主播大秀

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Canu Plygain

Mae rhai o draddodiadau G诺yl y Nadolig yng Nghymru wedi darfod, ond mae eraill, fel y canu plygain yn y ffilm hwn, yn dal i gael eu harfer.

Daw'r clip uchod o Gantorion Ingli yn canu yn Eglwys y Plwyf, Trefdraeth, a John Bevan yn holi Roy Saer o Amgueddfa Werin Cymru a'r baledwr Elfed Lewis am draddodiad y Plygain ar raglen Y Chwilotwyr, 1975.

Mae nifer o'r traddodiadau sy'n ymwneud 芒'r Nadolig a'r Calan ers talwm yn gwbl unigryw i Gymru. Un o'r rhain yw gwasanaeth y Plygain sy'n dal i gael ei gynnal mewn rhai rhannau o Gymru.

Gwasanaeth cwbl Gymreig yw'r Plygain a gynhelir mewn capel neu eglwys yn gynnar ar fore'r Nadolig neu ar noswyl Nadolig fel arfer. Bydd dynion a merched yn canu carolau hynafol, digyfeiliant fel arfer ac mewn tri neu bedwar llais. Er mai dathlu geni a hanes Crist mae'r geiriau - mae gwreiddiau cerddorol carolau'r Plygain yn ddwfn yn nhraddodiad gwerin Cymru.

Ers talwm, roedd Plygeiniau yn cael eu cynnal mewn gwahanol lefydd yn y plwyf dros gyfnod y Nadolig a hyd at yr hen Galan, Ionawr 13. Yn 么l Dafydd Roberts, y telynor dall o Fawddwy, mewn cyfweliad ar y raglen 主播大秀 Cymru Llon Garol a Ll锚n Gwerin, 1954, roedd gwahaniaeth yn y math o garolau a genid mewn plygeiniau dros Nadolig, a dibynnu pryd caent eu cynnal: adeg y Nadolig newydd, Rhagfyr 25, genedigaeth Crist oedd pwnc y carolau tra cenid am ddyfodiad y doethion a'r seren 诺yl yn nes at yr hen Nadolig, G诺yl Ystwyll ar Ionawr 6.

Yn draddodiadol, digwyddai'r plygain rhwng tri a chwech y bore. Felly byddai'r gwasanaeth yn dechrau mewn tywyllwch ac yn gorffen yng ngolau dydd. Byddai'r eglwys neu'r capel yn cael ei addurno 芒 chanhwyllau ac mae hanesion am d芒n yn cael ei gynnau yn ystod gwasanaeth oherwydd hyn, fel yn achos Eglwys Cilcain a losgwyd wedi gwasanaeth Plygain yn 么l yr hanes.

Gwreiddiau eglwysig oedd i'r hen wasanaethau a gynhelid ar ganiad y ceiliog. Cafodd ei mabwysiadu gan gapelwyr yn ddiweddarach.

Er bod y Plygain yn draddodiad sy'n perthyn i Gymru gyfan, mae ardal Sir Drefaldwyn yn cael ei chysylltu yn arbennig 芒'r gwasanaeth gan fod yr arferiad wedi para mor gryf yno.

Ond yn 么l Arfon Gwilym, awdur Hen Garolau'r Cymru, mae'r Plygain yn mwynhau adfywiad mewn ardaloedd eraill hefyd.

Yn yr hen amser, tua'r 17eg ganrif, dim ond y dynion oedd yn mynd i'r capel i ganu tra'r arhosai'r merched adref i goginio a gwneud cyflaith (taffi triog). Ond erbyn y 19eg ganrif fe 芒i'r merched a'r plant i'r Plygain yn ogystal.

Cliciwch yma am ragor o draddodiadau'r Nadolig yng Nghymru.


Christmas in Wales

Photograph of Father Christmas

Snow is falling...

Welsh traditions, superstitions, recipes, festive hits and more.

Chwedlau Myrddin

Morgana

Straeon a gemau

Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.