主播大秀

Joseff

Joseff, Y Bala - enillydd Mastermind Plant Cymru 2009

Enillydd rhaglen 5

Pwnc arbenigol rhaglen 5:

Llyfrau'r gyfres Gwaed Oer

Pwnc arbenigol y ffeinal:

C'mon Midffild!

Mewn rownd derfynol gyffrous a stiwdio llawn tensiwn Joseff o'r Bala ddaeth i'r brig i gipio teitl Mastermind Plant Cymru 2009 gyda dim ond un pwynt yn ei wahanu o a Rhys o Gaerdydd.

Yn y rownd gyntaf roedd Joseff yn ateb cwestiynau ar lyfrau'r gyfres Gwaed Oer ond rhaglenni C'mon Midffid oedd ei destun ar gyfer y rownd derfynol, comedi a gafodd ei darlledu cyn iddo gael ei eni.

"Mae pawb yn licio C'mon Midffild ac mae wedi bod yn ddoniol ers iddo gael ei wneud a bydd yn dal yn ddoniol mewn blynyddoedd i ddod," meddai Joseff.

"Mae pob un cymeriad yn gymeriad mor gryf ac mae'r sgwennu'n anhygoel hefyd." Mae Joseff ei hun yn hoffi ysgrifennu a darllen ac mae'n aelod o Sgwad Sgwennu ei sir.

Er nad yw'n hawdd ateb cwestiynau pan rydych chi'n eistedd yn y gadair ddu o dan y llifoleuadau llwyddodd Joseff i ymlacio ac ymddangos yn gartrefol o dan y pwysau ac yntau wedi hen arfer 芒 pherfformio o flaen cynulleidfa. Mae'n gyn enillydd Eisteddfodol, yn actio mewn clwb lleol ac roedd yn perfformio yn y pasiant yn Eisteddfod y Bala 2009.

Ei hoff bynciau yn yr ysgol yw Cymraeg, Saesneg a Daearyddiaeth, ac yn ei amser hamdden mae hefyd yn mwynhau chwarae rygbi a ph锚l-droed a chan诺io.

"Do'n i ddim yn si诺r o ateb y cwestiwn olaf felly nes i guessio fo!" meddai gan chwerthin. "O'n i'n clywed pobl yn dweud 'wwww...' ar 么l i fi gael o'n iawn. Do'n i ddim yn cyfri'r sg么r ar y pryd ond yn trio canolbwyntio ar ateb y cwestiynau."

"Dwi wedi mwynhau'n fawr. Mi oedd o'n waith caled i baratoi ar gyfer y rowndiau ond mae wedi bod yn hwyl, yn enwedig cyfarfod y bobl eraill."


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.