主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
主播大秀 Cymru'r Byd - Creu Cenedl

主播大秀 主播大秀page
Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

主播大秀 Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Ll锚n
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Twf Democratiaeth
David Lloyd George
David Lloyd George

Rhagor o ddiwygiadau
Yn 1867 mae鈥檙 Ceidwadwyr o dan Disraeli yn sicrhau ail fesur diwygio sy鈥檔 rhoi鈥檙 bleidlais i bob gwryw sy鈥檔 talu trethi yn y bwrdeistrefi. Yn 1871, yn rhannol am fod y Rhyddfrydwyr Cymreig yn cael eu herlid gan y tirfeddianwyr Ceidwadol, sefydlwyd trefn y bleidlais gudd. Yn 1884 mae鈥檙 Rhyddfrydwr yn sicrhau mesur arall sy鈥檔 rhoi鈥檙 un hawliau pleidleisio i鈥檙 siroedd ag sydd gan y bwrdeistrefi. Yn y flwyddyn ganlynol o dan y Ddeddf Ailddosbarthiad mae ardaloedd trefol a diwydiannol Cymru鈥檔 cael rhagor o seddau yn y Senedd ar draul y siroedd gwledig a鈥檙 trefi marchnad bychain. O ganlyniad mae gan Gymru 34 o aelodau seneddol, 12 yn y gogledd, 14 ym Morgannwg a Sir Fynwy ac 8 yng ngweddill de Cymru.

Yn 1918 rhoddir yr hawl i bleidleisio i bob dyn dros un ar hugain oed, ag eithrio gwrthwynebwyr cydwybodol. Y mae gwragedd dros ddeg ar hugain oed yn cael yr un hawl. Yn 1928 mae pob menyw yn cael yr un hawliau pleidleisio a鈥檙 dynion. Yn 1948 mae鈥檙 hawl i fwy nag un bleidlais - drwy fod yn berchen ar fusnes neu fod 芒 gradd prifysgol - yn cael ei ddiddymu. Etholiad Cyffredinol 1950 felly yw etholiad gwir democrataidd cyntaf Prydain. Mae llywodraeth leol hefyd yn cael ei democrateiddio, yn bennaf o ganlyniad i Ddeddf Cynghorau Sir 1888 a ffurfio cynghorau dosbarth a phlwyf etholedig yn 1894.

Y newid yn natur cynrychiolaeth seneddol
Yn y 1850au yr oedd pob aelod seneddol yng Nghymru fwy neu lai yn perthyn i鈥檙 dosbarth tiriog; erbyn 1906 mae鈥檙 landlordiaid bron wedi diflannu o Dy鈥檙 Cyffredin. Digwyddodd y newid yma yn bennaf yn etholiadau 1868 ac 1885. Yn y naill sicrhaodd Henry Richard fuddugoliaeth ddramatig ym Merthyr Tudful, ac fe gollodd nifer o landlordiaid eu seddau, teuluoedd megis Douglas-Pennant o Gastell Penrhyn. Yn y llall trechwyd perchennog Wynnstay ac etifedd Gelli Aur, y mwyaf a鈥檙 ail fwyaf o鈥檙 stadau Cymreig. Er bod rhai o鈥檙 teuluoedd sy鈥檔 berchen tir yn cefnogi plaid y Chwigiaid, Tor茂aid yw鈥檙 mwyafrif. O ganlyniad i hynny, mae Cymru鈥檔 cael ei chynrychioli yn y senedd gan aelodau adain dde yn bennaf. Ond yn 1880, dim ond pedwar Ceidwadwr sy鈥檔 cael eu hethol, a dim un yn 1906.

Goruchafiaeth y Rhyddfrydwyr
David Lloyd George a Winston ChurchillY Blaid Ryddfrydol sy鈥檔 elwa fwyaf o鈥檙 diwygiadau - y brif blaid wleidyddol yng Nghymru rhwng y 1860au a 1922. Mae鈥檙 blaid yn llwyddo i ddenu cefnogaeth o bob dosbarth a haen o gymdeithas. Mae diwydianwyr yn hoffi polisi marchnad rydd y blaid, mae鈥檙 dosbarth proffesiynol yn hoffi鈥檙 pwyslais ar hunangymorth, fel mae鈥檙 dosbarth gweithiol ar y dechrau; mae tenantiaid ffermydd yn cefnogi mesurau diwygio鈥檙 tir, ac mae鈥檙 Anghydffurfwyr yn gweld mai dyma鈥檙 gobaith gorau i ddatgysylltu鈥檙 Eglwys. I ganol llwyfan Rhyddfrydol diwedd y 19eg ganrif y daw David Lloyd George. Dechreuodd ei yrfa wleidyddol ryfeddol pan gafodd ei ethol yn aelod seneddol Caernarfon yn 1890. Erbyn dechrau鈥檙 20fed ganrif mae鈥檔 ymddangos bod yna wrthdaro rhwng yr hen ddaliadau Rhyddfrydol a鈥檙 galw am ddiwygiadau cymdeithasol. Ond mae Lloyd George, a鈥檌 gynlluniau pensiwn i鈥檙 henoed ac yswiriant cenedlaethol, yn llwyddo i roi i鈥檙 blaid ddelfrydau radicalaidd newydd. Mae鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf yn ergyd farwol i ragolygon Rhyddfrydiaeth.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys

  15. Twf Democratiaeth
    Tud 1, Tud 2,

  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
主播大秀
漏 MM


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy