主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gaynor yn barod i gychwyn Mewn lori i Zagreb
Meddygon yn cael eu saethu a henoed yn bwydo henoed

Cymraes yn sôn am yr hyn a welodd yn Zagreb

Mae Cymraes a fu ar daith elusen i Zagreb yn awr yn paratoi ar gyfer taith debyg i Belarus yn yr hydref.

Dywedodd Gaynor Jones, ymchwilydd teledu yng Nghaerdydd y bydd y problemau yno yn wahanol i'r rhai erchyll a welodd yn Zagreb.

Yn Belarus mae'r tir wedi ei lygru gan ymbelydredd trychineb Chernobyl.

"Mae eu anghenion yn wahanol yno, mae angen bwydydd tun, tabledi fitamin, cadachau ysbytai."

Cysgu'n waeth na gyrru!

Yn ddiweddar yr oedd yn un o griw o bobol a fu'n gyrru fan saith tunnell a hanner gyda nwyddau o Gaerdydd i Zagreb.

"Roeddwn i'n un mewn elusen - Convoy of Hope - yn mynd â nwyddau allan i Croatia," meddai. "Taith barodd ddeng niwrnod."

Yr oedd yn brofiad gyrru fan fawr, y fwya y gall rhywun ei gyrru heb drwydded arbennig. "Ond mae rhywun yn cynefino yn ddigon clou."

Y gwaetha oedd ceisio cysgu yn y fan - roedd hi mor oer.

Gyrru i Dunkirk ac ymlaen drwy Wlad Belg i ffiniau'r Almaen ac Awstria.

Roedd tipyn mwy o gysur yn y gorsafoedd petrol ar yr Autobahns gyda chawodydd a dwr twym yno meddai Gaynor. Ond roedd yn dal i orfod cysgu yn y fan.


Gwraig weddw â deg o blant

Gyrru wedyn drwy Slovenia. "Roedd y pentrefi fel rhywbeth allan o Hans Christian Andersen," meddai. "Tirwedd a bryniau hyfryd.

"Daeth yr heddlu i'n tywys i ganol Zagreb. Roedden ni'n mynd â nwydde i warws yng nghanol y ddinas - warws oedd yn eiddo i elusen Gatholig.

"Buon ni'n ymweld â tri theulu oedd yn elwa o'r elusen. Un ohonyn nhw oedd gwraig weddw yn ei thridegau â deg o blant ganddi.

Athro'n dibynnu ar elusen

"Teulu arall welson ni oedd teulu gyda saith o blant - athro oedd y tad, rhyfedd meddwl fod athro yn gorfod dibynnu ar elusen mewn unrhyw wlad, a roedd y plant yn bencampwyr gwyddbwyll.

"A'r teulu arall, roedd saith o blant yma hefyd a nith i'r teulu gyda nhw. Roedd hi'n blentyn dan anfantais. Roedd y teulu cyfan yn byw mewn fflat gyda dwy stafell wely.

"Roedd gwragedd y ddau deulu dwetha yn fenywod cryf iawn, y ddwy wedi bod yn y rhyfel yn ymladd yn erbyn y Serbiaid."



Cartref plant ger Reyka ar arfordir CroatiaBuon nhw wedyn yn ymweld â chartref plant yn cael ei redeg gan leianod - tua 40 o blant, y rhan fwya ohonyn nhwn blant mân iawn, ychydig fisoedd oed.

"Roedd yn gartre hyfryd," meddai Gaynor.

Rhesi o welyau fel caetsus

"Roedden nhwn eitha lwcus yn cael cyllid gan elusennau tramor. Fe fuon ni mewn cartre mewn pentre rhyw awr tu allan i Zagreb oedd yn cael ei redeg gan y wladwriaeth ac yr oedd hwnnw yn ofnadwy.

"Roedd y plant yn anabal yn feddyliol a chorfforol. Roedd tua hanner cant ohonyn nhw a phedwar o staff yn rhedeg y lle.

"Roedd y lle yn hollol ddigysur - rhesi o welyâu, fel cages.

"O edrych yn ôl roedd en brofiad emosiynol iawn - ar y pryd roedden nin rhuthro o un lle ir llall a ddim yn gallu cymryd y cwbwl mewn ar y pryd.

"Roedd canol Zagreb yn ymddangos yn eitha ffyniannus gyda siopau mawr. Ond aethon ni i Petrina lle bur brwydro a roedd yr hewlydd yn dyllog. Roedd llawer o adeiladau pren, dylanwad Eglwys Uniongred Rwsia, a cherfiadau arnyn nhw.

"Roedd yna dai gweigion yma a thraw ac ôl tân, ac Eglwysir grefydd Uniongred Rwsiaidd wedi eu difrodi.

"Maer Serbiaid yn perthyn ir Eglwys Uniongred - Pabyddion ywr Croatiaid.

"Yn Petrina roedden nin ymwybodol iawn fod yna lot o ddynion oboitur lle ar rheswm am hynny oedd mai dim ond 20 y cant oedd yn gweithio - a dim byd gan y gweddill iw cynnal nhw."

Saethu 70 o feddygon

Aethon nhw i ysbyty henoed, a fu yn ysbyty i rai yn diodde o ddarfodedigaeth. Pan ddaeth y Serbiaid mewn i Croatia fe saethon nhw 70 o ddoctoriaid a staff yr ysbyty. Tu cefn ir ysbyty yr oedd bedd enfawr âr holl gyrff ynddo.

"Roedd yr ysbyty yn llawn henoed yn bwydo henoed - doedd unman ganddyn nhw i fynd," meddai Gaynor.

"Sa in credu bod nhwn hen a dweud y gwir, edrych yn hen on nhw. Roedd pawb yn dod aton ni eisie sigarets.
Buon nhw wedyn yn ymweld â chartref plant yn cael ei redeg gan leianod - tua 40 o blant, y rhan fwya ohonyn nhw'n blant mân iawn, ychydig fisoedd oed.

"Roedd yn gartre hyfryd," meddai Gaynor.

Rhesi o welyau fel caetsus

"Roedden nhw'n eitha lwcus yn cael cyllid gan elusennau tramor. Fe fuon ni mewn cartre mewn pentre rhyw awr tu allan i Zagreb oedd yn cael ei redeg gan y wladwriaeth ac yr oedd hwnnw yn ofnadwy.

"Roedd y plant yn anabal yn feddyliol a chorfforol. Roedd tua hanner cant ohonyn nhw a phedwar o staff yn rhedeg y lle.

"Roedd y lle yn hollol ddigysur - rhesi o welyâu, fel cages.

"O edrych yn ôl roedd e'n brofiad emosiynol iawn - ar y pryd roedden ni'n rhuthro o un lle i'r llall a ddim yn gallu cymryd y cwbwl mewn ar y pryd.

"Roedd canol Zagreb yn ymddangos yn eitha ffyniannus gyda siopau mawr. Ond aethon ni i Petrina lle bu'r brwydro a roedd yr hewlydd yn dyllog. Roedd llawer o adeiladau pren, dylanwad Eglwys Uniongred Rwsia, a cherfiadau arnyn nhw.

"Roedd yna dai gweigion yma a thraw ac ôl tân, ac Eglwysi'r grefydd Uniongred Rwsiaidd wedi eu difrodi.

"Mae'r Serbiaid yn perthyn i'r Eglwys Uniongred - Pabyddion yw'r Croatiaid.

"Yn Petrina roedden ni'n ymwybodol iawn fod yna lot o ddynion oboitu'r lle a'r rheswm am hynny oedd mai dim ond 20 y cant oedd yn gweithio - a dim byd gan y gweddill i'w cynnal nhw."


Yn wlad mor bert

"Roedd hi'n wlad mor bert, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn, mor lân. Ac yng nghanol hyn i gyd roedd pentrefi wedi ei dinistrio ac eiddo wedi eu gadael ar ochr y ffordd. Yr holl ddistryw yng nghanol gwlad lle roedd natur yn adnewyddu ei hun.

"Cyn mynd doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Ond rwy'n medru meddwl yn gliriach nawr am beth sydd ei angen ar y ffoaduriaid yma. Mae tua 20,000 ohonyn nhw er tref fach Knin. Does yna ddim gwaith yna, dim diwydiant i gynnal y bobol.

"A dim ond y ganolfan Gatholig i'w cynnal. Cyn gynted ag yr oedden ni'n cyrraedd yr oedd criw yn ymgasglu ar unwaith.

"Ar ddydd Sul yr oedd chwe offeren yno a 1,000 o bobol ym mhob un."

Pobol eisie siarad

Aethon nhw i lawr wedyn tuaat Fôr yr Adriatig ac i dref fach ger Trieste oedd wedi cysylltu â'r elusen.

"Roedden ni'n cael shwt groeso ym mhob man. Pobol eisie siarad â ni, eisie gwbod beth o'n i'n wbod am eu gwlad nhw," meddai Gaynor.

"Rydyn ni'n gobeithio mynd mâs ag adeiladwyr gyda ni tro nesa. Mae angen darparu rhywbeth mwy cynaladwy ar eu cyfer.

Nwyddau i'r bobl sydd eu hangen

"Eto roedd rhywbeth boddhaol iawn ynglyn â'r holl beth. Rydych chi'n casglu'r nwydde ac yn mynd ag e i'r pen. Mynd ag e i'r bobol sy angen e.

"Am dri mis fu dim byd arall yn fy mywyd i - codi £2,000 am y fan, casglu'r nwydde, pacio. Mae'r ty wedi bod yn llawn o bob math o bethe, tair tunnell o nwydde - bwyd, dillad, siocled."

Ac yn awr mae Gaynor yn paratoi am y daith i Belarus lle mae'r amghenion yn wahanol eto.

"Mae mae angen bwydydd tun, tabledi fitamin, cadachau ysbytai."

Sefydlwyd yr elusen Convoy of Hope yn 1992 gan ddau ddyn, un ohonyn, Mike Rye, o Gaerdydd a'r llall o Lerpwl.

"Roedd y criw oedd ar y convoy yn grêt - y math o griw cymysg na fyddech chi byth yn cwrdd â nhw gyda'i gilydd yr un pryd. Roedd yna heddwas, dyn sy'n rhedeg siop chips, gwraig ty a roedd yna ddyn anabal wrth ddwy ffon, ond oedd yn fwy chwim na neb ohonon ni."

Yn y cyfamser mae Gaynor yn casglu eto. Os ydych chi am gysylltu â hi mae hi'n gweithio yn Adran Adloniant Ysgafn HTV ar hyn o bryd neu cysyllwtwch a Cymru'r Byd






ewrop

Croatia
Mewn lori i Zagreb




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy