主播大秀

Castell Nedd a Dulais

top
Gwawr dros Gastell Nedd (llun: Mike Davies)

Hanes cymoedd Nedd a Dulais sy'n gorwedd i'r dwyrain o Gwm Tawe ac yn ymestyn i lawr i gyfeiriad Abertawe.

Castell Nedd

Castell
Y Castell

Prif dref yr ardal yw Castell Nedd sydd wedi ei hadeiladu ar safle caer Rufeinig ar lannau'r afon Nedd. Dyma dref a dyfodd o gwmpas yr hen gastell Normanaidd. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol cynyddodd o ran pwysigrwydd a daeth yn fan cyfarfod sawl diwydiant.

Yn ddiweddarach bu datblygiadau diwydiannol yn yr ardaloedd cyfagos ac o ganlyniad bu cynnydd pellach ym mhwysigrwydd Castell-nedd fel canolfan ar gyfer cludo glo a nwyddau eraill ar draws y byd.

Saif y castell yng nghanol y dref. Dyma un o'r cestyll bychain a adeiladwyd gan y Normaniaid ym Morgannwg. Dewisodd y Normaniaid y lleoliad am ei fod yn safle strategol dda er mwyn gwarchod yr afon oedd yn croesi i diriogaeth bwysig.

Adeiladwyd y castell gwreiddiol yma yn y 12fed ganrif gan Iarll Caerloyw. Ymosododd y Cymry arno droeon a chafodd ei ailadeiladu yn y 13eg ganrif, o bosib wedi iddo gael ei ddinistrio gan Llywelyn ap Iorwerth ym 1231.

Abaty Nedd

Abaty Nedd
Abaty Nedd

Ond ymosodwyd ar yr adeilad eto gan elynion arglwydd Morgannwg oedd yn amhoblogaidd iawn ar y pryd. Felly ailadeiladwyd y castell eto yn y 14eg ganrif a dyma pryd yr adeiladwyd y porth hardd y mae rhan ohono i'w weld ar y safle heddiw.

Nodwedd hanesyddol arall yng Nghastell-nedd yw'r abaty. Sefydlwyd yr abaty ym 1130 gan Richard Granville i gyd-fynd ag abaty Savigny yn Normandi. Roedd hwn yn abaty cyfoethog gydag ystadau mawr ym Morgannwg, Dyfnaint a Gwlad yr Haf.

O ganlyniad i'r ymdrechion i ehangu'r stadau ym Morgannwg datblygodd dadl chwerw rhwng yr abaty ag abaty Margam gerllaw. Cynyddodd y gymuned o fewn Abaty Castell Nedd yn sylweddol yn y 12fed ganrif ac felly fe ehangwyd yr adeilad yn y 13eg a'r 14eg ganrif.

Am bedair canrif roedd Abaty Nedd yn un o'r canolfannau diwylliannol a chrefyddol pwysicaf yng Nghymru. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd yn yr 16eg ganrif roedd yr abaty yn un o'r ychydig rai a gafodd ganiat芒d arbennig i agor am ddwy flynedd yn ychwanegol a hynny drwy dalu dirwy.

Cofio Diwydiant

Glofa Cwm Dulais
Glofa Cwm Dulais

Diddymwyd yr abaty wedyn ym 1539 a chafodd ei roi yn nwylo Syr Richard Williams. Mae'n debyg mai ef neu ei fab ar ei 么l fu'n gyfrifol am droi rhan o'r abaty yn d欧 mawr. Fe fu'r rhan hwn yn d欧 hyd ddiwedd y 17eg ganrif. Wedi hynny cafodd rhan o'r abaty ei droi yn weithdy toddi copr.

Dechreuwyd clirio'r olion diwydiannol o'r safle yn yr 20fed ganrif. Aelodau Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell Nedd fu'n gyfrifol am hyn ac fe aethant ati i gludo tunelli o ddeunydd diwydiannol oddi yma. Er bod yr abaty yn gorwedd ger ardal ddiwydiannol felly mae ei leoliad ar lannau Camlas Tennant yn ei wneud yn safle tawel a heddychlon.

Atyniad arall sy'n denu ymwelwyr i'r ardal yw Amgueddfa Glofa Cefn Coed. Mae'r amgueddfa wedi ei lleoli yn adeiladau gwreiddiol y lofa yng Nghwm Dulais. Yma mae ymwelwyr yn cael cyfle i weld sut brofiad oedd gweithio o dan y ddaear mewn amgylchiadau anodd. Hefyd mae yma injan st锚m sydd bellach yn cael ei yrru gan drydan.

Camlesi

Agorwyd glofa Cefn Coed yn ystod y 1920au. Ym 1945 roedd 908 o ddynion yn cael eu cyflogi yma. Pwer st锚m oedd yn cael ei ddefnyddio i weithio'r pwll. Roedd y st锚m yn cael ei greu gan nwy. Yn 1968 daeth y cynhyrchu i ben yma ond cafodd y shafftiau eu gadael ar agor er mwyn rhoi mynediad ac awyr i lofa newydd Blaenant oedd ar yr un safle.

Canlyniad y datblygiadau diwydiannol yng Nghastell Nedd fu adeiladu dwy gamlas yn y dref. Fe'u hadeiladwyd er mwyn gwasanaethu'r pyllau glo a gweithfeydd haearn yr ardal. Adeiladwyd Camlas Castell Nedd ym 1791 ac roedd yn llifo am 10 milltir o waelod tref Castell Nedd i Abernant yng Nglyn Nedd. Yna ym 1798 ehangwyd y gamlas tua'r de i Lansawel. Yn raddol dirywio wnaeth porthladd Castell Nedd a chynyddodd pwysigrwydd Llansawel.

Yn 1816 penderfynodd George Tennant, g诺r o'r ardal, wella ac ehangu camlas nad oedd yn cael yn ei defnyddio yn yr ardal er mwyn cysylltu afon Nedd yn Llansawel 芒'r dociau newydd yn Abertawe.

Saith mlynedd yn ddiweddarach roedd wedi gorffen adeiladu Camlas Tennant a hynny er gwaetha problemau peirianyddol a gwrthwynebiad nifer o dirfeddianwyr yr ardal. Roedd y gamlas newydd yn cysylltu camlas Castell Nedd yn Aberdulais 芒'r dociau yn Abertawe.

Er mwyn cysylltu'r ddwy gamlas roedd angen traphont dd诺r er mwyn cludo camlas Tennant dros afon Nedd. William Jirkhouse oedd y g诺r aeth ati i adeiladu'r draphont dd诺r. Roedd hwn yn derbyn dwr o afon Nedd ac afon Dulais. Daeth gweithgarwch y camlesi i ben yn ystod y 1930au a heddiw mae'r draphont dd诺r yn wag.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.