主播大秀

Ennill gyda drama yn ei enw'i hun

Gruffudd Eifion Owe, Gwennan Evans ei gariad a Huw Owen ei gyfaill

Yr oedd enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd, eleni wedi cael rhybudd beth i'w ddisgwyl.

Yn cyd-deithio ag ef i'r Eisteddfod ddoe yr oedd ei gyfaill Huw Owen a enillodd goron yr Eisteddfod y llynedd.

Ac eleni cafodd yr aelod o'r gynulleidfa, y llynedd, y profiad o fod ar y llwyfan wedi i'w ddrama, Nialwch gael y ganmoliaeth uchaf gan feirniaid y gystadleuaeth, Bethan Jones a Manon Steffan Ross.

Yn cyffwrdd

"Mae'n ddarn o theatr sy'n cyffwrdd go iawn," meddai Manon Steffan Ross yn traddodi'r feirniadaeth.

"Yn deimladwy, yn ddwys, mae yna aeddfedrwydd sy'n cynnwys haenau o ddealltwriaeth wedi ei lunio'n grefftus," meddai am y ddrama sy'n ymwneud 芒 thri chymeriad mewn hen festri capel yn y munudau cyn eu marwolaeth ac wrth aros am y foment yn hel atgofion ac yn dadansoddi bywyd a chwilio am gysur yn yr ychydig grefydd maen nhw'n gallu'i dwyn i gof o'u plentyndod.

"Mae'r ddrama hon yn disgleirio, un o'r perlau anghyffredin hynny sy'n datguddio haen newydd gyda phob darlleniad," meddai.

Ac er bod adlais o Beckett ynddi dywedodd ei bod yn fwy nag adlewyrchiad o waith y dramodydd hwnnw.

Dylanwad wil Sam

Ac wrth siarad am ei ddrama wedyn dywedodd yr awdur ei fod yn edmygydd o theatr yr abswrd ac o ddramodwyr fel W S - Wil Sam - Jones.

Diddordeb Wil Sam mewn geiriau a ffordd-o-ddweud yw ei ddiddordeb yntau hefyd meddai.

"Does yna ddim plot, does yna ddim strwythur jyst cymeriadau a iaith ," meddai.

S诺n heb synnwyr

"Dyna sut cychwynnais i sgrifennu'r ddrama - gwrando ar beth oedd gan bobl i'w ddweud. Dwi bob amser yn meddwl bod s诺n heb synnwyr yn well na synnwyr heb s诺n. Mae s诺n iaith yn beth pwysig iawn i mi," meddai.

Ac yntau'n frodor o Bwllheli nid yw ond yn naturiol mai tafodiaith Ll欧n ac Eifionydd a dywediadau'r ardal honno sy'n ei gyfareddu a hynny'n amlwg yn gwneud i rywun feddwl am Wil Sam.

"Dwi'n astudio gwaith Wil Sam ac yn sicr mae o wedi bod yn ddylanwad mawr. Mi gefais i'r fraint i'w gyfweld o ychydig flynyddoedd yn 么l a beryg na fuaswn i wedi mentro sgwennu drama oni bai imi gael treulio amser yn astudio ei ddram芒u o."

Cyfeiriodd hefyd at ei hoffter o Aled Jones Williams, Beckett a Brian Friel.

Cynganeddu yn help

Dywedodd i'w ddiddordeb mewn barddoni a chynganeddu hefyd fod o help iddo gyda'i ymdrechion i sgrifennu drama.

""Mi ddechreuais i gynganeddu ac mae hwnna wedi bod yn wers fawr o ran cynildeb a sut mae dethol geiriau a gwrando ar s诺n pethau a meddwl ddwywaith cyn sgrifennu," meddai.

Datgelodd hefyd gyfrinach, mai amrywiadau ar ei enw ef ei hun yw' enwau'r tri chymeriad yn y ddrama fuddugol.

""Sol ydi enw un cymeriad a Sol ydi enw'r teulu. Ac wedyn, Eifion fy enw canol yn gymeriad a chymeriad o'r enw Guto yn llygriad o Gruffudd!" meddai.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.