主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Brwydr AIDS Cymraes yn Ethiopia
Dim ond wedi iddi dreulio blwyddyn yno y sylweddolodd Elin Jones wir faint problem HIV ac AIDS yn Affrica.



Yr oedd y ferch 28 oed o Rosygwaliau ger Y Bala yno i gynnig cymorth a chyngor i gleifion.

Er ei bod yn ôl gartref erbyn hyn dywed fod awydd i ddychwelyd i Affrica yn dal i'w chnoi.

"Dwi'n cofio meddwl wrth deithio i iseldir Affrica, O na, be dwi'n neud! Roedd o'n brofiad rhyfedd a gwahanol iawn teithio o foethusrwydd i wlad sydd mor dlawd,"meddai Elin wrth y newyddiadurwraig Lowri Rees.

"Dyma stopio am bryd o fwyd a dwi'n cofio bod yn andros o bryderus ynglyn â be oeddwn i'n ei fwyta rhag ofn mynd yn sâl a phobl yn fy nilyn ym mhobman am fy mod i'n wyn," ychwanegodd.

Heb wybod beth i'w ddisgwyl
Er i Elin weithio gyda chleifion yn dioddef o HIV ac AIDS mewn ysbyty yn Llundain dyma'r tro cyntaf iddi fentro i blith dioddefwyr yn y Trydydd Byd.

Elin a chydweithwyr"Doeddwn i ddim wedi cael y cyfle i feddwl gormod a darlunio'r math o fywyd oedd yn Ethiopia. Dydw i ddim yn meddwl fod yr un ohonom aeth yno i weithio yn gwybod yn union beth i'w ddisgwyl.

"Yn sicr roedd y gwaith dipyn fwy anodd a'r sefyllfa yn waeth nag a fyddai neb erioed ei ddychmygu," meddai.

Yn Humera yn Ethiopia y bu hi'n gweithio'n wirfoddol i gwmni Medicine San Frontier (MSF) sy'n gweithio ymhlith cleifion mewn gwahanol wledydd yn y Trydydd Byd.

"Ar ôl cyrraedd cefais fy nghyflwyno i'r gwaith gan ferch o Awstralia oedd wedi bod yn gwneud y gwaith am flwyddyn ac ar fin mynd adref.

Cymorth a chefnogaeth
"Mae gwahanol agweddau i'r gwaith. Un ydi rhoi cymorth , cefnogaeth a thriniaeth i bobl yn dioddef o HIV ac AIDS yn y gymuned yn Humera ac i chwe chymuned arall. Mae na dipyn o bobl yn dioddef," meddai.

"Roedd rhaid cydweithio yn ddyddiol gyda phobl yn y gymuned, fel mae'r athrawon, y ganolfan iechyd, gweithwyr crefyddol, Sefydliad y Merched a chlybiau gwrth HIV. Pobl ifanc oedd y rhain ac yn cymryd cyfrifoldeb yn ee hamser hamdden i ddysgu eraill am HIV ac AIDS drwy wneud dramâu ac ati."

"Ein gwaith oedd dysgu pobl beth ydi AIDS a sut i atal yr afiechyd a hefyd i helpu y rhai oedd yn dioddef i ddelio gyda'r afiechyd."Er bod y bobl yn Humera yn gwybod am HIV a sut mae o'n cael ei drosglwyddo mae ei hagwedd yn eithaf naïf ac maen nhw'n dueddol o feddwl na wnaiff o byth ddigwydd i mi."

Gwerthu eu cyrff
"Un o broblemau Humera ydi, bod cannoedd o ferched yn gwerthu eu cyrff a hynny dim ond er mwyn cael digon o arian i gadw to uwch eu pennau ac i roi bwyd ym moliau eu plant.

"Mae na lwyth o yrwyr loriau yn stopio yn y wlad a llawer iawn o fewnfudwyr yn dod drosodd i chwilio am waith ar y tir. Mae'r holl symudiadau yma yn ychwanegu at y broblem."

"Roedd yn rhaid teithio i wahanol gymunedau er mwyn rhannu condoms a chanolbwyntio ar y merched sy'n gwerthu eu cyrff. Mae'n andros o drist gan nad oes dim dewis gan y merched yma. Yn sicr dydi merched yn Humera ddim mor gyfartal o fewn y gymdeithas ag ydym ni yma.

"Ond dydi pobl eraill ddim yn edrych i lawr ar y merched yma achos maen nhw'n deall nad oes ganddyn nhw ddim dewis arall. Os am fyw a chadw'u teulu'n fyw mae'n rhaid iddyn nhw werthu eu cyrff," meddai.

Heintiau rhywiol
"Ar yr un pryd roedd yn rhaid cyflwyno gwybodaeth am heintiau rhywiol gan fod y bobl sy'n dioddef yn llawer mwy tebygol o gael HIV. Bum yn mynd o amgylch clinics yn rhoi hyfforddiant sut i ddiagnosio haint a sut i'w drin - a rhoi cyffuriau am ddim.

"Mae MSF yn cynnig cyngor hefyd am PMTCT - sef atal trosglwyddo HIV o'r fam i'r plentyn. Mae'r sefyllfa yma eto'n un drist gan fod llawer o blant bach yn cael yr afiechyd yn y groth neu ar fron y fam.

"Mae'n hunllefus gan nad oes llawer o ddewis gan y mamau. Does yna ddim dwr glân, dim pres i brynu siarcol i ferwi dwr ac mae llaeth powdwr yn ddrud. Gall y plentyn farw o afiechyd o'r dwr hefyd."

Agwedd pobl
Tra bu hi yno gwelodd Elin yr agwedd sydd yna ymhlith y cyhoedd tuag at ddioddefwyr HIV ac AIDS.

Dywed fod pobl yn amharod iawn i gael prawf HIV oherwydd y stigma sydd ynglyn â'r afiechyd a'r ofn beth a ddigwydd os bydd prawf yn bositif.

"Erbyn heddiw mae tri grwp cefnogi ar waith gyda tua 27 ymhob grwp. Mae mwy o bobl yn barod i dderbyn y ffaith eu bod yn dioddef o'r afiechyd gan eu bod yn ymwybodol fod cefnogaeth ar gael.

"Roedd hi'n bwysig bod y bobl yn deall nad yw HIV yn golygu y byddan nhw'n marw fory. Mae'n rhaid i'w hagwedd fod yn bositif a'u bod yn cael cariad, chefnogaeth, a'u derbyn yn y gymuned."

Afiechyd arall
Nid ymwneud â HIV ac AIDS yn unig oedd Elin a byddai'n cynghori ynglyn ag afiechydon eraill hefyd.

"Un o'r swyddi oedd trin pobl yn dioddef o Kala Azar - afiechyd sy'n lladd cannoedd ar filoedd o bobl yn y trydydd byd er bod modd ei wella.

"Mae pobl yn dioddef o'r afiechyd wedi iddynt gael eu brathu gan sandfly sydd yn byw yn y coedwigoedd acasia.



Ymgyrchu i addysguHeb driniaeth, mae'r claf yn marw, meddai.Er i'r gwaith fod yn anodd dywed Elin ei bod yn gwerthfawrogi ei chyfnod yno.

"Mae gwaith MSF yng ngwledydd y Trydydd Byd yn arbennig. Roeddwn i'n gweithio gyda thîm ac mi roedd ein cydweithrediad ni i gyd yn sicrhau llwyddiant ar ddiwedd y dydd.

Wedi blino
"Mi gefais i blwc o hiraeth - wedi imi gael fy nharo yn sâl gyda malaria. Mae bod yn sâl mewn gwlad fel Ethiopa yn anodd iawn gan fod rhywun yn poeni beth sy'n bod. Ac er bod rhywun yng nghanol doctors a nyrsus profiadol mae rhywun yn dal i hel meddyliau.

"Mae'n rhyfedd bod adref rwan a gorfod wynebu realiti, pethau normal fel delio a phost a banciau a biliau. Dwi'n ei chael hi'n anodd weithiau cael sgwrs gyffredin gyda ffrindiau a theulu. Dwi heb siarad am bethau bob dydd gyda phobl am flwyddyn gyfan. Mae'n cymryd amser i ddod yn ôl i drefn.

"Ond, dwi wedi dysgu llwyth yno ond dwi hefyd wedi blino'n ofnadwy. Yn Ethiopia roedd yn rhaid codi chwech y bore a gweithio tan saith. Dwi wedi blino yn gorfforol ac yn feddyliol ond mewn ychydig wythnosau dwi'n bendant o ail gychwyn."

Cliciwch i ddweud am eich profiadau chi dramor.






cysylltiadau


ewrop

Ethiopia
Mynd i nyrsio yn Ethiopia

Brwydr AIDS Cymraes yn Ethiopia




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy