主播大秀

Hanes Frongoch

top
Gweithfeydd wisgi Frongoch

O wersyll carcharorion i weithfeydd wisgi, dyma Iwan Bryn Williams i ddweud wrthym am hanes hir Frongoch.

Mae tir Frongoch yn rhan o St芒d Rhiwlas. Cafodd sgweier Rhiwlas yn y 19eg ganrif, RJ Lloyd Price, sawl syniad busnes, gan gynnwys creu wisgi Cymreig. Os oedd yr Albanwyr yn gallu cynhyrchu wisgi o dd诺r eu ffynhonnau, beth am i Gymro wneud yr un peth?

Mi fentrodd, ac adeiladodd weithdy wisgi yn Frongoch ac fe werthodd peth ohono. Ond fel llawer iawn o gynlluniau RJ, mynd yn ddim ddaru o yn y diwedd.

Yna, defnyddiwyd y safle fel gwersyll. Roedd yn wersyll carchar i'r Gwyddelod yn 1916 ac maen nhw'n dweud fod Michael Collins wedi aros yno gan fod ambell i un yn y Bala wedi s么n amdano. Dywedodd Bob Roberts Tai'r Felin, y canwr baledi enwog iawn, ei fod yn cofio Collins yn dda.

Mae'r stori hefyd yn dweud eu bod wedi cychwyn yr IRA yno - mae'n ddigon posib eu bod wedi siarad a chynllunio wrth fyw gyda'i gilydd ac mae digon o haneswyr wedi trafod a chofnodi'r peth.

Ond cyn ac ar 么l i'r Gwyddelod fod yna, roedd yn wersyll i'r Almaenwyr. Rydym ni yng Nghanolfan y Plasau wedi ffeindio casgliad o ddarluniau yn y Llyfrgell Genedlaethol o'r Almaenwyr yn y carchar. Fe fuasech yn meddwl mai lle diflas oedd o, ond mae'r lluniau yn rhoi'r argraff eu bod yn cael dipyn bach o hwyl ymysg ei gilydd wrth gadw eu traddodiadau yn fyw.

Roeddent yn cynnal concert party ar y llwyfan gyda phob math o offerynnau ac yn gwneud gymnasteg - mae'n ddarlun rhyfeddol o fywyd tu mewn i garchar dechrau'r 19eg ganrif.

Mae rhai o'r carcharorion yn forwyr gan eu bod yn gwisgo capiau gydag enwau'r llongau arnynt.

Erbyn hyn, ysgol sydd ar safle Frongoch. Nid yn yr un adeilad wrth gwrs, ond mae yna garreg wedi ei osod mewn culfan ar ochr y ffordd fawr i ddweud mai dros y gwrych ar y tir yna oedd y carchar.

Iwan Bryn Williams


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.