主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y merched - Emsyl yw'r drydedd ar y dde, mewn coch. Merched o Gymru yn India
Taith Croeso Calcutta, Medi 2003
Bu criw o ferched o Gymru ar ymweliad a Calcutta i weld y gwaith sy'n cael ei wneud ymhlith merched yno.

Emsyl James o Dalybont, Ceredigion, sy'n dweud yr hanes.
Ar ôl yr holl baratoi, casglu arian, meddwl a phoeni mi ddaeth dechrau mis Medi yn ddigon cyflym ac i ffwrdd a mi gyda saith merch arall o bob rhan o Gymru i Calcutta yn ardal Gorllewin Bengal yn yr India.

Roeddwn i wedi cael fy rhybuddio lawer am yr hyn roeddwn am ei weld, beth i'w fwyta, beth i beidio'i fwyta, y tywydd, y pryfed ac yn y blaen.

Felly, rhyw deimlad cymysg o nerfusrwydd a chwilfrydedd oedd yn corddi ynof wrth inni hedfan o Fanceinion i Amsterdam ac oddi yno i Dehli ac ymlaen i Calcutta.

Camu oddi ar yr awyren i ffwrn chwilboeth y ddinas enfawr hon 32 graddC am ddau o'r gloch y bore!!

Ac o'r eiliad hon nes imi gamu yn ôl ar yr awyren am adref ymosodwyd ar fy synhwyrau ymhob ffordd bosib.

Eisteddais yn gegagored yng nghefn y cerbyd simsan a aeth a ni i'r gwesty gan syllu'n ddistaw ar y buchod esgyrnog a grwydrai'r strydoedd, yr adeiladau bregus a oedd yn gartrefi i'r miliynau o bobl a oedd yn byw yno a'r cyrff cysglyd a oedd yn llinellau ar hyd y strydoedd.

Roedd cysgu'n amhosibl i mi y noson honno oherwydd ni allwn gredu mod i yn Calcutta ond ni fu'n rhaid imi atgoffan fy hun o hyn y bore wedyn gan fod y gwres, y swn di baid cyrn cerbydau ar y stryd tu allan yn f'atgoffa nad oeddwn i bellach adref yn nhawelwch ac awyr iach Cymru fach.

Gwaith diflino
Ein gwaith yn y ddinas â'r cyrion oedd cynrychioli Urdd Gobaith Cymru a Chymorth Cristnogol wrth astudio'r elusennau y bu'r ymgyrch Croeso Calcutta yn eu cefnogi dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Merched canolfan SkvisY ddwy brif brosiect yr ymwelsom â nhw oedd Sanlaap a SKIVIS ac am y pythefnos roeddem yn eu dwylo medrus a hwythau'n fwy na pharod i ddangos pob agwedd o'u gwaith diflino inni.

Cawsom ein tywys i ardaloedd golau coch y ddinas; ardaloedd difreintiedig lle'r oedd y problemau cymdeithasol dirifedi yn dorcalonnus ond ni phallodd hyn ar frwdfrydedd unigolion brodorol i geisio gwella eu ffordd o fyw.

Cynhelir dosbarthiadau i'r plant iau, canolfannau ieuenctid i'r ifanc i drafod eu bywydau a gwell dyfodol. Cawsant eu cymell i drafod eu problemau ar ffurf dawns, meim a drama a chawsom gyfle i siarad â'r bobl ifanc yma am eu gobeithion.

Yn amlwg, roedd ganddyn nhw nifer fawr o gwestiynau am Gymru ("close to London?" oedd y ffefryn bob tro!).

Aros yn eu cynefin
Yr hyn â'm synnodd i yn fwy na dim oedd y ffaith nad oedd y bobl ifanc yma am adael y ddinas am fywyd gwell rhywle arall. Roeddent am aros yn eu cynefin pa mor echrydus bynnag eu sefyllfa a cheisio gwellau bywyd ar gyfer y genhedlaeth nesa.

Cyfarfuom â gweithwyr yn yr ardaloedd hyn o bob oedran a chefndir ac roedd edmygedd y trigolion o'r gweithwyr hyn yn amlwg.

Gwelsom y broses hirdymor o achub y merched ifanc yma oddi-ar y strydoedd; roedd rhai ohonynt mor ifanc a 12 oed.

Yna fe'u hebryngwyd i lochesi saff, hapus, i geisio ailadeiladu eu bywydau a'u dysgu sut i ymdopi a'u profiadau trwy lawer o ddulliau gwahanol.

Roedd gan bob un ei stori frawychus ac am bob un a achubwyd yn llwyddiannus roedd degau mwy o ferched yn cael eu cipio bob dydd i fod yn buteiniaid yn y ddinas.

Yn y wlad
I ymweld â'r ail brosiect cawsom benwythnos allan yn y wlad tua theirawr o ganol Calcutta mewn tref fechan or enw Canning.

I mi roedd cyfle i ddianc o swn, llygredd a'r sylw a ddenai wyth merch wen mewn dinas fel hon yn rhyddhad.

