedd Illtud, sylfaenydd mynachlog Llanilltud Fawr. Gellir cyrraedd Llanilltud o'r m么r, ac mae ei draddodiadau yn awgrymu dylanwad pobl oedd yn teithio moroedd y gorllewin. Hwy a gyflwynodd mynachaeth, y syniad mai'r ffordd orau o gyrraedd stad o sancteiddrwydd yw trwy ymwadu 芒'r byd a byw mewn cymuned sydd yn gwneud gweddi yn ganolbwynt bywyd. Roedd y fynachlog yn Llanilltud yn pwysleisio dysg yn ogystal 芒 defosiwn. Hi oedd canolbwynt Cristnogaeth y gwledydd Celtaidd eu hiaith. Hwyliodd Samson, sefydlydd mynachaeth Llydaw, o Lanilltud tua 540. Un o'i gyd-fyfyrwyr oedd Paul Aurelian, a chwaraeodd ran amlwg ym mynachaeth Cernyw, ac at Illtud a'i olynwyr y byddai Gwyddelod yn troi am arweiniad ar faterion yn ymwneud 芒 defod a disgyblaeth.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.