主播大秀

Amelia Earhart a Phorth Tywyn

top
Amelia Earhart (hawlfraint: Getty Images)

Stori un o enwogion mwya Hanes y 20fed Ganrif a'i hymweliad annisgwyl gyda thref fechan Porth Tywyn.

04 Gorffennaf 2012

Wedi hanner dydd ar Fehefin 18, 1928, cafodd trigolion tref fechan Porth Tywyn ger Llanelli sioc rhyfeddol wrth iddynt glywed injan awyren yn rhuo uwch eu pennau. Gan syllu i'r wybren, fe welon nhw awyren fechan oren yn teithio tuag at yr arfordir o ardal Dinbych y Pysgod.

Enw'r awyren enwog hon oedd 'Friendship' a'r peilot enwog ynddi oedd . Am 12.40pm glaniodd hi ar y dyfroedd ym Mhorth Tywyn. Dyma'r fenyw gyntaf i hedfan ar draws F么r yr Iwerydd ac roedd hi'n fyd-enwog yn ei dydd.

Nid dim ond Amelia oedd ar yr awyren. Roedd hi hefyd yng nghwmni'r peilot, Wilmer Stulz a'r Peiriannydd, Lou Gordon. Yn wir, roedd Amelia yn 'Is Beilot' ar y daith hon -ond cymaint oedd y nofelti o fenyw yn ran o sialens yr Iwerydd, mae Stulz a Gordon druan wedi eu hepgor o'r hanes gan lawer.

Wedi glanio, aeth y tri i'r lan gyda thorf o drigolion lleol ac o Abertawe a Chaerdydd yn aros amdanynt. Erbyn diwedd y dydd roedd yna garfan sylweddol o newyddiadurwyr a ffotograffwyr yn ymladd i gael gair gyda'r fenyw enwog.

Roedd glanio ym Mhorth Tywyn yn garreg filltir sylweddol gan fod y 'Friendship' ond wedi gadael Newfoundland 20 awr ynghynt. Dywedodd Bill Stultz wrth bapur y Llanelli Mercury:

"Roedd niwl sylweddol am ran fwyaf o'r siwrne ac roedd yna law hefyd. Rhan fwyaf o'r daith roeddwn yn hedfan yn ddall o achos y tywydd garw. Doedd dim syniad gyda ni lle'r oedden ni, gan nad oeddem wedi gweld yr Iwerddon. Fe lanion ni yma yn Ne Cymru gan ein bod yn brin o danwydd."

Roedd y trigolion lleol a'r wasg wedi dotio ar yr anturiaethwyr ac roedd y llinellau teleffon wedi eu blocio gyda'r holl newyddiadurwyr a heidiodd i'r dref o Lundain yn cael trafferth cysylltu gyda'u papurau.

Bwriad Amelia a'r criw oedd i adael Porth Tywyn y noson honno gan barhau ar eu taith i Southampton ond fe orfododd y tywydd garw iddynt aros dros nos yn Ngwesty'r Ashburnham.

Ymhlith y dorf yn eu croesawu oedd y peilot Syr Arthur Whitten Brown, oedd yn byw ar y pryd yn Abertawe. Fe oedd y dyn cyntaf i hedfan dros yr Iwerdydd gyda Syr John Alcock:

"Pan wnes i gyrraedd, roedd y dorf yn enfawr a doedd dim modd i fi gyrraedd yr awyren. Fe wnes i chwilio amdanynt ym Mhorth Tywyn am dipyn ond methais ddod o hyd iddynt. Dwi'n gwybod cymaint o gamp oedd hyn a byddwn wedi hoffi eu cymeradwyo."

Un person wnaeth lwyddo i gael gair gydag Amelia Earhart oedd newyddiadurwr o'r Llanelli Mercury. Llwyddodd i gyhoeddi ei gyfweliad cyn i'r tri ymadael y bore canlynol.

Dywedodd Amelia wrtho mai dim ond orennau a chwech tabled llaeth roedd hi wedi eu bwyta ar y siwrne ac roedd ganddi sylwadau positif am yr ardal hefyd:

"Mae'ch gwlad chi mor braf," dywedodd. "Mae'r llonyddwch a'r distawrwydd yn annog teimlad arbennig wedi i ni dreulio oriau yn gwthio'n ffordd trwy'r cymylau trwchus a'r niwl. Roedd e fel petai ein bod ni ar ein pennau ein hunain yn y byd. I feddwl fy mod i yn yr Amerig 48 awr yn 么l a nawr dwi yng Nghymru!"

Daeth diwedd trist i Amelia Earhart ac mae ei hanes yn un o ddirgelion mwyaf y 20fed Ganrif. Yn 1937, a hithau'n agosau at ddathlu ei phenblwydd yn ddeugain, penderfynodd mai hi fyddai'r fenyw gyntaf i hedfan o gwmpas y byd. Ond wedi mis o hedfan, ar Orffennaf yr 2il, a gyda dim ond 7,000 o filltiroedd i fynd, daeth trychineb wrth i Amelia a'i chyd beilot, Fred Noonan, golli rheolaeth ar yr awyren. Does neb yn gwybod hyd heddiw beth yn union ddigwyddodd iddi; collwyd y cysylltiad radio wrth iddi hedfan ger Ynys Howland yn y Mor Tawel.

75 mlynedd yn ddiweddarach mae yna griw yn mynd i chwilio am ei hawyren a dywedir bod yna ddarganfyddiadau o geriach dynes o gyfnod y 1930au ar ynys yng Ngweriniaeth Kiribati, lle credir bod awyren Earhart, y Lockheed Electra, yn gorffwys o dan y dyfroedd. Credir ei bod hi wedi byw am rai wythnosau neu misoedd ar yr ynys yn 1937. Y gobaith yw bydd modd datrys un o ddirgelion mwyaf hanes modern o'r diwedd a darganfod beth yn union ddigwyddodd i 'seren yr awyr'.

Cyfieithiad yw'r erthygl yma o flog gan Phil Carradice ar hafan Hanes 主播大秀 Wales.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.