主播大秀

Ail Dlws Prif Gyfansoddwr i Arwel

Arwel Rhys Williams

Yr oedd enillydd Y Fedal Gyfansoddi yn yr Eisteddfod heddiw am ddeuawd ar gyfer piano yn un a fu'n cystadlu sawl ar yr offeryn hwnnw.

Hon yw ei ail fedal gan iddo ennill Tlws y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Conwy ddwy flynedd yn 么l.

Piano a ffliwt y tro diwethaf - deuawd i biano y tro hwn yn Llanerchaeron - dyma'r ail dro i Arwel Rhys Williams ennill Tlws Prif Gyfansoddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Enillodd ei dlws cyntaf yn Eisteddfod Bro Conwy ddwy flynedd yn 么l a'r tro hwn trodd y g诺r ifanc o Lanelli at fro yr Eisteddfod ei hun am ysbrydoliaeth.

Fel yr awgrymai ei ffugenw, Seithennyn, ar gyfer y gystadleuaeth cyfansoddodd darn am foddi Cantre'r Gwaelod ac yn 么l y beirniaid nid oedd amheuaeth mai ef haeddai'r wobr o'r saith oedd yn cystadlu.

Ar wah芒n i ddweud i'r darn a gyfansoddodd orffen braidd yn rhy gynnar yr oedd canmoliaeth Guto Pryderi Puw yn hael iddo o'r llwyfan ac wedi'r seremoni i'w urddo'n brif gyfansoddwr dywedodd Arwel Rhyd Williams bod y sydynrwydd hwnnw yn fwriadol gan i'r m么r ddod i mewn a boddi'r cyfan.

"Doedd yna ddim wedyn," meddai.

"Deuawd ar gyfer piano sydd gan Seithennyn ar y teitl Cantre'r Gwaelod gyda'r cyfansoddwr yn gyfforddus hyderus," meddai Guto pryderi Puw wrth agor y rhan hon o'i feirniadaeth.

"Yr oedd yr ymdriniaeth o'r harmoni yn gyson ac yn synhwyrus drwyddo draw ac fe lwyddodd y gerddoriaeth i danio delweddau argraffiadol o'r m么r yn effeithiol dros ben," meddai.

"Rhoddwyd gofal mawr i saern茂aeth . . . fel eu bod yn rhyngweithio yn gyfforddus gyda'i gilydd," ychwanegodd am y ddau ddarn.

"Yn sicr, yr oedd o safon uchel," meddai.

"O gysidro'r saith cyfansoddiad yn eu cyfanrwydd yr oedd yn gymharol hawdd dewis gan fod un gwaith yn sefyll ben ac ysgwydd uwchlaw y lleill o ran saern茂aeth, yr ymdriniaeth o'r arddull a chysondeb yr iaith gerddorol," meddai wrth gyhoeddi ei ddyfarniad.

Ers ennill yng Nghonwy yn 2008 mae Arwel wedi cwblhau gradd meistr ym Mhrifysgol Kingstone yn Llundain mewn cyfansoddi ar gyfer ffilm a theledu.

Dychwelodd wedyn i Fangor i ddilyn cwrs athro ac erbyn hyn mae'n dysgu yng Nghanolfan William Mathias yng Nghaernarfon ac yn ymweld ag ysgolion yn dysgu canu'r piano.

Dywedodd mai fel pianydd y dechreuodd ef gan droi wedyn at gyfansoddi.

Dywedodd na fydd trydedd gwobr yn yr Urdd gan ei fod yn 24 ddydd Sadwrn ac felly bydd dros oes cystadlu y flwyddyn nesaf.


Lluniau'r Maes

Cymerwch olwg ar y luniau dydd Llun a Mawrth o faes Llanerchaeron.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.