主播大秀

Castell Caernarfon

Cefndir cestyll Cymru

28 Ionawr 2009

Mae haneswyr yn dweud fod dros 400 o gestyll yng Nghymru - y cyfan bron yn adfeilion, a rhai wedi diflannu'n llwyr, ond mae'r olion yn parhau i'n hatgoffa o'u pwysigrwydd yn y gorffennol.

Gyda chymaint o gestyll mewn gwlad mor fach ei maint, mae mwy o gestyll i bob milltir sgw芒r i'w cael yng Nghymru na unrhyw wlad arall yng Ngorllewin Ewrop.

Mae'r cestyll yn cynrychioli cyfnod pan oedd Cymru'n wynebu goresgyniad gan elynion llawer mwy effeithiol na'r rhai oedd wedi ymosod arni o'r blaen.

Roedd cestyll Cymru'n gynnyrch sawl carfan o adeiladwyr a pherchnogion. Yn gyntaf daeth yr ymosodiad Normanaidd, a hwythau'n raddol yn troi'n Saeson. Ymatebodd y Cymry trwy adeiladu eu cestyll eu hunain. I sicrhau'r goresgyniad mewn dau ryfel (1277-78 a 1283-84) cr毛wyd cadwynau o gestyll mawreddog o gwmpas Gwynedd. Fe godwyd ychydig o gestyll wedi'r Goresgyniad terfynol, a nifer eto yn ystod oes Fictoria.

Bu llawer o'r cestyll yn newid dwylo fwy nag unwaith. Os oedd castell yn syrthio i ddwylo'r buddugwyr, gallai gael ei ddefnyddio i'w budd nhw. Weithiau byddai'n cael ei addasu, neu byddai castell newydd yn cael ei adeiladu ar y safle neu gerllaw.

Ar adegau eraill, os oedd y castell wedi ei ddifrodi'n ddrwg mewn brwydr, a bellach yn ddi-werth fel amddiffynfa, byddai'n cael ei ddinistrio fel na allai unrhyw un ei ddefnyddio eto.


G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.