主播大秀

Hanes Ardal yr Wyddfa

top
Eryri

Mae'r ardal hon yn gartref i fynydd uchaf Cymru a Lloegr a hen chwareli llechi Eryri. Arwel Jones o Benisarwaun sy'n ein harwain o amgylch bro papur Eco'r Wyddfa.

Mae hanes hir, cythryblus, ac eto rhamantus i'r fro yma sy'n ymestyn o Landdeiniolen i'r Waunfawr. Cyfrifid Dyffryn Peris yn un o'r dyffrynnoedd rhyfeddol bwysig rheiny oedd yn ddihangfa i mewn ac allan o Eryri. Dyma'r tir a chwydwyd o groth y ddaear filiynau o flynyddoedd yn 么l yn llosg fynyddoedd talgryf a geirwon cyn cael eu llunio a'u cerfio gan ddau Oes I芒, ac yna gan wyntoedd cryfion di drugaredd a glaw di-dor oesau meithion.

Yng nghesail y caerau oesol hyn y sefydlwyd sawl cwmwd a phentref dros y canrifoedd. Mae enwau'r mynyddoedd sy'n amgylchynu Dyffryn Peris yn fiwsig o hyd i'r glust - Cefn Du, Y Clegir, Dinas, Caerhyd, Moel Eilio, Cefn Drum, Craig Cwmdu, Foel Goch, Bwlch Gwyn, Bwlch Cwmcesig, Cwm Dwythwch, Foel Gron, Maesgwm, Moel Cynghorion.

A dyna i chi "Yr Wyddfa a'i chriw" megis Clogwyn Du'r Arddu, Llechog, Crib y Ddisgl, Clogwyn Person, Ysgarlwyd, Crib Goch a'r Derlwyn, ac yna ar draws y dyffryn Y Gluder Fawn Gam, Elidir Fawr, Elidir Fach, Mynydd Perfedd, Garnedd y Filiast, Moel Rhiwen ac yn warchodle i geg y dyffryn - yr hen gaer Geltaidd - Dinas Dinorwig.Crib Goch (Pete MacMillen)

Yn swatio yn uchel yn y Grog ddyffrynnoedd y mae llynnoedd Arddu, Dwythwch, Cwn a Chwm Glas. Llifa dyfroedd y rhain i'r llynnoedd mawrion ar lawr y dyffryn - Peris a Phadarn. Dyma enghraifft o un llyn mawr wedi ei rannu ('ribbon lakes') gyda rhan newydd o Lanberis wedi ei godi ar y bala.

Yma, yn un o'r llynnoedd erbyn hyn, y triga'r pysgodyn Oes yr I芒 rhyfeddol hwnnw - Y Torgoch. O'r rhain fe lifa'r dyfroedd ar hyd gwely troellog yr Afon Saint neu'r Seiont i Fae Caernarfon. Dim rhyfedd fod yr ardal yn dynfa fythol i ddaearegwyr, daearyddwyr a botanegwyr o bob rhan o Ynysoedd Prydain.

Maent yn sangu ar rai o greigiau hynna'r byd, yn chwilota am blanhigion Alpaidd prin ac yn cael eu hamgylchynu gan ddyffrynnoedd a mynyddoedd sy'n cynnwys nodweddion clasurol effeithiau rhewlifau Oes yr I芒.

'Mewnlifo tymhorol'

Yn ychwanegol at y dysgedig rai, daw y dringwyr a'r fflud o dwristiaid tymhorol. C芒n nhw eu croesawu 芒 breichiau agored gan rai, a'u melltithio gan eraill. Y gwir yw fod y mewnlifo tymhorol yma wedi cychwyn dros ddwy ganrif a rhagor yn 么l, yn ystod cyfnod "Y Teithwyr" ac wedi datblygu ers hynny i fod yn brif gyfrwng bywoliaeth llawer yn y fro.

Gwelodd sawl un botensial i'r diwydiant 'newydd' yma ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd pobl yn llifo i'r ardal i brofi dyfroedd llesol Afon Cegin a theithio i ben Yr Wyddfa ar dr锚n! Erbyn hyn, mae'r ardal yn cael ei chydnabod yn chwaraele awyr agored i filoedd.

Ras yr WyddfaMae Ras yr Wyddfa wedi datblygu ac wedi sefydlu ei hun bellach fel un o rasus ucheldir gorau Ewrop os nad y byd. Felly hefyd Marathon Eryri sy'n cael ei gyfrif ymhlith y rhai mwyaf anodd. Cynhaliwyd dwy gystadleuaeth yr 'Ironman' yn y dyffryn, ond digon ansicr yw ei pharhad bellach. Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu 'Snowdome' enfawr yn Glynrhonwy Llanberis, cynllun fyddai'n denu miloedd i'r ardal bob dydd o'r flwyddyn.

Cewri a thylwyth teg

Tybed beth fyddai cewri a chawresau Oes y Cerrig wedi ei ddweud am y datblygiadau modern hyn? Dyma drigfannau awyr agored a mannau ymarferiadau gorchestol Cidwm Gawr, Rhita Gawr, Igyn Gawr, Ebediw a Chawres Peris. Rhain yn 么l chwedloniaeth a wnaeth y fath lanastr caregog yn Nyffryn Peris ac ar gopaon y mynyddoedd uchel!

Tybed a'i eu disgynyddion hwy oedd Ffoulk Jones, Ty Du, Marged Fwyn 'erch Ifan a Cadi'r Cwmglas. Pobl y ddeunawfed ganrif oedd rhain yn enwog am eu cryfder a'u campau ymgodymu gorchestol.

Ond os bu i'r cewri adael eu h么l ar yr ardal mae'r Bobol Bach neu'r Tylwyth Teg wedi britho'r fro a'u gorchestion stimrwg! Dyma drigolion oes cyn-Neolithig. Mae hanesion rhyfeddol am Dylwythau Teg Cwm Glas, Maen Du'r Arddu, Cwm Dwythwch, llethrau Moel Eilio, y Garreg Lefain a mannau eraill wedi goroesi.

Dyma hefyd chwaraele Marchogion Arthur. Ceir gyfeiriadau mynych heddiw at fannau sy'n gysylltiedig 芒'r arwr. Mae ardal Penisarwaun yn arogli o oes Arthuraidd. Dyma leoliad Cegin Arthur, Afon Cegin a Ffynnon Cegin Arthur ac ar draws y dyffryn ar lethrau Cefn Du saif Coetan neu Garreg Arthur. Uwchlaw Llyn Marchlyn Mawr yng nghesail yr Elidir y mae Ogof Arthur.


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.