主播大秀

Chwifiwn ein baneri

Cyhoeddi llwyddiant

'Llwyddiant ysgubol' er bod niferoedd i lawr

ER i lai o bobl ymweld 芒 hi na'r ddwy Eisteddfod ddiwethaf disgrifiodd yr Urdd Eisteddfod Sir Conwy fel "llwyddiant ysgubol".

Dywedodd Aled Sion, trefnydd yr eisteddfod, i'r Urdd osod nod o 90,000 o ymwelwyr ac i hynny gael ei sylweddoli.

"Yr ydym yn hapus iawn gyda'r tyrfaoedd," meddai fore Sadwrn.

"Yn sicr mae'r incwm tocynnau yn ddigon derbyniol ac yr ydym yn hyderus y bydd yr Eisteddfod yn talu ei ffordd," meddai.

Cafwyd sicrwydd hefyd y bydd yr Eisteddfod yn parhau yn un deithiol gydag Aled Sion yn dweud bod ganddo drefniadau ar y gweill am hyd at y deng mlynedd nesaf.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd natur symudol yr 糯yl gan Tudur Dylan Jones, cadeirydd bwrdd yr Eisteddfod a'r celfyddydau o fewn yr Urdd.

Mewn cyfarfod gyda'r Wasg fore Sadwrn dywedodd:

"Does gan Eisteddfod yr Urdd, mwy nag sydd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, ddim cartref sefydlog. Dyna ei gogoniant, ei bod hi yn 诺yl deithiol."

Ychwanegodd mai un o rinweddau eisteddfod deithiol yw'r effaith y mae'n ei chael ar ardal.

"Un o'r gogoniannau pan ydym yn s么n amdani fel g诺yl deithiol yw bod yr Urdd yn gadael ei 么l," meddai gan gymharu 么l y ceir a'r cerbydau ar y meysydd parcio gydag 么l "mwy parhaol" y digwyddiad ei hun.

"Ymhen mis bydd 么l y ceir wedi mynd ond bydd 么l yr eisteddfod yn para am hyd yn oed fwy nag wyth mlynedd. Fe fydd 么l yr Eisteddfod yn parhau," meddai.

Canmolodd hefyd y cydweithio rhwng gwirfoddolwyr a swyddogion yr Urdd yn gweithio tuag at yr un nod o gynnal Eisteddfod.

"Ac maen nhw cydnabod," meddai am y swyddogion, "na allent hwy gynnal yr Eisteddfod heb y llu o wirfoddolwyr dienw a di s么n amdanyn nhw.

"Mae llwyddiant yr Eisteddfod yn ddrych o lwyddiant yr Urdd yn gyffredinol," ychwanegodd.

"Ac fe fydd yn bodoli am flynyddoedd i ddod," meddai.

Canmolwyd natur deithiol yr Wyl gan Dilwyn Price, cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol hefyd:

"Mi soniais i ar gychwyn yr wythnos mai perl mewn coron o ddiwylliant ydi'r Eisteddfod - coron sy'n mynd o amgylch Cymru, ac mae hynny yn holl, holl, bwysig, oherwydd mae'n rhoi cyfle i bawb ofalu amdani am gyfnod," meddai.

Ond yr oedd nodyn o gerydd am y ffordd yr oedd y cyfryngau wedi cyfleu effaith y tywydd ar faes yr Eisteddfod. "Mae hi wedi bod yn hynod o wythnos lwyddiannus i ni yng Nghonwy," meddai.

Wrth dalu teyrnged i athrawon a chystadleuwyr am deithio milltiroedd i fod ar y maes dywedodd:

"Y ffaith eu bod nhw wedi trafaelio milltiroedd i ddod draw i faes ar 么l clywed gan rai o'r cyfryngau fod yna fwd - a doedd yna ddim. Yn clywed gan rai ar y cyfryngau ei fod yn wlyb - a doedd o ddim. Ond fe ddaethon nhw a'n syfrdanu ni gyda'u talentau.

Selebs

"Mi ofynnodd rhywun i mi oedd gennym ni selebs yn dod i'r Eisteddfod ac mi ddywedais innau, o leiaf bymtheng mil o selebs. Mae pob un plentyn sydd wedi ymddangos yma, mae pob un sydd wedi cystadlu yn selebs ac mae yna filoedd heb gyrraedd yma ," meddai.

Ond doedd dim osgoi'r ffaith fod y 91,849 a fynychodd yr Eisteddfod eleni 8,364 yn llai nag a deithiodd i Rhuthun rai milltiroedd i ffwrdd ddwy flynedd yn 么l ac yn 3,977 yn llai nag a fu yng Nghaerfyrddin y llynedd.

Ond yr oedd y trefnwyr yn fwy na bodlon medden nhw gyda'r ffordd yr oedd yr Eisteddfod wedi mynd ac yr oedden nhw yn arbennig o fodlon gyda'r gornel o'r maes a alwyd yn Bentref Mr Urdd gyda phob math o weithgareddau gydol y dydd dan arweiniad swyddogion y mudiad.

"Roedd y pentref yn rhoi blas o bopeth sydd gan yr Urdd i'w gynnig, o sesiynau chwaraeon, trampolin, adloniant yn y tipi, bar coctels di-alcohol, arddangosfa Lego i beiriant carioci.

"Un o'r uchafbwyntiau oedd parti pen-blwydd Cip yn 21 oed ar y dydd Mawrth," meddai'r Urdd mewn datganiad ddiwedd yr wythnos.

"Mewn datblygiad newydd arall, treuliodd rhai o ddisgyblion Ysgol y Creuddyn yr wythnos yn ffilmio podlediadau dyddiol, gan roi blas o'r hyn sydd gan yr Eisteddfod i'w gynnig ac mae'r ffilmiau i gyd ar wefan yr Urdd," ychwanegwyd.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.