主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y frwydr yn erbyn HIV
Dafydd Tudur o Gymorth Cristnogol

Y frwydr yn erbyn HIV yn Nicaragua Rheoli lledaeniad HIV yw un o'r sialensau mwyaf sy'n ein wynebu fel dynolryw ar hyn o bryd.

Eisoes, mae 40 miliwn o bobl y byd yn HIV positif.

Mae dros 60 y cant ohonynt byw ar gyfandir Affrica, ac mewn rhai gwledydd, mae cymaint ag un o bob pump oedolyn yn HIV positif.

Nid yw HIV wedi cyrraedd lefel epidemig yn Nicaragua. Yn ôl yr ystadegau swyddogol, tua 0.2 y cant o'r boblogaeth (tua 5,600 o bobl) sy'n byw gyda'r firws.

Cyflymach mewn gwledydd tlawd
Serch hynny, mae'r firws yn gwasgaru gyflymaf mewn gwledydd tlawd - oherwydd diffyg addysg ynghyd â diffyg cyfleusterau a chyflenwadau meddygol - a chan fod mwyafrif poblogaeth Nicaragua yn blant a phobl ifanc, mae perygl gwirioneddol y gallai HIV ledaenu'n gyflym yno dros y chwarter canrif nesaf.

Os yw HIV am gael ei reoli yn effeithiol yn Nicaragua, rhaid codi ymwybyddiaeth ynglŷn â'i natur a'i beryglon.
Un o'r cyrff sydd wedi sylweddoli hyn yw'r Eglwys Lutheraidd.
Mae ILFE (Eglwys Lutheraidd - Ffydd a Gobaith) yn gorff o 40 o bobl sy'n cynrychioli holl eglwysi Lutheraidd Nicaragua. Cafodd ei sefydlu ym 1990 a daeth yn bartner i Gymorth Cristnogol y llynedd.

Dyletswydd y Cristion
Cred ILFE y dylai codi ymwybyddiaeth ynglŷn ag HIV fod yn un o flaenoriaethau Cristnogion yn y gymdeithas a dadleua fod y gwaith hwn wedi ei wreiddio'n gadarn yn nysgeidiaeth y Beibl.

Yn ôl Esgob Victoria Cortes, Pennaeth yr Eglwys Lutheraidd yn Nicaragua, nid cosb ar yr unigolyn yw HIV. Pwysleisia fod Duw yn caru pawb yn ddiwahân.

Dafydd Tudur yn siarad gyda'r Esgob Victoria CortesDyma sy'n arbennig am waith ILFE.
Mae sawl mudiad seciwlar yn ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â HIV yn Nicaragua, ond yr Eglwys Lutheraidd yw'r corff eglwysig cyntaf i weithio yn y maes.

Rhoi'r gwaith mewn cyd-destun Cristnogol yw'r cam cyntaf yng nghynllun ILFE.
Fe'i dilynir gan drafodaeth bellach ar HIV fel firws, ei drosglwyddiad o un person i'r llall, ei gysylltiad â rhywioldeb, a chwestiynau ynglŷn â hawliau dynol.

Mae gweithgaredd ILFE yn cynnwys cynnal gweithdai, perfformio dramâu a chynhyrchu llenyddiaeth berthnasol.

Ariennir y rhain gan gyfraniadau oddi wrth gefnogwyr Cymorth Cristnogol.



Croes ar wal yr Eglwys LutheraiddEraill yn dangos diddordeb
Ers i'r gwaith ddechrau, mae eglwysi eraill hefyd wedi cymryd diddordeb yng ngwaith ILFE. Maent yn cynnwys Mormoniaid, Mennoniaid ac eglwysi Efengylaidd.

Hyd yma, mae arweinwyr yr Eglwys Gatholig, oherwydd eu dysgeidiaeth ar ddulliau atal-cenhedlu, wedi bod yn gyndyn i drafod lledaeniad HIV yn Nicaragua ond cafwyd awgrym yn ddiweddar y gallai'r Eglwys newid ei safbwynt ar y mater hwn yn y dyfodol agos.

Dengys y sefyllfa yn Nicaragua pa mor ddylanwadol y gall yr eglwysi fod yn y frwydr yn erbyn HIV ac y mae gwaith ILFE yn enghraifft o'r modd y gall Cristnogion, trwy fynd i'r afael a phroblemau'r byd cyfoes, newid agweddau a chynnig arweiniad yn y gymdeithas.





cysylltiadau
  • Erthyglau eraill Dafydd Tudur o Nicaragua

  • de_america

    > Brasil
    > Yr Ariannin
    > Periw
    > Nicaragua


    Erthyglau Patagonia

    Marw hanesydd blaenllaw

    Anrhydeddu Dewi Mefin

    Y frwydr yn erbyn HIV



    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy