主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mwynhau'r Gymraeg yn Halle Dysgu Cymraeg gyda phinsied o halen
Britta Schulze-Thulin yn sôn am ddysgwyr sy'n cael blas ar y Gymraeg yn yr Almaen

Mae llawer o bobl yng Nghymru'n dysgu Cymraeg nawr - ond beth am wledydd eraill?

Byddech yn synnu faint o Gymraeg sydd ar gael yn yr Almaen - yn nhref Halle ar lan Afon Saale.

Hen dref ydy Halle wedi cael ei chrybwyll gyntaf yn 806 ac yn dathlu 1,200 mlynedd eleni, 2006.

Mae 237,000 o bobl yn byw yno ac ar wahân i'r halen sy'n dal i gael ei gynhyrchu yno mewn dull traddodiadol mae'n adnabyddus oherwydd ei chysylltiad â'r cyfansoddwr Handel, ei hamgueddfa Beatles ac am ddau gastell.

Handel - gerbron Eglwys y farchnad yn HalleYn ôl y chwedl tarddiad yr enw Halle yw'r gair Celtaidd am halen gan i halen gael ei gloddio yno ers dwy fil o flynyddoedd cyn geni Crist.

Ond er mor hyfryd yw'r syniad hwn y gwir yw na ddaeth y Celtiaid cyn belled i'r gogledd a hyn - mae Halle yng nghanol yr Almaen ond y Celtiaid yn trigo fwy i'r de tua Bafaria.

Beth bynnag am hynny, mae'n lle Cymreig iawn erbyn hyn gyda chyrsiau Cymraeg ar gael er 1993 - ym mhrifysgol Halle yn gyntaf ac yna, er 2002, yn y ganolfan addysg i oedolion hefyd.

Mae dau neu dri chwrs bob blwyddyn gyda phob un yn parhau am dri neu bedwar mis.

Mae cyrsiau carlam hefyd a phobl o cyn belled â Stuttgart, tua 450 milltir i ffwrdd, yn eu mynychu.

Yn 2003 bu Cyfarfod Siaradwyr a Dysgwyr Cymraeg yr Almaen" cyntaf yn Halle yn cael ei ddilyn gan gyfarfodydd Cymraeg eraill yn Berlin (2004) a Basel (2006).

Eleni cychwynnwyd Siop Siarad mewn tafarn Wyddelig - does dim tafarn Gymreig yn Halle hyd yn hyn! - lle mae grŵp bach yn cwrdd bob pythefnos i siarad Cymraeg.

Maen nhw'n trafod llawer o themâu ac yn codir baner Cymru bob tro.

Erbyn hyn mae mwy a mwy o bobl leol eisiau dysgu'r Gymraeg a darperir teithiau o amgylch y dref drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond peidiwch disgwyl clywed pawb yn Halle yn siarad Cymraeg - yn hytrach, cysylltwch ar ebost â mi.

Mae Halle yn dref ddiddorol iawn gyda chroeso cynnes bob amser - a hwnnw yn y Gymraeg hefyd os dowch ar draws y person iawn!

  • Cyhoeddir yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch






  • cysylltiadau
  • Britta Schulze-Thulin

  • ewrop

    Yr Almaen
    Dysgu Cymraeg gyda phinsied o halen

    Pen-blwydd gyda'r fyddin

    Llyfrau Cymraeg mewn Almaeneg




    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy