主播大秀

Hen lyfr - gweler Gwneud Argraff

Dyddiadur Dyddiol (4)


Briwsion bob dydd

Nodiadau dyddiol o faes yr Urdd

G诺yl gynnar ydi Eisteddfod yr Urdd.

Ddydd Llun, Mawrth a Mercher yr oedd cystadleuwyr yn dechrau hidlo i'r maes rhwng chwech a saith y bore.

Erbyn wyth yr oedd y llwybrau'n dew o gystadleuwyr yn chwilio am babell eu rhagbrofion - rhai yn cnoi geiriau dan eu gwynt rhag eu anghofio ar eiliad dyngedfennol ar lwyfan.

Gan ddychwelyd wedyn i gofleidio, llongyfarch a gweiddi, "Da ni drwodd!"

Mae'r stiwardiad hwythau wrth eu gwaith cyn chwech y bore yn y meysydd parcio.
"Mae'n bwysig cael y rhes gyntaf yna'n iawn," meddai un ohonyn nhw wrth eich gosod yn eich lle.

Ond wrth i'r wythnos hel ei thraed ati ac wrth i oed y cystadleuwyr godi mae awr y cychwyn yn hwyrhau ar y Maes gyda rhyw awyrgylch San Fransisco A Town Like Alice fore Iau a Gwener i faes y bore cynnar oedd yn llawn cymaint o fwrlwm y diwrnodau cynt.

Na, fel y g诺yr pob rhiant; hyna'n byd mae'r plant yma'n mynd, anodda'n byd yw eu cael nhw o'u gwelyau!

Sylwadau llywyddol

Dyn a ddisgrifiodd ei hun fel un nad oedd yn steddfodwr da oedd llywydd y dydd ddoe.

Cyfaddefodd Iolo ap Dafydd hefyd fod dau addewid cyntaf llw yr Urdd - I Gymru, I Gyd-ddyn - wedi taro mwy o dant gydag ef na'r 'I Grist'.

Nid yn aml y mae llywydd a ddewiswyd gan y Steddfod yn siarad mor ddadleuol - a thybed beth fydd yr ymateb i sylw arall a wnaeth nad y cymryd rhan sy'n bwysig ond yr ennill!
Gan gyfaddef mai un rheswm pam na fu e'n cystadlu llawer oedd, y gwyddai nad oedd ganddo obaith ennill!

Cryn waith cnoi cil fan yna.

Gellir darllen mwy am sylwadau Iolo trwy glicio YMA

Gwneud argraff

Mae amseriad Eisteddfod yr Urdd a G诺yl Lyfrau'r Gelli Gandryll yn achosi penbleth i nifer o garedigion ll锚n a fyddai'n dymuno bod yn y ddau le.

St芒d o argyfwng a leisiwyd gan Bethan Gwanas ar y rhaglen radio Stiwdio neithiwr - ac mae'n si诺r bod mwy o'i chynulleidfa hi yn crwydro maes yr Urdd na strydoedd y Gelli.

Ond tybed faint o ddarllenwyr Cymraeg oedd yn sylweddoli ardal mor arwyddocaol yw bro yr Eisteddfod yn hanes y gair printiedig Cymraeg.

Mewn ogof ar lethrau'r Gogarth nid ymhell o faes yr Eisteddfod yr argraffwyd y llyfr cyntaf ar ddaear Cymru.

Yn y dirgel mewn ogof g锚l argraffodd Robert Gwyn a'i gyfeillion Y Drych Cristianogawl yn ystod gaeaf 1586/9.
Yn y dirgel am mai llyfr Pabyddol ydoedd a'r Frenhines Elizabeth wedi gwahardd cyhoeddi unrhyw beth Catholig dan ddeddf gwlad.

Yno yn nhrymder gaeaf bu wyth ohonyn nhw wrthi am dros chwe mis - yn eu plith, Robert Pue, uchelwr Pabyddol a oedd biau'r tir, ei gefnder Hugh Thomas, offeiriad o'r enw William Davies ac argraffydd o Loegr, Roger Thackwell.

Ac er i rai o'r trigolion ddweud wrth ustus heddwch fod rhywbeth amheus yn digwydd yn yr ogof ac i hwnnw godi gwarchae llwyddodd pob un o'r argraffwyr cudd i ddianc - er i Roger Thackwell gael ei ddal ychydig yn ddiweddarach a'i offer argraffu gydag ef.

Er nad oes sicrwydd lle'n union yr oedd yr ogof bwysig hon y mae ffrwyth eu llafur i'w weld mewn c芒s gwydr ym mhabell Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar faes yr Eisteddfod.

Mewn oes pan yw hi mor hawdd cyhoeddi unrhyw rwts mae'n werth mynd draw - nid yn unig i ryfeddu ac i ddychmygu ac i ramantu rhyw ychydig ond i dalu gwrogaeth i rai a fentrodd eu bywyd i roi eu geiriau ar bapur.

Er mwyn y plant

Lle gwell na maes g诺yl ieuenctid i fod yn s么n ac yn siarad am hawliau plant?

Sarah Reed

Ar y maes ddoe yr oedd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, a'i ddirprwy, Sarah Reed, yn clensio cytundeb 芒'r Urdd i sicrhau gwireddu yr hawliau a roddir i blant gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant - hawliau sy'n cynnwys pethau mor sylfaenol 芒'r hawl i bob plentyn siarad ei iaith ei hun, ymlacio ac hamddena a chymysgu a ffrindiau.

Ond fel y rhybuddiodd Sarah Reed:
"Os nad yw plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw fyddan nhw ddim yn gallu datblygu fel dinasyddion y dyfodol."

Llond eu boliau

Yn ddyddiol mae rhyw dderbyniad swyddogol neu'i gilydd lle gall gwahoddedigion o bwys gnoi tameidiau blasus tra'n trafod a 'chymdeithasu'.

Bu'r tameidiau hyn yn arbennig o flasus eleni - wedi eu paratoi gan fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau coginio ac arlwyo yng Ngholeg Llandrillo dafliad carreg o'r Maes.

Heb eithriad, melys moes mwy yw'r farn!

Dyddiadur 5

Dyddiadur 3


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.