主播大秀

Hanes Ardal y Gadlas

top
Coeden Ywen, Llangernyw

Dyma gip ar hanes a chwedlau'r ardal sy'n cael ei gwasanaethu gan Y Gadlas, y papur bro sy'n ymestyn dros y ffin rhwng Llanrwst a phentrefi Sir Ddinbych.

Dechreuwn yn y Gorllewin gyda phentrefi Llangernyw, Pandy Tudur a Gwytherin. Mae'r rhain wedi'u lleoli ym Mro Cernyw, enw a grewyd yn 1969 gydag adeiladu'r ysgol newydd yn Llangernyw.

Yn yr ardal hon mae mynydd Moel Pentre Wern. Yn ystod y 19eg ganrif roedd dynion yn ymladd ceiliogod ar ben y mynydd. Mae olion y talwrn yma hyd heddiw.

Yn ystod yr un cyfnod adeiladwyd Plas Hafodunnos ger Llangernyw gan y pensaer Syr George Gilbert Scott. Dywedir fod y plas wedi ei adeiladu ar safle hen fynachlog. Mae s么n bod ysbrydion yn y plas hwn heddiw.

Yn Llangernyw hefyd mae coeden ywen arbennig sydd tua phum mil o flynyddoedd oed. Mae i'w gweld ym mynwent eglwys Sant Digain a dyma'r goeden ywen hynaf yn Ewrop. Ond yn fwy na hynny mae'n debyg mai'r goeden hon yw'r pleth byw hynaf yng Nghymru a Lloegr. Gosodwyd carreg yma yn 1995 i'w choff谩u.

Syr Henry JonesYng nghanol y pentref mae amgueddfa Syr Henry Jones. Mae'r amgueddfa yn ei hen gartref. Prynwyd y bwthyn a'i droi'n amgueddfa yn 1934 ac fe'i adnewyddwyd yn 1997. Roedd Syr Henry Jones yn athronydd enwog. Llwyddodd i ddringo o fainc y crydd i gadair Athroniaeth ym Mhrifysgol Glasgow.

I'r de o Langernyw, ar lan afon Derfyn, mae pentref Pandy Tudur. Mae'n debyg mae ei leoliad agos i Langernyw sydd i gyfrif am y ffaith yr arferid galw'r pentref yn Blaenau Llangernyw. Mae sawl enw wedi ei roi ar y pentref dros y blynyddoedd.

Enw arall yw Llanddewi, ar 么l yr eglwys sydd yno. Ond enw rhyfeddach fyth yw Pandy Budr. Rhoddwyd yr enw hwnnw ar y pentref gan yr arferid golchi a lliwio gwl芒n mewn adeilad o'r enw Pandy yma. Roedd y d诺r yn llifo i afon Derfyn a'i wneud yn fudr.

Cawr mawr Gwytherin

Afon Cledwen sy'n llifo drwy bentref Gwytherin ac mae i'r afon honno stori arbennig hefyd. Ar lan yr afon mae carreg fawr a elwir yn Carreg y Cawr. Yn 么l y chwedl fe gerddodd cawr ar lan yr afon un diwrnod a theimlo rhywbeth yn ei esgid. Edrychodd ynddi a gweld carreg fechan. Tynnodd hi o'i esgid a'i thaflu i'r afon. A hon yw'r garreg a welir yma heddiw.

Chwedl arall sy'n gysylltiedig 芒 phentref Gwytherin yw chwedl Gwenffrewi gan fod eglwys y pentref wedi ei henwi ar ei h么l. Yn 么l y chwedl fe dorrodd y Tywysog Caradog ben Gwenffrewi i ffwrdd am iddi wrthod ei briodi. Rhoddodd Beuno ei phen yn 么l a throdd Gwenffrewi'n leian. Daeth i Wytherin i helpu'r Santes Eleri i gynorthwyo'r tlodion ac yn ddiweddarach daeth yn Abades. Bu farw yma ac fe'i claddwyd ym mynwent yr eglwys.

Gwraig arall o'r ardal sy'n bwysig yn hanes y fro yw Catrin o Ferain. Gelwir hi'n 'Fam Cymru' ac roedd yn ddisgynnydd i Harri'r IV. Priododd bedair gwaith a phob un o'i gw欧r ymhlith dynion cyfoethocaf a mwyaf dylanwadol y cyfnod. Un o'r rhain oedd Richard Clough, bancer marchnadol ac adeiladydd. Ef oedd cynrychiolydd Elisabeth 1 yn Antwertp.

Manylyn o'r llun Catrin o Ferain 'Mam Cymru'; (1534/5-1591) gan Adriaen van Cronenburgh 漏 Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol CymruNid yw Berain ymhell o Lannefydd. Dyma lle y ganwyd Twm o'r Nant, anterliwtiwr enwog oedd am ddiwygio'r gymdeithas. Yma heddiw mae 'Llaeth y Llan', llaethdy'r pentref sy'n cynhyrchu iogwrt ers 1980. Mae'r pentref wedi ei enwi ar 么l Nefydd, sant yn y cyfnod Celtaidd.

Mae Llanfair Talhaiarn wedi ei enwi ar 么l sant hefyd sef Talhaearn. O'r pentref hwn hefyd y deuai'r bardd Talhaiarn (John Jones). Fe'i ganed yn Nhafarn y Delyn yn y pentref yn 1810. Yn ei gyfnod roedd Talhaiarn yn enwog trwy Gymru fel bardd ac arweinydd llwyfan yn y prif eisteddfodau. Dywedir mai ef oedd arloeswr y delyneg Gymraeg.

Fe aeth i weithio gyda chwmni o benseiri eglwysig yn Llundain. Dychwelodd i Gymru yn ddiweddarach ond dirywiodd ei iechyd ac fe'i saethodd ei hun yn Nhafarn y Delyn. Mae wedi ei gladdu o dan yr hen ywen ym mynwent y pentref.

Theatr Garthewin

Mae i Lanfair Talhaiarn arwyddoc芒d arall mewn llenyddiaeth Gymraeg gan mai ger y pentref hwn yr oedd Theatr Garthewin. Rhwng 1937 a 1969, dyma un o theatrau bychain mwyaf dylanwadol Cymru.

Fe'i crewyd yn 1937 pan drodd ROF Wynne o Blas Garthewin ysgubor ar ei yst芒d yn theatr i roi cartref i Theatr Genedlaethol Cymru. Perfformiwyd nifer o ddram芒u Saunders Lewis ynddi. Ysgrifennodd rai o'i ddram芒u'n arbennig ar gyfer Theatr Garthewin ac yma y perfformiwyd Siwan am y tro cyntaf gyda John Gwilym Jones yn cyfarwyddo.

Yma y llwyfanwyd nifer o ddram芒u Huw Lloyd Edwards am y tro cyntaf hefyd. Caewyd y theatr yng ngwanwyn 1969.

Mae Llansannan yn bentref llenyddol yn ogystal. Yma y ganwyd Gwilym Hiraethog, golygydd a llenor a ddaeth yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn arweinydd radicalaidd dylanwadol.

Yng nghanol y pentref saif cofgolofn i'w goff谩u ef ac enwogion lleol eraill gan gynnwys William Salesbury a Tudur Aled. Dyma'r ddelw o'r forwyn Gymreig a gynlluniwyd gan y cerflunydd enwog Syr Goscombe John. Heddiw cysylltir Orig Williams, neu El Bandito fel y'i gelwir ym myd reslo, a'i ferch Tara Bethan 芒 phentref Llansannan.


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.