Ö÷²¥´óÐã

25 Maw 2023, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Ö÷²¥´óÐã NOW 2022-23 Tymor Tadaaki Otaka yn arwain Britten and Elgar

Ö÷²¥´óÐã National Orchestra of Wales
Tadaaki Otaka yn arwain Britten and Elgar
19:30 Sad 25 Maw 2023 St David's Hall, Cardiff
Bydd yr Arweinydd Llawryfog poblogaidd, Tadaaki Otaka, yn dychwelyd i Ö÷²¥´óÐã NOW i berfformio ffefrynnau cadarn gan Elgar a Britten, ochr yn ochr â Nocturne i Gerddorfa hudolus gan Elizabeth Maconchy.

Rhaglen

Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn

Bydd yr Arweinydd Llawryfog poblogaidd, Tadaaki Otaka, yn dychwelyd i Ö÷²¥´óÐã NOW i berfformio ffefrynnau cadarn gan Elgar a Britten, ochr yn ochr â Nocturne i Gerddorfa hudolus gan Elizabeth Maconchy.

Yn y rhaglen cwbl Brydeinig hon, sy’n edrych ar gerddoriaeth tri o gyfoedion yr 20fed Ganrif, mae Simone Lamsma, sy’n feiolinydd disglair o’r Iseldiroedd, yn ymuno â ni ar gyfer Concerto hynod boblogaidd Britten i’r Ffidil. Ceir cryn amwysedd yn y darn, sydd wedi’i fynegi drwy harmonïau cymhleth, themâu telynegol synfyfyriol, a nodau rhythmig bywiog. Mae’r concerto yn arddangosfa feistrolgar o bŵer eithriadol.

Mae gan gerddoriaeth Elgar le arbennig yng nghalon Tadaaki, ac mae cynulleidfaoedd yn cael gwledd go iawn gyda’i Ail Symffoni. Mae’r symffoni’n llawn egni, ysblander a mabolgampiaeth cerddorol, ac mae’n cyfleu llif o alawon gwreiddiol, rhythm chwareus a chywrain, a nodweddion disglair a meddal. Mae hwn yn sicr yn gyngerdd na ddylech ei fethu…