Roedd y daith allan i'r wlad yn brofiad ynddo'i hun a'r disgrifiad gorau o'r system draffig yno yw, gwyllt.

Ceir, rickshaws, tramiau a bysus yn llawn dop o bobl yn sgrialu blith draphlith ar draws ei gilydd ond pawb yn gwybod ble roeddent eisiau mynd a dim byd am eu stopio!



Cefn gwlad gorllewin Bengal adeg y monswnYmwelsom â llawer o bentrefi ar y ffordd i Canning ble sefydlwyd nifer o grwpiau i roi cyfle i fenywod ddechrau dysgu sgiliau ymarferol i'w defnyddio i wneud pres i fagu eu plant.

Diwedd y daith, a'n cartref am noson, oedd ffatri o ryw fath a redwyd gan ferched yn unig ac a sefydlwyd ddiwedd y 70au gan bum menyw fentrus.

Diflasu ar grafu byw
Roeddent yn dlawd ac wedi diflasu ar grafu byw bob dydd. Erbyn heddiw mae'r pump yn fenywod busnes llwyddiannus yn gwerthuu cynnyrch masnach teg dros y byd dan labeli fel Traidcraft.

Cyflogwyd menywod lleol a ddeuai yno i ddysgur sgiliau i greu deunyddiau anhygoel o hyfryd a chael cyfle iw prynu!.

Roedd gan bawb swydd yno o lifo'r deunydd, y dechneg batik boblogaidd neu'r printio-bloc gofalus.

Yma hefyd y cawsom y bwyd cartref gorau, daal melys, reis blasus a'r holl gynhwysion yn creu y fath wledd liwgar y gallwn fod wedi bwyta am byth.

Daeth ein hamser yn Canning ac yn wir yn Calcutta i ben yn llawer rhy fuan.

Amhosib egluro
Mae'n amhosib esbonio a chreu darlun o bopeth y gwelsom ar y daith mewn ychydig eiriau. Nid yw'r lluniau yn darlunio'r lliw yn ddigon byw, na'r arogleuon a lenwodd ein ffroenau, na blas y ffrwythau lliwgar y buom yn eu bwyta yn syth oddi ar y coed, na'r haul tanbaid ar ein cefnau, na'r brwdfrydedd heintus na balchder y bobl yn eu dinas.

Er mor hawdd yw hi i mi lithro'n ôl i fywyd bob dydd yma yng Nghymru yn awr ond mae yna rywbeth yn ddyddiol yn fy atgoffa i o'r degau o bobl a phlant y cyfarfuom â hwy ar y daith anghredadwy hon.

Sylwais ar faint yr agendor rhyngddom ni yn y gorllewin cyfoethog a thlodi enfawr y wlad hon.

Mae'n anodd amgyffred maint y broblem na swm y boblogaeth sy'n dioddef.

Rwy'n ddiolchgar iawn am gael y cyfle i weld cyfoeth y gwaith da sy'n cael ei wneud yn y rhan hon o'r byd ac fe fydd, heb amheuaeth, yn brofiad a fydd yn aros gyda mi am byth.

Nawr, ein swyddogaeth yw lledaenu'r hanes am y daith mor eang a phosib a chan ein bod wedi mwynhau'r profiad gymaint gobeithiwn y bydd hyn yn hawdd ac bydd eraill yn mwynhau gwrando ar y straeon ac yn stopio am eiliad i feddwl am fywyd ochr draw y byd hwn.

PaentioEr enghraifft cymerais ran mew cyfarfod Diolchgarwch plant yn Aberystwyth dros y Sul.

Nid yw hi'n hawdd cadw plant yn hapus ond wrth ddangos ychydig o wrthrychau o'r India a sôn am fywyd un ferch arbennig yno roedd y plant yn fodlon gwrando ac yn ymateb yn dda.

Shompa oedd y ferch ifanc hon a thrwy sôn am ei diwrnod arferol hi roedd y plant yn sylwi ar wahaniaethau bywyd yn yr India a hefyd y tebygrwydd sydd rhwng plant dros y byd.

Mae gan blant ddiddordeb ym mywydau plant eraill ac eisiau dysgu os rhown y cyfle iddynt ac wrth ddod ag ychydig o hiwmor hefyd rydem yn gobeithio cynnal mwy o'r sesiynau hyn.

Addysgu a chodi ymwybyddiaeth oedd pwrpas y daith ac felly nawr cawn y cyfle i wneud hynny.

Os hoffech fwy o wybodaeth am ymgyrch Croeso Calcutta Urdd Gobaith Cymru a Chymorth Cristnogol cysylltwch â:
Llinos Roberts, Swyddfar Urdd, Gwersyll Glanllyn, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd, LL23 7ST 01678 541008
Branwen Niclas, Cymorth Cristnogol, 154 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1RW 01248 353574




cysylltiadau


asia

India
Y gwyllt a'r ecsotig yn Kerala

Brecwast, swper - a darn o lawr i gysgu arno...

Merched o Gymru yn India

Ar dy Feic yn India

Beth Angell yn India




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy