主播大秀

Gwyn%20y%20Gof

top
/cymru/hanes/safle/lleol/tudalen/Gwyn%20y%20Gof

Crefftwr medrus, canwr da, chyfansoddwr penillion, a chymeriad hoffus, unigryw oedd Gwyn%20y%20Gof. Brodor o Gwmdu, medrai drin traed ceffylau a da yn ogystal 芒'u pedoli.

Dyn Cryf Cwmdu

Dechreuodd Gwyn%20y%20Gof ei yrfa fel gof yn 么l ar ddechrau y 1920au gyda'i frawd Dafydd (a oedd yn of yn y Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd maint y ceffylau a ddefnyddiwyd,) a'i dad 'Evan y Gof'.

Uchafbwynt iddo oedd pedoli buwch i'r diweddar Vincent Davies, Glanyrafonddu Isaf ar ddechrau'r 1960au a gafodd ei ffilmio gan deledu 主播大秀 Cymru fel rhan o raglen ddogfen am "Banc yr Eidon Du".

Medrai fy nhad droi ei law at atgyweirio a thrawsnewid nifer o wahanol beiriannau fferm, yn enwedig yn y cyfnod o ddiwedd oes y ceffylau at oes y tractor, trwy ddefnyddio cylchau olwyn cert i wneud bachyn i dynnu cert ac olwyn teiars tu 么l y tractor. Meddiannol ydoedd ar gorff hynod o ran nerth. Yn ystod helynt diflaniad Sykut, y Pwyl o fferm Cefn Hendre yn 1953, portreadwyd Gwyn Y Gof gan un o bapurau newydd Lloegr fel "The Srong Man Of Cwmdu".

Efail Cwmdu
Gwyn wrth ei waith

Derbyn her

Dyma enghraifft o'i gryfder. Aeth i arwerthiant gefail yn Abergorlech. Prynodd lawer o offer ac yn eu plith hen ffwrn wal. Wedi'r arwerthiant aeth i'r Black Lion i gwrdd 芒 hen gyfeillion ac yn ystod y sgwrsio dyma rai yn betio cyfanswm o dair punt na allai "Gwyn%20y%20Gof "gario y ffwrn adref ar ei gefn.

Cafodd gymorth y diweddar Jim Price brodor o Abergorlech, a ffwrdd ag ef adref. O gofio i bobl ei ddisgrifio yn gawr nid rhyfedd iddo gyrraedd adref fore drannoeth a'r ffwrn ar ei gefn ac ennill y dair bunt a hynny y swm a dalwyd ganddo am yr holl offer a brynodd . Roedd 拢3 yn werth llawer o arian ar ddiwedd y 1950au.

Gweithiwr Caled

Pan ddaeth yr oes ceffylau i ben arall gyfeiriodd i wneud clwydi haearn allan o olwynion certi a'u cario adre' ar ei gefn o Gwmdu i ble bynnag yr oedd yr archeb yn y plwyf.

Clywais Brenda James gynt o Blaenant, Talyllychau (sydd bellach yn byw yn Rhydaman) yn adrodd yr hanes fod "Gwyn%20y%20Gof wedi cyrraedd cl么s y fferm am hanner awr wedi wyth y bore a'r glwyd ar ei gefn," taith o tua 4 milltir o Gwmdu. Gwnaeth ei mam frecwast iddo, cyn cychwyn yn 么l ar y daith adref ac i gyflawni diwrnod arall dyfal o waith yn yr efail. Pris y glwyd, yn cynnwys cludiant, oedd dwy bunt a chweugain.

Gweithiodd yn galed gydol ei oes, rhy galed yn 么l rhai ohonom gan iddo farw yn 1968 yn gymharol ifanc yn 61 mlwydd oed.

Hywel Jones

Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol yn 2008 ar wefan 主播大秀 Lleol.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.